鶹Լ

Dem Rhydd: 'Fe allwn ni ennill seddi yng Nghymru'

Jane Dodds
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n "hen bryd" cael etholiad cyffredinol, medd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds

  • Cyhoeddwyd

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi lansio eu hymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol, gan ddweud ei bod yn “hen bryd i’r cyhoedd gael dweud eu dweud ynglŷn â phwy sy’n rhedeg y wlad”.

Nid oes gan y blaid unrhyw seddi Cymreig yn San Steffan ar hyn o bryd, ond maen nhw'n gobeithio dod yn ôl ar fap gwleidyddol Cymru.

Yn ôl arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds fe allai'r blaid "ennill ar draws Cymru".

Fe gafodd yr ymgyrch ei lansio ei hymgyrch yn Y Gelli Gandryll, sydd yn un o'r etholaethau y mae'r blaid yn gobeithio eu hennill ar 4 Gorffennaf.

Dywed y blaid bod eu blaenoriaethau'n cynnwys darparu gwell mynediad at ddeintyddion a mwy o gefnogaeth i gymunedau gwledig.

Bydd hefyd yn pwyso am roi blaenoriaeth i faterion hinsawdd ac amgylcheddol, a rheoleiddio pellach yn erbyn y rai sy’n llygru afonydd.

'Fe allwn ni drechu'r Ceidwadwyr'

Yn y lansiad, dywedodd Jane Dodds, unig aelod y blaid yn Senedd Cymru: "Fe allwn ni ennill ar draws Cymru. Fe allwn ni drechu'r Ceidwadwyr... dyna rydan ni'n ei glywed.

"Rydan ni'n sefyll i fyny am bobl yma yng Nghymu. Rydan ni eisiau gweld gwell safonau byw, gwell fargen i fusnesau.

"Rydan ni'n sefyll o blaid yr amgylchedd, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein hafonydd yn lanach a rydan ni eisiau gwell gofal plant ar gyfer ein teuluoedd sydd mewn gwaith.

"Rydan ni'n edrych ar ein hardaloedd gwledig, ond hefyd ar ardaloedd trefol."

Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds yn rhannu gweledigaeth ei phlaid ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch yn Y Gelli Gandryll

Fe wnaeth Ms Dodds gydnabod bod angen bod yn "ymarferol" gydag adnoddau prin wrth ymgyrchu ac asesu "lle gallwn ni wneud gwahaniaeth ac mae canolbarth Cymru wledig yn un o'r rheiny ond rydan ni'n ymgyrchu ar draws Cymru hefyd".

Ond fe bwysleisiodd bod y blaid nid un unig yn anelu at gipio ambell sedd, ond yn ceisio dod yn ail mewn seddi eraill.

'Cyfle i anfon neges i San Steffan'

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Ms Dodds bod hi'n "hen bryd i’r cyhoedd gael dweud eu dweud ynghylch pwy sy’n rhedeg y wlad, ar ôl blynyddoedd o anhrefn Ceidwadol rydym wedi cael cyfle o’r diwedd i ddangos y drws iddynt.

"Dyma gyfle i'r etholwyr anfon neges i San Steffan a Bae Caerdydd eu bod am weld newid," meddai, gan ychwanegu fod y "Ceidwadwyr na Llafur yn cynnig dim byd gwahanol i'r sefyllfa bresennol".

Dywedodd: "Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol bob amser wedi bod â hanes balch o sefyll dros fuddiannau pobl yma yng Nghymru, ac ni fydd hyn yn newid.

"Peidiwch â gwneud unrhyw gamgymeriad, ni fyddwn yn cilio rhag yr her - byddwn yn rhoi ymgeiswyr ym mhob etholaeth yng Nghymru yn y gobaith o sicrhau dyfodol mwy disglair i bawb.

"Mae hwn nid yn unig yn gyfle i gicio’r Ceidwadwyr allan o San Steffan ond hefyd yn gyfle i ni anfon neges i lywodraeth Lafur Cymru na fydd Cymru yn dioddef eu nonsens am lawer hirach.”