Â鶹ԼÅÄ

Carcharu dyn am dreisio menyw ddigartref yng Nghaerdydd

Liam StimpsonFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Stimpson wedi gwadu'r cyhuddiadau, gan honni bod y fenyw wedi cydsynio i gael rhyw

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 24 oed wedi cael ei garcharu am 15 mlynedd am dreisio menyw ddigartref yng Nghaerdydd, a ffilmio'r digwyddiad.

Cafwyd Liam Stimpson o Gaerdydd yn euog gan reithgor o ddau achos o dreisio yn dilyn achos llys yr wythnos ddiwethaf.

Cafwyd yn euog hefyd o achosi person i ymgymryd â gweithred rywiol heb gydsynio ac achosi anaf corfforol difrifol bwriadol.

Clywodd yr achos bod y fenyw 40 oed wedi cael ei dyrnu, ei chicio, ei stripio a'i threisio ddwywaith o dan bont yn agos at brif orsaf rheilffordd y ddinas yn oriau mân 27 Rhagfyr y llynedd.

'Dwi'n dal i weld ei wyneb'

Gwelodd y rheithgor fideo o'r fenyw yn noeth ac wedi cael ei churo yn ymbil ar Stimpson i stopio.

Mewn un fideo, roedd ei hwyneb wedi chwyddo ac yn gwaedu - roedd ei llygad dde ar gau yn llwyr.

Fe welodd y rheithgor hefyd luniau CCTV o'r fenyw yn dianc ac yn rhedeg i gyfeiriad Stryd y Santes Fair tua 04:45.

Cafodd ei gweld yn cael ei herlid, ei dyrnu a'i chicio tra ar y llawr.

Dywedodd Nicola Powell ar ran yr erlyniad: "Fe wnaeth ei churo hi, ei bychanu a'i diraddio am ei bleser rhywiol ei hun."

Clywodd y llys fod Liam Stimpson yng nghanol y ddinas ar Ddydd San Steffan yn dathlu ei ben-blwydd pan wnaeth o gyfarfod y fenyw, oedd yn ddigartref.

Roedd Stimpson wedi gwadu'r cyhuddiadau, gan honni bod y fenyw wedi cydsynio i gael rhyw ac wedi gofyn iddo recordio'r digwyddiad fel rhan o chwarae rôl rywiol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad o dan bont yn agos at brif orsaf rheilffordd Caerdydd

Mewn datganiad a ddarllenwyd i'r llys, dywedodd y dioddefwr: "Mae o wedi dinistrio fy mywyd. Dwi methu cysgu yn y nos. Dwi'n dal i weld ei wyneb.

“Mae o wedi newid fy marn am ddynion yn llwyr."

'Cymryd yr owns olaf o urddas'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Katherine Barry o Heddlu De Cymru mai’r recordiad gan Stimpson oedd y "mwyaf brawychus" iddi weld yn ei gyrfa 21 mlynedd.

Ychwanegodd fod ei honiad bod y rhyw yn gydsyniol yn "hurt".

"Dydw i erioed wedi gweld unrhyw un yn cofnodi eu troseddau eu hunain fel 'na, a dwi'n meddwl unwaith i ni gael y ffilm doedd nunlle iddo guddio."

Wrth ddedfrydu Stimpson ddydd Llun dywedodd y Barnwr Jenkins: “Fe wnes di ei bychanu’n llwyr, fe wnes di gymryd yr owns olaf o urddas oddi wrthi.

"Roedd hwn yn ymosodiad dienaid, bron yn sadistaidd. Roedd yna fygythiad yn dy lais, a wnes di ei rheoli'n llwyr.

"Fe wnes di orchymyn iddi stripio'n noeth a'i recordio am dy foddhad rhywiol dy hun, neu fel tlws i ddangos i eraill."

Pynciau cysylltiedig