Apêl wedi gwrthdrawiad angheuol ger Llangernyw

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi i yrrwr beic modur gael ei ladd ar ffordd yr A548 ddydd Sadwrn.

Cafodd plismyn eu galw am 14:35 gan y Gwasanaeth Ambiwlans wedi i feic modur wrthdaro yn erbyn fan VW ddu ar gyffordd rhwng Llangernyw a Llanfair Talhaearn.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.

Dywed Heddlu'r Gogledd bod eu hymholiadau yn parhau ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu luniau dash cam i gysylltu â nhw.

Mae teulu'r gyrrwr a fu farw yn cael cefnogaeth gan swyddog arbenigol ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.