Â鶹ԼÅÄ

Achos arall o'r feirws Tafod Glas wedi'i ganfod ym Môn

DefaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y feirws ei ganfod mewn tair dafad yng Ngwynedd yr wythnos ddiwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwerydd achos o'r feirws Tafod Glas wedi cael ei ganfod mewn anifail yn y gogledd-orllewin.

Cafodd yr achos diweddaraf ei ganfod "mewn anifail sydd wedi’u symud i Ynys Môn o ddwyrain Lloegr", meddai Llywodraeth Cymru.

Dyw'r llywodraeth ddim wedi manylu ar beth yw'r anifail sydd wedi'i effeithio.

Daw wedi i'r feirws gael ei ganfod mewn tair dafad yng Ngwynedd yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y rheiny hefyd wedi'u symud yno o ddwyrain Lloegr.

Yr achosion yma oedd y tro cyntaf i'r math 3 o'r Tafod Glas gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Sefydliad Pirbright
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib i wybed mân heintio da byw gydag un brathiad

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel.

Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu gan rai mathau o wybed sy'n brathu, ac yn effeithio ar anifeiliaid fel gwartheg, geifr, defaid, ceirw, alpacas a lamas.

Nid yw’n effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.

Mae achosion o BTV-3 wedi cael eu canfod yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf.

Dywedodd Is-Lywydd undeb amaeth NFU Cymru, Abi Reader, yr wythnos ddiwethaf ei bod hi'n "hanfodol ein bod oll yn parhau'n wyliadwrus rhag yr haint".

Ychwanegodd bod angen i ffermwyr gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn syth "os oes unrhyw bryderon y gallai'r clefyd fod ar eich fferm".

Pynciau cysylltiedig