Y Cymro o'r Bala sy'n cystadlu ar RuPaul's Drag Race

Disgrifiad o'r llun, Actavia ydy enw brenhines drag Charlie Lindsay o'r Bala

Mae Cymro o'r Bala yn dweud fod y cystadlu ar raglen RuPaul’s Drag Race UK yn brofiad a hanner.

"Weithiau dwi'n codi a dwi'n goro' pinsio'n hun fod o'n wir!" meddai Charlie Lindsay.

Bydd cyfres newydd y rhaglen Â鶹ԼÅÄ yn dechrau nos Iau, wrth i'r seren drag fyd enwog RuPaul geisio dod o hyd i sêr drag newydd.

Mae Charlie o'r Bala yn un o'r rheiny fydd yn cystadlu eleni.

Bellach yn byw ym Manceinion, ei enw fel brenhines drag ydy Actavia.

'Dal ddim yn teimlo'n wir'

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Iau, dywedodd Charlie nad yw'n gallu credu ei fod ar y rhaglen.

Gyda'r bennod gyntaf yn cael ei dangos nos Iau, dywedodd "'di o dal ddim yn teimlo'n wir".

Dywedodd iddo gychwyn gwylio Drag Race "ac wedyn 'aru rhywbeth just kind of clicio".

Fe ddechreuodd berfformio drag pan symudodd i Fanceinion yn 18 oed, ac erbyn hyn mae'n perfformio o amgylch y DU.

Ag yntau'n mwynhau perfformio, dywedodd fod ei olygon ar berfformio yn yr Unol Daleithiau'r flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o'r llun, Bydd cyfres newydd y rhaglen Â鶹ԼÅÄ yn dechrau nos Iau

Ag yntau'n hanu o'r Bala, dywedodd nad oedd unlle yn yr ardal iddo berfformio drag, ond ei fod wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan bobl yr ardal.

"Ers i'r announcement ddod allan... ma' pawb 'di bod mor brilliant," meddai.

"Dyna 'di'r peth am Bala - ma' pawb yn 'nabod ei gilydd.

"Ma pawb 'di bod yn rili, rili lyfli yn Bala a dwi'n rili gwerthfawrogi nhw."

Dywedodd ei fod wedi bod "eisiau hyn ers cymaint o flynyddoedd".

Ond er ei fod yn cydnabod fod y cyfnodau ffilmio yn waith caled, dywedodd fod cadw'r gyfrinach wedi bod yr un anodd iawn.

"Dwi'n teimlo fel adeg ffilmio dwi'n gweld gwaith mor galed i gael popeth yn barod, ac wedyn ti'n dal 'nôl a gorfod cadw fo'n gyfrinach."

Wrth sôn am y gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn wrth wneud drag, dywedodd fod ei fam "o hyd wedi bod yna i fi - mor gefnogol".

"Dwi o hyd yn edrych fyny iddi hi."