Â鶹ԼÅÄ

Teyrnged i Gymro fu farw wedi damwain yn Benidorm

Nathan OsmanFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Nathan Osman mai ei blant oedd "ei holl fyd ac roedd yn byw ar eu cyfer"

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu tad i bedwar o blant yn dweud eu bod "wedi ein dinistrio" wedi iddo farw ar ôl cymryd y llwybr anghywir yn ôl i'w westy yn Benidorm, Sbaen.

Roedd Nathan Osman, 30 o Bontypridd, ar ei wyliau tramor cyntaf gyda ffrindiau ddydd Sadwrn pan aeth ar goll a chael cwymp angheuol.

Dywedodd teulu Mr Osman mai ei blant oedd "ei holl fyd ac roedd yn byw ar eu cyfer".

Mae ei deulu yn annog pobl i beidio â cherdded adref ar eu pennau eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Nathan Osman am iddo "gael ei gofio am yr enaid anhygoel yr oedd o a'r etifeddiaeth hardd mae wedi'i gadael i bawb"

Dywedodd ei deulu bod y ddamwain "wedi gadael [ei bartner] Katie a'i bedwar o blant i fyw gweddill eu bywydau hebddo".

Disgrifiodd y teulu ef fel tad anhygoel, ffyddlon, gofalgar a "gwir ffrind i unrhyw un oedd yn ddigon ffodus i'w adnabod".

"Roedd ei wên a'i lygaid brown mawr yn heintus," ychwanegon nhw.

"Ef oedd un o’r eneidiau mwyaf caredig a bydd ei etifeddiaeth yn parhau trwy ei bedwar plentyn hyfryd."

Ychwanegodd ei deulu: "Waeth sut rydych chi’n teimlo ar y pryd, peidiwch â chymryd eich diogelwch yn ganiataol.

"Rydyn ni eisiau i Nathan gael ei gofio am yr enaid anhygoel yr oedd o a'r etifeddiaeth hardd mae wedi'i gadael i bawb.

"Bydd yn cael ei golli am byth."

Pynciau cysylltiedig