Â鶹ԼÅÄ

Caerdydd yw dinas ‘da i blant’ gyntaf y DU

CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Caerdydd yw dinas gyntaf y DU i sicrhau statws arbennig am gamau i ddatblygu hawliau dynol plant a phobl ifanc.

Bydd cannoedd o blant lleol yn cymryd rhan mewn "dathliad lliwgar" yn y brifddinas ddydd Gwener i nodi derbyn statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF.

Fe fydd pennaeth UNICEF yn rhan o seremoni arwyddo arbennig yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe fydd rhai o atyniadau amlycaf y ddinas yn cael eu goleuo'n las, sef lliw y clwb pêl-droed.

Dywed Cyngor Caerdydd bod swyddogion wedi bod yn cydweithio gyda 43 o wahanol bartneriaid ers pum mlynedd er mwyn derbyn y gydnabyddiaeth.

Hawliau plant yn ganolog

Mae'r clod yn cydnabod y gwaith sydd wedi ei wneud yng Nghaerdydd ers ymuno â rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant UNICEF yn 2017.

Ers hynny mae'r cyngor wedi cydweithio â 43 o bartneriaid gan greu strategaethau a gweithgareddau ar sail gofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Ond fel yr eglurodd arweinydd y cyngor, Huw Thomas, wrth raglen Dros Frecwast, mae derbyn y statws yn swyddogol ddydd Gwener yn benllanw "proses o saith mlynedd o ran mynd ati i roi hawliau plant yn rhan allweddol o'n polisïau a'n gwasanaethau".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r statws yn cydnabod blynyddoedd o waith caled, medd arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas

"Mae wedi bod yn broses fanwl iawn i ddangos i UNICEF y cynnydd y'n ni 'di gwneud yn y gwaith o wneud yn siŵr bod plant Caerdydd, yn cynnwys y rhai mwya' bregus, yn teimlo'n ddiogel, yn teimlo bod eu llais nhw'n cael ei glywed," dywedodd.

Mae'r gwaith hwnnw, meddai, hefyd yn cynnwys sicrhau bod plant "yn cael eu meithrin i fedru ffynnu yn ein dinas ni a bod eu hawlie nhw yn cael eu parchu".

Cyfeiriodd at lu o weithgareddau ar draws y ddinas a chyfleoedd i blant a phobl ifanc ddylanwadu ar bolisïau a strategaethau.

Erbyn hyn mae 40,000 o blant wedi cymryd rhan mewn rhaglenni lles, ac mae bron i 5,000 o staff wedi derbyn hyfforddiant hawliau plant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd seremoni yn Stadiwm Dinas Caerdydd i nodi'r digwyddiad ddydd Gwener

Mae 73% o ysgolion Caerdydd yn rhan o'r rhaglen, sydd hefyd wedi helpu plant i fynd i'r afael â rhwystrau a allai gyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd.

Ond fe rybuddiodd Huw Thomas y gallai cynnal momentwm fod yn anodd.

“Mae wastad wedi bod yn her, dwi’n cydnabod, i gyrraedd pob plentyn," dywedodd, "ac yn sicr mewn cyfnod o lymder pellach o ran ariannu i’r cyngor, mae ‘na benderfyniadau anodd o’n blaen ni."

Dywedodd Jon Sparkes, prif weithredwr pwyllgor y DU dros UNICEF, fod y statws "yn addewid i blant a phobl ifanc y ddinas - y bydd y cyngor yn parhau i sicrhau bod lleisiau plant wrth wraidd penderfyniadau lleol".

Fe fydd tua 300 o blant yn cymryd rhan yng ngweithgareddau a gweithdai Gŵyl Hawliau ddydd Gwener