Â鶹ԼÅÄ

Cymru i chwarae yn Lloegr yn sgil gig Taylor Swift

Rygbi CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae perfformiadau gan Taylor Swift a'r Foo Fighters yng Nghaerdydd yn golygu y bydd tîm rygbi Cymru yn chwarae gêm yn Lloegr ym mis Mehefin.

Gyda'r cyngherddau yn Stadiwm Principality, ni fyddai'r gêm yn erbyn De Affrica wedi gallu cael ei chwarae yng Nghaerdydd.

Bydd yr ornest felly yn digwydd yn stadiwm Twickenham, bron i 150 o filltiroedd o Gaerdydd - gyda Chymru y tîm oddi cartref.

Bydd y gêm ar 22 Mehefin yn ymarfer ar gyfer cyfres Cymru yn Awstralia, gyda'r garfan yn herio'r Wallabies yn Sydney a Melbourne ym mis Gorffennaf.

Nid yw Stadiwm Principality ar gael ar gyfer gêm De Affrica gan fod Taylor Swift yn perfformio ar 18 Mehefin, a chyngerdd Foo Fighters ar 25 Mehefin.

Bad blood gyda rygbi Cymru?

Dyma fydd gêm gyntaf De Affrica ers iddyn nhw ennill Cwpan y Byd ym Mharis yn Hydref 2023.

Cafodd Cymru eu trechu 52-16 y tro diwethaf iddyn nhw chwarae'r Springboks - a hynny mewn gêm gyfeillgar cyn Cwpan y Byd.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ei fod yn "hynod gyffrous" ar gyfer gemau Cymru dros yr haf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd taith 'Eras' 'Taylor Swift yn cyrraedd Stadiwm Principality ar 18 Mehefin

Bydd gêm derfynol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig hefyd yn cael ei chwarae'r un diwrnod â'r gêm yn erbyn y Springboks.

Mae hyn yn golygu y gallai Cymru fod heb rhai chwaraewyr os fydd rhanbarth o Gymru yn cyrraedd y rownd derfynol.

Y Gweilch yw'r rhanbarth sydd uchaf ar hyn o bryd yn y seithfed safle, gyda'r wyth tîm uchaf yn cyrraedd y gemau ail gyfle.

Dywedodd prif hyfforddwr De Affrica Rassie Erasmus bod ei dîm yn gyffrous i ddychwelyd i Twickenham, a bod "atgofion melys" o'r fuddugoliaeth dros Seland Newydd.

Ychwanegodd Warren Gatland y byddai cyfle i'w garfan ifanc brofi her "yn erbyn pencampwyr y byd mewn lleoliad niwtral yn brofiad hynod o bwysig".

Mae’r erthygl hon wedi cael ei haddasu i egluro mai Cymru ydy’r tîm oddi cartref yn y gêm yn erbyn De Affrica yn Twickenham.