Rhai ymgeiswyr Llafur 'eisiau pellhau eu hunain' oddi wrth Gething

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyw Vaughan Gething ddim yn bwriadu ymddiswyddo wedi iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth
  • Awdur, Elliw Gwawr
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 麻豆约拍 Cymru

Mae'r ffrae yngl欧n 芒 rhoddion Vaughan Gething yn cael ei godi ar garreg y drws mewn sgyrsiau 芒 phleidleiswyr, yn 么l rhai ymgeiswyr Llafur sydd wedi siarad 芒鈥檙 麻豆约拍.

Mae'r prif weinidog wedi dweud na fydd yn ymddiswyddo er iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd nos Fercher.

Daw hyn yn dilyn wythnosau o ffraeo, wedi i Mr Gething dderbyn rhodd ariannol o 拢200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni a oedd yn cael ei redeg gan ddyn a gafodd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae un ymgeisydd Llafur wedi dweud wrth 麻豆约拍 Cymru nad oedden nhw am ymgyrchu gyda Mr Gething.

"Dydyn ni ddim eisiau iddo ddod allan ar garreg y drws gyda ni... Rydyn ni eisiau pellhau ein hunain," medden nhw.

Ychwanegodd ymgeisydd arall fod trafferthion y prif weinidog yn "dod i fyny ar garreg y drws ond ddim yn effeithio ar bleidlais pobl" a'u bod yn "gwybod bod hwn yn fater i鈥檙 Senedd".

'St峄硁t wleidyddol' neu 'sgandal'?

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, a ddaeth 芒'r cynnig o ddiffyg hyder yn Mr Gething ymlaen, yn dweud ei fod "wedi colli hyder pobl Cymru".

Ond dywed Llafur Cymru mai "st峄硁t wleidyddol" oedd cynnig y Ceidwadwyr.

Yn 么l ymgeisydd Llafur, sy'n gobeithio dychwelyd i San Steffan wedi'r bleidlais ar 4 Gorffennaf, dydy'r ffrae heb amharu ar ffydd arweinydd Prydeinig y blaid, Syr Keir Starmer, yn Mr Gething.

Dywed Stephen Kinnock fod Mr Gething "heb wneud dim o'i le" a bod yn "rhaid iddo barhau" fel arweinydd Llafur Cymru.

Disgrifiad o'r llun, "Mae鈥檔 dipyn o sgandal a dweud y gwir," meddai Ben Sullivan

Wrth siarad 芒 phleidleiswyr yn Ne Caerdydd a Phenarth, sef etholaeth Mr Gething, roedd yna ymwybyddiaeth o鈥檙 dadlau ynghylch y rhoddion i'w ymgyrch.

Ond nid dyna oedd eu prif bryder o ran bwrw eu pleidlais yn etholiad cyffredinol San Steffan.

"Rwyf wedi cymryd y rhodd i ystyriaeth, mae鈥檔 dipyn o sgandal a dweud y gwir," meddai Ben Sullivan, 24, sy鈥檔 ystyried pleidleisio Llafur.

"Ond ni fydd yn effeithio ar sut dwi鈥檔 pleidleisio yn San Steffan gan ei fod yn bryd cael y Ceidwadwyr allan.

"Fydd pethau sy鈥檔 digwydd yng Nghymru ddim yn effeithio ar sut dwi鈥檔 pleidleisio dros y DU yn gyffredinol."

Disgrifiad o'r llun, Mae Hera Siddiq wedi "colli ffydd" yn y prif bleidiau gwleidyddol

Dywedodd Sarah Johnston nad oedd hi鈥檔 meddwl bod penderfyniad Vaughan Gething i dderbyn rhodd gan gwmni sy鈥檔 eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol 鈥測n olwg dda鈥, ond fe fydd hi鈥檔 dal yn pleidleisio dros y Blaid Lafur ar 4 Gorffennaf.

"Dydw i ddim yn ei hoffi, nid wyf yn meddwl ei fod yn dda o gwbl. Ond mae hi [yr etholiad cyffredinol] yn ras dau geffyl a byddai鈥檔 well gen i Lafur na鈥檙 Tor茂aid."

Dywedodd Hera Siddiq, 28, ei bod wedi ei "synnu" gan y ffrae rhoddion a鈥檙 trafferthion sy鈥檔 wynebu鈥檙 prif weinidog, gan ychwanegu ei fod yn rhywbeth a allai "o bosib" effeithio ar sut mae hi鈥檔 pleidleisio.

Ond dywedodd ei bod "wedi clywed pethau da iawn am Vaughan Gething, rwy鈥檔 gwybod ei fod wedi gwneud llawer dros y gymuned".

Eglurodd ei bod wedi "colli ffydd" yn y prif bleidiau gwleidyddol a鈥檌 bod yn ystyried pleidleisio dros y Blaid Werdd neu dros ymgeisydd annibynnol.

Disgrifiad o'r llun, Mae Natalie Jones yn rhagweld y bydd pobl sy'n pleidleisio yn "gwneud yr hyn maen nhw wedi'i wneud erioed"

Bydd llawer eisoes wedi penderfynu sut y maen nhw am bleidleisio, fel Natalie Jones, 43.

"Mae鈥檔 debyg y byddaf yn pleidleisio dros Blaid Cymru," meddai, "felly fydd o ddim yn effeithio ar sut dwi鈥檔 mynd i bleidleisio o gwbl."

Mae hi鈥檔 ansicr os bydd pleidlais hyder Vaughan Gething a'r ffrae ehangach yn gwneud unrhyw wahaniaeth i sut mae pobl yn pleidleisio mewn etholiad ar gyfer San Steffan.

"Mae gennych chi lawer o gadarnleoedd Llafur yng Nghymru," ychwanegodd.

"Efallai y bydd pobl yn gwneud yr hyn maen nhw wedi'i wneud erioed."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley ei fod yn credu y bydd Vaughan Gething "yn ymddiswyddo mewn amser"

Yn siarad ar 麻豆约拍 Radio Wales fore Iau dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley ei fod yn credu fod Mr Gething yn "damaged goods", a'i fod yn "dychmygu y bydd yn ymddiswyddo mewn amser".

"Byddwn i'n dychmygu fod arweinyddiaeth Llafur yn San Steffan, ynghanol ymgyrch etholiad cyffredinol, eisiau dim mwy na munud o dawelwch o Fae Caerdydd a'r ffraeo yma," meddai.

"Ond efallai nawr y bydd pobl yn teimlo ei bod hi'n amser canolbwyntio ar y gwir broblemau sy'n wynebu Cymru, yn enwedig y tanariannu gan y llywodraeth yn San Steffan.

"Mater i'r Blaid Lafur yw hi i benderfynu a ydyn nhw am barhau gyda phrif weinidog sydd ddim 芒 hyder llawn y Senedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae un arbenigwr gwleidyddol Cymreig yn awgrymu fod Keir Starmer yn fwy poblogaidd yng Nghymru na Vaughan Gething

Mae yna awgrym y gallai'r dadlau am arweinyddiaeth Vaughan Gething effeithio ar gefnogaeth y Blaid Lafur mewn etholiadau i'r Senedd, ond nid ar gyfer San Steffan, yn 么l un arbenigwr gwleidyddol Cymreig.

"Rydyn ni鈥檔 gweld un o鈥檙 bylchau mwyaf rydyn ni erioed wedi鈥檌 weld rhwng bwriad pobl i bleidleisio Llafur yn San Steffan a'r bwriad i bleidleisio Llafur ar gyfer y Senedd," meddai Dr Jac Larner, darlithydd mewn gwyddoniaeth wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Er enghraifft, ar hyn o bryd yn y polau mae tua 45% - ychydig llai na hanner - o'r holl bleidleiswyr yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio am y Blaid Lafur mewn etholiad San Steffan ond mae hynny'n gostwng i tua 30% yn etholiadau'r Senedd.

"Dydych chi ddim eisiau darllen gormod i hynny wrth gwrs, ond mae鈥檔 awgrymu bod Llafur mewn etholiadau Cymreig, mewn etholiadau datganoledig, ar hyn o bryd, dipyn yn llai poblogaidd nag ydyn nhw pan mae'n dod i etholiadau San Steffan."

Ychwanegodd: "Mae Keir Starmer dipyn yn fwy poblogaidd yng Nghymru na Vaughan Gething ac mae hyn mewn gwirionedd yn newid o鈥檙 hyn a welwyd dan Mark Drakeford, a oedd yn gyson yn fwy poblogaidd nag arweinydd y Deyrnas Unedig.

"Ni allwn ni fod yn sicr am hyn, ond dyw hi ddim yn amhosib fod y newyddion negyddol yma yn effeithio ar ei boblogrwydd personol ef [Vaughan Gething] a phoblogrwydd Llafur Cymru."

Wrth drafod canlyniad y cynnig diffyg hyder ar raglen 麻豆约拍 Wales Live nos Fercher, dywedodd Stephen Kinnock, sy'n ymgeisydd Llafur yn yr etholiad cyffredinol, bod Mr Gething "yn ddyn o anrhydedd ac egwyddor".

Pan ofynnwyd a oes gan Syr Keir Starmer hyder llwyr yn arweinydd Llafur Cymru, atebodd: "Yn bendant."

Ar yr un rhaglen, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, y Ceidwadwr David TC Davies: "Dydy hyn ddim gymaint am hygrededd Vaughan ond yngl欧n 芒'i grebwyll."

Mater i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, meddai, yw penderfynu a yw'r blaid am geisio cael pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth Lafur gyfan ym Mae Caerdydd.

"Y realiti yw, mae hyn yn gwneud i ni edrych yn hurt yng Nghymru," ychwanegodd.

Dywedodd Liz Saville Roberts ar ran Plaid Cymru: "Mae hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol drist i ddemocratiaeth Cymru ac fe ddigwyddodd oherwydd Vaughan Gething.

"Oes, mae yna reolau, ond mae yna grebwyll hefyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru mai "st峄硁t wleidyddol gan y Blaid Geidwadol" oedd y cynnig o ddiffyg hyder "gyda chymorth Plaid Cymru".

Ychwanegodd fod Mr Gething "yn canolbwyntio ar ein GIG a'r economi a helpu sicrhau llywodraeth Lafur yn y DU y mae Cymru'n crefu amdano".