Apêl heddlu ar ôl anafiadau difrifol i ddynes yng Ngwynedd

Ffynhonnell y llun, Google

Mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd lle cafodd ddynes anafiadau difrifol fore Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10:18 ar ôl gwrthdrawiad rhwng lori a char Fiat Abarth ar yr A487 yn ardal Tan-y-Bwlch, Maentwrog.

Cafodd y ddynes oedd yn gyrru'r car ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Stoke gydag anafiadau allai beryglu ei bywyd.

Mae hi'n parhau yn yr ysbyty ac yn derbyn triniaeth yno.

Fe gafodd ci a oedd yn teithio yn y car hefyd ei anafu a'i gludo i filfeddygfa leol i gael triniaeth.

Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes, o Heddlu'r Gogledd: "Rwy'n annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ac sydd heb siarad gyda ni hyd yma, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A487 cyn y gwrthdrawiad ac allai fod â delweddau dash-cam i gysylltu gyda ni cyn gynted â phosib."

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod hir cyn iddi ailagor ychydig wedi 18:00 nos Fawrth.