'Rhaid i Gymru fynnu ei chyfran o arian HS2'

Ffynhonnell y llun, Bennetts Associates

Disgrifiad o'r llun, Mae ansicrwydd dros statws cymal Birmingham-Manceinion o鈥檙 cynllun rheilffordd cyflym

Mae arbenigwr yn y maes trafnidiaeth wedi rhybuddio y bydd Cymru ar ei cholled yn sgil rheilffordd HS2, "yn enwedig os na fydd y lein rhwng Birmingham a Manceinion yn mynd yn ei blaen".

Mae ansicrwydd dros statws cymal Birmingham-Manceinion o鈥檙 cynllun rheilffordd cyflym wedi bod yn gwmwl dros gynhadledd y Ceidwadwyr, sy鈥檔 cael ei chynnal yr wythnos hon ym Manceinion.

Mae 'na ddarogan y bydd y Prif Weinidog yn atal gweddill y cynllun - a defnyddio'r arian fydd yn cael ei arbed at gynlluniau i wella ffyrdd a rheilffyrdd rhanbarthol yng ngogledd Lloegr.

Er hyn mae'r llywodraeth yn gwadu bod penderfyniad wedi ei wneud eto, gyda Rishi Sunak yn dweud na fydd yn cael ei 鈥渙rfodi i benderfyniad cynamserol鈥.

Ond yn 么l yr Athro Emeritws Stuart Cole, "mae'n rhaid i Gymru fynnu ei chyfran ariannol", os yw'r cymal i Fanceinion yn mynd yn ei flaen neu ddim.

Yr un oedd y ddadl gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a ddywedodd ddydd Mawrth fod Cymru "eisoes wedi colli allan ar 拢270m o ganlyniad i gamddosbarthiad HS2".

Er gwaetha'r ffaith nad yw鈥檔 croesi鈥檙 ffin, mae llywodraeth y DU wedi dadlau y bydd HS2 yn hybu dibynadwyedd, cysylltedd a chapasiti ar lwybrau ledled y DU, gan gynnwys gwasanaethau i mewn i Gymru.

'Dim ond Lloegr oedd e o'r dechre'

Fis Ebrill fe wnaeth Senedd Cymru alw ar Lywodraeth y DU i ailddynodi HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, a rhoi'r "symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru".

Pan fydd Llywodraeth y DU yn gwario arian ar bethau yn Lloegr sydd wedi'u datganoli i Gymru, megis iechyd ac addysg, mae fel arfer yn sbarduno cyllid ychwanegol i Gymru.

Ond nid yw'r rhan fwyaf o seilwaith y rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, ac mae galw HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr yn golygu nad oes arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Mawrth, rhybuddiodd yr Athro Emeritws Stuart Cole fod Cymru - a Chaerdydd yn benodol - ar eu colled yn sgil HS2, yn enwedig os na fydd y lein rhwng Birmingham a Manceinion yn cael ei huwchraddio.

Gyda dadansoddiad Llywodraeth y DU eu hunain wedi dod i'r casgliad y bydd HS2 yn cael effaith negyddol, ar y cyfan, ar Gymru, ychwanegodd yr Athro Cole bod yn rhaid i Gymru nawr fynnu ei chyfran ariannol o'r cynllun.

"Mae hwn wedi bod y pwynt am flynydde, ers i'r peth ddechre yn 2012," meddai.

"Roedd Caerdydd yn negatif, roedd yr adran trafnidiaeth wedi dweud hynny. Doedd y fantais i'r gogledd ddim yn enfawr.

"Y peth ydy, mae Cymru ddim yn cael unrhyw beth allan o'r cledrau o Lundain i Birmingham - dim o gwbl.

"Os unrhyw beth, ni'n cael y peth negative i Gaerdydd.

"Ar hyn o bryd, mae Caerdydd yn competitive i gael back offices o gwmn茂au Llundain achos mae tr锚n bob hanner awr, mae'n gyflym - just dros awr a thri chwarter.

"Mae HS2 yn mynd i wneud hynna'n waeth."

Disgrifiad o'r llun, Yr Athro Stuart Cole: "Rhaid i Gymru nawr fynnu ei chyfran ariannol o'r cynllun"

"Doedd dim rheswm i alw'r prosiect yma'n un Cymru a Lloegr, dim ond Lloegr oedd e o'r dechre.

"Felly mae'n rhaid i ni nawr ddechre cael yr arian.

"Maen nhw wedi gwario dros 拢20bn lan i nawr, felly allwn ni gael y biliwn os gwelwch yn dda?

"Ac wedyn gyda'r cyfanswm o 拢50bn, gallwn ni gael y 拢2.5bn allan o hwnna."

'Y penderfyniad cywir i鈥檙 wlad'

Mae pwysau鈥檔 cynyddu ar y Prif Weinidog i wneud cyhoeddiad wrth i adroddiadau barhau i gylchredeg ynghylch dyfodol y cynllun.

Dywedodd Rishi Sunak wrth y 麻豆约拍 bod "swm enfawr" o arian yn cael ei wario ar y rheilffordd gyflym, a'i fod yn bwysig gwneud y penderfyniad cywir ar gyfer y tymor hir.

Disgrifiad o'r llun, Mae Rishi Sunak ym Manceinion ar gyfer cynhadledd ei blaid

Ond gwrthododd gadarnhau a fyddai'n mynd yn ei flaen.

Pan ofynnwyd iddo dro ar 么l tro ar 麻豆约拍 Breakfast i gadarnhau a fyddai HS2 yn parhau yr holl ffordd i Fanceinion, dywedodd: 鈥淩wy鈥檔 gwybod bod llawer o ddyfalu ond y cyfan y gallaf ei ddweud yw nad wyf yn mynd i gael fy ngorfodi i wneud penderfyniad cynamserol oherwydd ei fod yn dda i raglen deledu.

鈥淵r hyn rydw i eisiau ei wneud yw'r penderfyniad cywir i鈥檙 wlad.鈥

Ond mae nifer o Geidwadwyr wedi annog y prif weinidog i beidio 芒 sgrapio cymal Manceinion.

Dywedodd y cyn-Ganghellor George Osborne fod HS2 yn "gyfle gwych i gyflawni ar gyfer pleidleiswyr y gogledd" ac y byddai canslo'r cam i Fanceinion "yn drasiedi".

Fodd bynnag, mae rhai ASau Tor茂aidd yn gwrthwynebu HS2, gan ddadlau ei fod yn wastraff arian a bod ffyrdd gwell o wella cysylltiadau trafnidiaeth.

Dadl 'simsan' yn 'dymchwel'

Mae pob plaid wleidyddol yn y Senedd, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad i HS2.

Yn ystod Cwestiynau i鈥檙 Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Mark Drakeford: 鈥淥s nad oes cysylltiad y tu hwnt i Birmingham yna mae鈥檙 achos simsan o blaid hwn fel datblygiad i Gymru a Lloegr yn dymchwel yn llwyr.

鈥淎 bryd hynny, bydd yr achos dros sicrhau swm canlyniadol i Gymru yn gryfach fyth.

鈥淢ae Cymru eisoes wedi colli allan ar 拢270m o ganlyniad i gam-ddosbarthiad HS2 yn y cyfnod adolygiad gwariant presennol, fydd ond yn tyfu oni bai a hyd nes y bydd y cam-ddosbarthiad hwn yn cael ei gywiro.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Mark Drakeford amddiffyn safbwynt arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer

Roedd y prif weinidog yn ymateb i arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth a ddywedodd nad oedd HS2 "byth yn brosiect a oedd o fudd i Gymru", a gallai'r "biliynau gael effaith drawsnewidiol ar ein gwlad".

Fe wnaeth arweinydd y blaid hefyd feirniadu arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, gan ddweud ei fod "hefyd yn gwrthod ymrwymo i roi'r symiau canlyniadol i ni" pe bai'n dod yn Brif Weinidog.

Ond fe'i amddiffynnwyd gan Mr Drakeford: 鈥淏ydd arweinydd y Blaid Lafur, os bydd Llafur yn llwyddiannus yn yr etholiad cyffredinol nesaf, yn pwyso a mesur ystod eang o flaenoriaethau gwahanol y bydd pobl o bob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig yn eu rhoi i d卯m Llafur y Trysorlys.

鈥淎 rwy鈥檔 meddwl ei fod yn gwbl ddealladwy nad yw mewn sefyllfa i fod yn cytuno鈥檔 dameidiog i un math o bosibilrwydd ar 么l y llall.鈥

'Dadl Lloegr a Chymru yn syrthio'

Drwy beidio parhau 芒'r cysylltiad o Birmingham i Faenceinion - gan gynnwys y cysylltiad yn Crewe i ogledd Cymru - dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan fod yr "esgus ffug Lloegr a Chymru yn syrthio'n gyfan gwbl".

Disgrifiad o'r fideo, Liz Saville Roberts AS: Galw am reillfordd sy'n 'ffit i'r unfed ganrif ar hugain'

Ychwanegodd Liz Saville Roberts byddai o leiaf 拢2bn yn cael ei ddyrannu i Gymru o dan fformiwla Barnett oherwydd gwariant ar gam un o HS2, pe bai Cymru鈥檔 cael ei thrin yn unol 芒鈥檙 Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd: "Mae'n amlwg fod gan y Ceidwdwyr ofn gwneud unrhyw benderfyniad ond maen nhw wedi bod yn fflagio hyn ers dros fis rwan.

"Mae'r gwariant wedi digwydd... mae realiti llyowdraethu yn golygu fod rhaid trwsio'r pethau bach.

"Dwi dal ddim yn gweld unrhyw fudd i Gymru yn deillio o hyn, 'da ni yn cyfrannu at brosiectau - sydd wedi bod yn rai vanity hyd yn hyn - sydd ddim lles i Gymru ac o bosib yn ddrwg i'n economi ni."