Â鶹ԼÅÄ

Graffiti wedi'i lanhau oddi ar dirnod poblogaidd Caerdydd

Trig GarthFfynhonnell y llun, Cyngor Cymuned Pentyrch
Disgrifiad o’r llun,

Y garreg ar Fynydd y Garth i'r gogledd o Gaerdydd ôl iddo gael ei ail-baentio

  • Cyhoeddwyd

Mae carreg ar lwybr cerdded poblogaidd ger Caerdydd wedi'i ail-baentio ar ôl iddo gael ei fandaleiddio dros y penwythnos.

Roedd llun stensil o ddraig goch ar y graig ar Fynydd y Garth, ond fe ddaeth cerddwyr o hyd iddi wedi’i chwistrellu gyda graffiti ddydd Sadwrn.

Roedd y graffiti yn dweud: "The dragon has choked on SUV fumes. RIP."

Mae'r garreg wedi cael ei lanhau a'i ail-baentio erbyn hyn, yn ôl Cyngor Cymuned Pentyrch.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhywun wedi chwistrellu dros y llun stensil o ddraig goch

O gopa’r bryn sydd dros 1,000 o droedfeddi, mae modd gweld golygfeydd godidog o Gaerdydd, Penarth ac arfordir de Cymru

Rhannodd cerddwr lun o'r difrod ar X, gan ddweud: "Mae rhyw ffŵl wedi fandaleiddio'r garreg ar fynydd Y Garth."

Atebodd un person gan ddisgrifio'r graffiti fel "fandaliaeth ddifeddwl", tra dywedodd un arall ei fod yn "beth gwarthus i'w wneud mewn man mor hyfryd".

Disgrifiad o’r llun,

Cyn cael ei fandaleiddio, roedd modd gweld llun stensil o ddraig goch ar y copa