鶹Լ

Cynghorwyr yn trafod cau ysgol leiaf Ynys Môn

Ysgol Carreglefn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 42 disgybl yn mynychu Ysgol Gymuned Carreglefn yn 2012, ond erbyn hyn mae'r ffigwr wedi syrthio i naw.

  • Cyhoeddwyd

Bydd cynghorwyr ym Môn yn trafod cynnig i gau ysgol gynradd leiaf yr ynys, sydd â dim ond naw o ddisgyblion.

Mae adroddiad fydd yn mynd o flaen cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Sgrwtini Corfforaethol yn argymell cau Ysgol Gymuned Carreglefn ar ddiwedd y flwyddyn ysgol bresennol.

Y bwriad, os yn dderbyniol gan gynghorwyr, yw symud y naw disgybl i Ysgol Gymuned Llanfechell o fis Medi 2024.

Mae’r ddwy ysgol yn nalgylch Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

Mae cost y pen fesul disgybl Ysgol Gymuned Carreglefn yn £17,200 - dros dair gwaith cost gyfartalog disgyblion cynradd y sir o £5,240.

Mae nifer y disgyblion yng Ngharreglefn wedi gostwng o 42 yn 2012 a 15 yn 2020 ac mae swyddogion yn rhagweld yr angen i wario £317,350 ar gostau cynnal a chadw'r adeilad.

Yn ôl yr adroddiad, mae rhagolygon hefyd yn awgrymu bydd pum disgybl neu lai yn mynychu’r ysgol pe bai'n parhau ar agor wedi Medi 2024.

'Effaith gadarnhaol ar safonau addysg'

Gan fod gan Carreglefn lai na 10 o ddisgyblion mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn nodi nad oedd angen i'r awdurdod gynnal ymgynghoriad cyffredinol cyn dilyn y broses ffurfiol i'w chau.

Er hynny, y bwriad yw cynnal ymgynghoriad 28 diwrnod ar rybudd statudol cyn dod i benderfyniad terfynol.

Os bydd yr ysgol yn cau, bwriad swyddogion yw cynnal trafodaethau gyda’r gymuned leol ar “sicrhau hyfywedd tymor hir adeilad presennol yr ysgol fel adnodd cymunedol os oes angen”.

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw i'r disgyblion fynychu Ysgol Gymuned Llanfechell, sydd 2.2 milltir i ffwrdd, o fis Medi 2024

Dywedodd Marc Berw Hughes, cyfarwyddwr addysg, sgiliau a phobl ifanc Cyngor Môn, mai'r ysgol sydd â’r gost uchaf fesul disgybl o holl ysgolion cynradd Cymru.

“Bellach, dim ond naw o ddisgyblion sydd yn Ysgol Carreglefn a hynny’n gyfystyr â 80% o leoedd gwag.

"Mae pedwar o’r disgyblion yma ym mlwyddyn chwech ac mae’r ysgol ei hun yn rhagweld y bydd pump neu lai o ddisgyblion yn mynychu o fis Medi 2024 ymlaen."

Ychwanegodd: “Disgwylir i’r cynnig gael effaith gadarnhaol ar safonau addysg ac, os bydd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno cau, byddai rhybudd statudol yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgol.

"Byddai hyn hefyd yn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â holl ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru.”

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan aelodau o Bwyllgor Sgrwtini Corfforaethol y cyngor ddydd Mawrth, gyda’r penderfyniad terfynol yn un i’r Pwyllgor Gwaith.

Pynciau cysylltiedig