Cadeirydd 'ddim yn gwybod' am gynllun i drin cleifion yn Lloegr

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Dyfed Edwards ei benodi yn gadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaldr ym mis Ionawr
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Newyddion S4C

Doedd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim yn gwybod am gynllun newydd llywodraethau Cymru a Phrydain i gydweithio'n agosach er mwyn lleihau rhestrau aros.

Fe gyhoeddodd y ddwy lywodraeth Lafur yr wythnos hon y gallai cleifion gael eu trin ar naill ochr y ffin er mwyn ceisio lleihau'r nifer sydd ar restrau aros.

Wrth siarad wedi cyfarfod blynyddol y bwrdd iechyd, fe ddywedodd Dyfed Edwards hefyd nad oedd o鈥檔 credu bod y bwrdd iechyd yn barod i ddod allan o fesurau arbennig ond bod gwaith da a chynnydd yn digwydd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C mai鈥檙 flaenoriaeth o hyd yw gwella safon y gofal a鈥檙 ddarpariaeth i鈥檙 700,000 o gleifion yng ngogledd Cymru.

Fel rhan o'r cynllun newydd mi fyddai cleifion o Loegr hefyd yn gallu derbyn triniaeth yng Nghymru, ond yn 么l cadeirydd bwrdd iechyd y gogledd mae rhannu adnoddau eisoes yn digwydd.

鈥淢ae 'na gydweithio yn digwydd rhyngom ni fel bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr," meddai Mr Edwards.

鈥淢aen nhw鈥檔 rhan hanfodol o鈥檙 hyn allwn ei gynnig i gleifion bob dydd a phob wythnos.

鈥淥nd mae鈥檙 mater o ddweud bod byrddau iechyd eraill yn gallu cymryd pobl o restrau aros... dwi鈥檔 meddwl fod hynny鈥檔 fater arall sydd angen ei wyntyllu yn ofalus a gweld be di鈥檙 manylion鈥.

Symud y broblem o un wlad i鈥檙 llall?

Wrth holi a oedd Mr Edwards yn gwybod am y manylion cyn y cyhoeddiad ddydd Llun yng nghynhadledd y blaid Lafur yn Lerpwl, dywedodd 鈥渄wi ddim yn meddwl bod neb yn gwybod am y cyhoeddiad鈥.

Yn 么l Mr Edwards, roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan eisoes wedi awgrymu cydweithio ar draws y ffin pan yr oedd hi'n weinidog iechyd, ond mae鈥檔 mynnu hefyd bod angen gweld rhagor o fanylion.

鈥淥 ble mae鈥檙 gefnogaeth am ddod, o le mae鈥檙 cynnig yn mynd i ddod?

鈥淢ae鈥檙 ysbytai yna (yn Lloegr) eu hunain 鈥榙an bwysau dwi鈥檔 tybio, ac mae 'na beryg yn does i ni symud y broblem o un wlad i鈥檙 llall,鈥 meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Eluned Morgan wedi awgrymu cydweithio trawsffiniol pan yn weinidog iechyd, meddai Dyfed Edwards

Yn 2023 fe roddwyd bwrdd iechyd y gogledd 鈥榙an fesurau arbennig oherwydd pryderon sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Bron i 18 mis yn ddiweddarach, wrth ofyn a oedd Mr Edwards yn credu ei bod hi'n amser dod a鈥檙 trefniant yna i ben, dywedodd nad oedd 鈥渄yddiad pendant鈥 i hynny.

鈥淏e dwi鈥檔 ei weld ydi cyfle i gyd-weithio efo鈥檙 llywodraeth i greu'r bwrdd iechyd gorau posib i gleifion.

鈥淔yddwn i ddim mewn mesurau arbennig am byth ond byddwn i鈥檔 dweud ei bod hi dal yn ddyddiau cynnar,鈥 ychwanegodd.

Wrth drafod y flwyddyn sydd i ddod, dywedodd Mr Edwards fod gwaith da ar y gweill gan y dros 20,000 o staff sy鈥檔 gweithio i鈥檙 bwrdd iechyd ond bod yr hinsawdd ariannol yn parhau yn heriol.

鈥淒wi鈥檔 gobeithio bydd dyfodol ariannol ein gwasanaethau cyhoeddus yn well nag ydi o ar hyn o bryd."