Carchar am oes i ddyn am lofruddio tad yn Nhrefforest

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Daniel Rae ei drywanu ym mis Rhagfyr 2023

Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio tad i bedwar yn sgil dyled am gyffuriau.

Cafodd Daniel Rae, 30, ei drywanu i farwolaeth mewn tÅ· ar Stryd y Dywysoges yn Nhrefforest ger Pontypridd ar 17 Rhagfyr 2023.

Dydd Iau clywodd Kieran Carter, 23 o ardal Birmingham, y bydd yn treulio o leiaf 17 mlynedd yn y carchar.

Roedd teulu Daniel Rae yn y llys, a dywedon nhw eu bod wedi'u "torri" gan ei farwolaeth "ddisynnwyr".

Fe gafodd dau berson arall ddedfrydau wedi'u gohirio am droseddau'n gysylltiedig â'r achos.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Clywodd y llys fod Kieran Carter yn delio cyffuriau a'i fod wedi dod i dŷ Daniel Rae i nôl arian a oedd yn ddyledus iddo.

Roedd cymdogion wedi clywed sŵn ffraeo a dadlau, ac wedi clywed Mr Rae yn gofyn i Carter alw'r gwasanaeth ambiwlans.

Bu farw Daniel Rae wedi iddo golli gwaed ar ôl cael ei drywanu yn ei goes.

Wrth ddedfrydu Carter, dywedodd y barnwr, Mr Ustus Nickin ei fod wedi bod yn "ddideimlad" i beidio â galw'r ambiwlans, ac mai "dim ond chi sy'n gwybod beth yn union ddigwyddodd y noson honno".

Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol nad oedd Carter "yn bwriadu lladd" ond ei fod yn amlwg yn "gyfrifol" am farwolaeth Mr Rae.

Hefyd ddydd Iau cafodd Amy Jones, 37 o ardal Glyn-coch, ei dedfrydu i 10 mis o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, am wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Clywodd y llys ei bod wedi trin anaf i law Carter, a'i helpu i deithio i Birmingham.

Cafodd Chad Joy, 33 a hefyd o ardal Glyn-coch, ei ddedfrydu i naw mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis, am gynorthwyo troseddwr.