Ateb y Galw: Richard Davies, rheolwr Caernarfon

Ffynhonnell y llun, Richard Davies

Mae hi'n wythnos enfawr i Glwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Caernarfon.

Mae'r Cofis yn paratoi i wynebu'r Crusaders o Ogledd Iwerddon dros ddau gymal mewn gemau rhagbrofol yng nghystadleuaeth yr Europa Conference League.

Felly, rheolwr y clwb, Richard Davies, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Mynd ar awyren i America pan o’n i’n dair oed.

Ble yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Porthmadog – wrth fy modd mynd yno i weld ffrindiau a theulu.

Ffynhonnell y llun, Richard Davies

Disgrifiad o'r llun, Richard 'Fish' Davies yng nghanol y dathliadau yn dilyn curo Pen-y-bont i gyrraedd rowndiau rhagbrofol cystadleuaeth Ewropaidd am y tro cyntaf

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Dylsa fi ddweud noson fy mhriodas ond dwi am fynd efo’r noson gurodd Cymru Gwlad Belg yn Euro 2016, neu’r noson yng Nghaernarfon ar ôl curo’r playoff i gyrraedd cystadleuaeth Ewropeaidd am y tro cynta’ yn hanes y clwb... sori Emma!

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Angerddol, gweithgar a hwylus.

Ffynhonnell y llun, Richard Davies

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Richard ei apwyntio fel rheolwr parhaol Caernarfon ym mis Ebrill 2023

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Fy stag do i yn Benidorm efo 35 o ffrindiau.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Bwcio trip fel sypreis i Paris efo'r wraig - troi fyny i’r maes awyr a checkio i mewn ond wedyn sylwi bo' ni wythnos yn hwyr... 'nath y trip yna gostio ffortiwn i fi haha!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Ar ôl curo rownd derfynol y playoff efo Caernarfon yn ddiweddar.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Cnoi fy ewinedd yn ystod gemau pêl-droed.

Ffynhonnell y llun, Richard Davies

Disgrifiad o'r llun, Plant Richard - Owain a Mabli

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Dwi’n licio gwrando ar bodlediadau: High Performance, The Overlap a Under the Cosh.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Duncan Ferguson – fy arwr i pan o'n i'n ifanc ac yn gwylio Everton.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

'Nes i redeg Marathon Efrog Newydd yn 2009.

Ffynhonnell y llun, Richard Davies

Disgrifiad o'r llun, Atgofion Richard o redeg y marathon yn Efrog Newydd efo ffrindiau

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Mynd efo'r teulu i Goodison Park i wylio Everton.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Llun o'r teulu - nhw 'di bob dim i fi.

Ffynhonnell y llun, Richard Davies

Disgrifiad o'r llun, Richard gyda'i deulu ar Yr Ofal

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Pep Guardiola.