AI yn y dosbarth: Y dyfodol neu fodd o dwyllo?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae adolygiad diweddar gan Ofcom yn dangos fod canran uchel o bobl ifanc yn defnyddio AI, neu ddeallusrwydd artiffisial
  • Awdur, Anest Eirug
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru

Gyda ffigyrau diweddar gan Ofcom yn dangos bod pedwar o bob pum plentyn rhwng 13 a 17 oed yn defnyddio AI, neu ddeallusrwydd artiffisial, ma鈥 rhai athrawon yn poeni am effaith hynny ar ysgolion.

Mae mwy a mwy o ddisgyblion yn defnyddio adnoddau fel ChatGPT i鈥檞 helpu gyda gwaith ysgol, ond oes 鈥榥a berygl y gallai pethau fynd yn rhy bell?

Mae aelodau o gyngor digidol Ysgol Bryn Tawe yn dipyn o arbenigwyr ar AI.

Mae Steffan sydd ym mlwyddyn 7 yn dweud ei fod 鈥渨edi defnyddio Chat GPT i helpu fi gyda fy ngwaith" am ei 鈥渇od wedi safio llawer o amser鈥.

Mae Lucas hefyd yn defnyddio AI i helpu gyda gwaith ysgol gan ddweud 鈥渙herwydd bod fi wedi defnyddio ChatGPT fi wedi gweld ffrindie鈥 fi yn defnyddio fe鈥.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai o disgyblion Ysgol Bro Tawe yn dweud bod AI yn helpu nhw gyda gwaith ysgol ac yn arbed lot o amser iddynt

Ar y llaw arall, mae Dominic a Lowri yn llawer llai parod i鈥檞 ddefnyddio.

Yn 么l Dominic, 鈥渕ae yn gallu bod yn help ond mae鈥檔 technically yn cheato oherwydd ti ddim yn neud y gwaith gyd dy hunan鈥.

Ac er bod Lowri yn 鈥渃redu bydd lot o bobl yn defnyddio fe, fi ishe i bobl fod yn ofalus鈥.

Posib bod 'AI wedi creu鈥檙 holl beth'

Yn 么l ymchwil gan Ofcom, mae bron i 80% o blant rhwng 13 a 17 oed yn defnyddio AI.

Wrth bod plant yn llawer mwy tebygol o鈥檌 ddefnyddio nag oedolion, mae 鈥榥a bryder ymysg athrawon.

Disgrifiad o'r llun, Mae Nerys Vaughan yn poeni y bydd disgyblion yn defnyddio AI i gwblhau eu gwaith i gyd, yn hytrach na chynnig help llaw

Mae Nerys Vaughan yn bennaeth cynorthwyol yn Ysgol Bryn Tawe.

Er ei bod hi鈥檔 cyfaddef bod 鈥榥a 鈥渇anteision i ddefnyddio unrhyw feddalwedd a dulliau digidol鈥, mae鈥檔 dweud taw鈥檙 鈥減ryder yw gyda AI yw fydd falle o bosib disgybl yn rhoi darn o waith mewn lle mae AI wedi creu鈥檙 holl beth, yn hytrach na arwain y disgybl ar drywydd ar sut i ddatrys y broblem neu ateb y cwestiwn鈥.

Ai'r system asesu yw鈥檙 broblem?

Ond pa mor hawdd yw hi i athro neu athrawes weld neu adnabod arwyddion o ddefnydd AI yng ngwaith eu disgyblion?

Mae Osian George yn arweinydd Bagloriaeth Cymru a鈥檔 athro Technoleg Gwybodaeth yn Ysgol Bro Edern, ac yn ymddiddori yn nhechnoleg AI.

Disgrifiad o'r llun, Credai'r athro technoleg gwybodaeth Osian George ei bod yn hawdd i athrawon weld y gwahaniaeth rhwng darn o waith disgybl ac AI

Yn 么l Osian, 鈥渕ae鈥檙 athrawon yn bobl proffesiynol, ma鈥 nhw鈥檔 dod i nabod y ffordd mae disgybl yn ysgrifennu a pan maen nhw鈥檔 darllen rhywbeth sydd yn estron falle o beth bydde鈥 nhw鈥檔 disgwyl o鈥檙 disgybl yna, maen nhw鈥檔 gallu dweud yn syth鈥.

Gyda phryderon y gall disgyblion ddefnyddio AI i dwyllo mewn arholiadau neu gyda gwaith cwrs, mae Osian o鈥檙 farn taw nid y dechnoleg ei hun yw鈥檙 broblem.

鈥淥s i ni鈥檔 gweld fod e'n broblem fod disgyblion yn defnyddio AI i dorri corneli, efallai mai鈥檙 system asesu yw鈥檙 broblem ac nid y dechnoleg."

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn barod yn edrych i mewn i fanteision AI yn yr ystafell ddosbarth, tra bod Llywodraeth Cymru鈥檔 dweud eu bod yn 鈥済weithio a phartneriaid ar draws y sector i ddatblygu cyngor a chefnogaeth i ysgolion鈥.