Herio sylwadau awdur fod magu plant yn uniaith Gymraeg yn 'anfanteisiol'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr awdur Jonathan Meades yn rhannu ei safbwynt am yr iaith Gymraeg ar raglen 麻豆约拍 Radio 4 Antisocial
  • Awdur, Bryn Jones
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru Fyw

Cododd ffrae ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar ar 么l sylwadau鈥檙 awdur Jonathan Meades ar raglen Antisocial 麻豆约拍 Radio 4, yn ystod trafodaeth am acenion.

"Mae yno dal ymgyrchu cryf dros unieithrwydd Cymraeg, sy'n anfanteisiol i blant sy'n cael eu magu yn methu siarad yr un iaith 芒 gweddill y genedl," meddai.

Roedd ymateb chwyrn gan nifer ar blatfform X, neu Twitter gynt, gyda nifer yn dweud na wnaeth cael eu magu ar aelwyd Gymraeg amharu arnyn nhw a bod manteision i ddwyieithrwydd.

Dywedodd un cyfrannydd bod angen trafodaeth bellach am addysg ddwyieithog er mwyn canfod os ydy'n cynnig gwerth am arian neu'n anfanteisiol.

Ond waeth pa mor gryf yw'r teimladau, beth am y ffeithiau?

I osgoi neges Twitter
Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Dyw'r 麻豆约拍 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Twitter

Chafodd Mr Meades ddim cyfle gan gyflwynydd Antisocial i ymhelaethu ar ei farn a rhoi tystiolaeth, felly fe gysylltodd Cymru Fyw gyda鈥檙 awdur i ofyn am gyfweliad.

Gwrthododd gan ddweud fod carfan o Gymry Cymraeg yn camddehongli ei farn yn fwriadol.

Awgrymodd enw awdur arall oedd yn rhannu ei farn.

Fe gysyllton ni gydag o - ond doedd o ddim am wneud cyfweliad chwaith, a hynny am resymau tebyg i Mr Meades.

Dywedodd yr awdur, sy鈥檔 dod o Gymru yn wreiddiol, ei fod wedi cael bygythiadau i鈥檞 fywyd y tro diwethaf iddo drafod yr iaith Gymraeg yn gyhoeddus wedi iddo gael ei gyhuddo o wneud sylwadau hiliol a sarhaus.

Felly fe gysylltodd Cymru Fyw gydag arbenigwyr ar iaith yng Nghymru.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Heini Gruffudd bod rhai yn "barnu popeth yn 么l safon Lloegr yn hytrach na safon Cymru"

Mae Heini Gruffudd yn ymgynghorydd iaith ac awdur llyfrau dysgu Cymraeg, ac fel ymgyrchydd dros y Gymraeg, mae鈥檔 feirniadol o Mr Meades.

Dywedodd bod yr awdur, sy鈥檔 dod o dde Lloegr, yn "anymwybodol" o bwysigrwydd yr iaith fel unigolyn di-Gymraeg - ac yn anghywir i feddwl bod 'na Gymry sy'n siarad Cymraeg yn unig.

"Maen nhw'n barnu popeth yn 么l safon Lloegr yn hytrach na safon Cymru," meddai.

"Mae plant Cymraeg o gartrefi Cymraeg bob amser yn dod yn ddwyieithog.

"Mae e'n hanfod pob cenedl sydd gydag iaith ei hun bod plant a phobl yn meddu ar yr iaith honno i wybod pwy ydyn nhw, cael eu hunaniaeth, meddu ar eu diwylliant a hanes.

"Bydde fe ddim am eiliad yn dweud bod Sais sydd yn siarad Saesneg yn ei gartref yn dioddef."

Cymry uniaith Gymraeg?

Ond oes tystiolaeth i gefnogi barn fyddai鈥檔 cael ei gymryd yn ganiataol gan nifer fawr o Gymry Cymraeg - bod plant sy鈥檔 cael eu magu ar aelwydydd Cymraeg bob tro yn ddwyieithog?

Fe ofynnon ni am ffigyrau鈥檙 Cyfrifiad yngl欧n 芒 faint o Gymry oedd dim ond yn siarad Cymraeg.

Roedd y data yn cael ei gasglu ers talwm, yn 么l Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru.

Ond gan fod y niferoedd mor isel fe gafodd y cwestiwn ei ddiddymu yn llwyr erbyn Cyfrifiad 1991.

Fe edrychon ni ar ddata鈥檙 Cyfrifiad y tro diwethaf i鈥檙 cwestiwn gael ei holi - yn 1981 - gan ganolbwyntio ar ardal lle鈥檙 oedd y Gymraeg yn gryf iawn.

Yn ardal Aberdaron, o鈥檙 852 oedd yn byw yno, 28 oedd yn methu siarad Saesneg. Roedd 24 o鈥檙 rheiny un ai dros 65 oed neu鈥檔 blant rhwng 3-15.

Yn y 43 mlynedd ers i鈥檙 ffigyrau gael eu casglu, mae鈥檔 debygol iawn bod y plant wedi dysgu Saesneg wrth fynd drwy鈥檙 system addysg a鈥檙 henoed uniaith Gymraeg wedi marw.

Ffynhonnell y llun, Y Goron

Disgrifiad o'r llun, Ffigyrau Cyfrifiad 1981 am iaith trigolion ardal Aberdaron, Pen Ll欧n

Mae Dr Hywel Glyn Lewis yn arbenigwr ar ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Eglurodd wrth Cymru Fyw bod y gred bod siarad mwy nag un iaith yn niweidiol yn dyddio'n 么l i鈥檙 cyfnod cyntaf o ymchwil i鈥檙 pwnc - gydag un o鈥檙 papurau oedd fwyaf dylanwadol yn ystod y cyfnod bellach yn ganrif oed.

'Agweddau gwleidyddol yn lliwio barn'

Er bod yr ymchwil wedi ei wrthbrofi ers degawdau - gyda鈥檙 papur dylanwadol cyntaf i wneud hynny yn cael ei gyhoeddi gan Lambert a Peal yn 1962 - tydi meddylfryd nifer o bobl heb symud ymlaen, meddai Dr Lewis.

Ychwanegodd bod agweddau tuag at iaith yn aml yn cael eu heffeithio gan agweddau gwleidyddol a barn am hanes.

"Mae鈥檙 dystiolaeth yn glir - does dim anfantais i fod yn ddwyieithog, dim ond manteision," meddai.

"Mae鈥檙 anfantais yn dod o fod yn unieithog, felly y rhai sydd o dan anfantais ydy鈥檙 rhai sydd ddim ond yn siarad Saesneg."

'Dim anfantais i eirfa'

Mae Meinir Williams, sy鈥檔 ddarlithydd dwyieithrwydd ac yn aelod o gr诺p ymchwil Labordy Dwyieithrwydd Plant ym Mhrifysgol Bangor, yn cytuno.

鈥淒oes dim anfanteision o gwbl o fod yn ddwyieithog ond mae nifer o fanteision tebygol,鈥 meddai.

鈥淒oes dim astudiaethau cyfoes, cyn belled a dwi鈥檔 gwybod, yn awgrymu bod anfanteision i eirfa na sgiliau gwybyddol i blant o gwbl.

"Mae ei agwedd [yr awdur Jonathan Meades] yn un sydd heb ei goleddu yn y byd academaidd ers degawdau."

Fe ofynnodd Cymru Fyw am ymateb Jonathan Meades i鈥檙 feirniadaeth ohono.

Dywedodd bod ymchwil un flwyddyn yn cael ei ddilorni鈥檙 flwyddyn ganlynol.

Canlyniadau TGAU

Yn olaf fe ofynnon ni i Lywodraeth Cymru am ddata am ddwyieithrwydd a chyrhaeddiad plant oed ysgol uwchradd.

Mae鈥檔 bwnc cymhleth gan fod nifer o ffactorau yn gallu effeithio cyrhaeddiad academaidd, er enghraifft cefndir rhieni, iechyd a byw mewn ardaloedd difreintiedig.

Ond o edrych ar iaith yr ysgol roedd y data yn dangos bod canlyniadau TGAU 2023 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg fymryn yn uwch ar draws yr holl bynciau, o鈥檜 cymharu ag ysgolion Saesneg.

Roedd y canran o ddisgyblion gafodd graddau A*-C yn Saesneg iaith ychydig bach yn uwch mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg - 67.8% o鈥檌 gymharu gyda 63.0% mewn ysgolion Saesneg.

Roedd y canran o ddisgyblion wnaeth gael graddau A*-C mewn llenyddiaeth Saesneg hefyd yn uwch mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg - 80.3% o鈥檌 gymharu gyda 69.6%.