鶹Լ

Herio sylwadau awdur fod magu plant yn uniaith Gymraeg yn 'anfanteisiol'

Jonathan MeadesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr awdur Jonathan Meades yn rhannu ei safbwynt am yr iaith Gymraeg ar raglen 鶹Լ Radio 4 Antisocial

  • Cyhoeddwyd

Cododd ffrae ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar ar ôl sylwadau’r awdur Jonathan Meades ar raglen Antisocial 鶹Լ Radio 4, yn ystod trafodaeth am acenion.

"Mae yno dal ymgyrchu cryf dros unieithrwydd Cymraeg, sy'n anfanteisiol i blant sy'n cael eu magu yn methu siarad yr un iaith â gweddill y genedl," meddai.

Roedd ymateb chwyrn gan nifer ar blatfform X, neu Twitter gynt, gyda nifer yn dweud na wnaeth cael eu magu ar aelwyd Gymraeg amharu arnyn nhw a bod manteision i ddwyieithrwydd.

Dywedodd un cyfrannydd bod angen trafodaeth bellach am addysg ddwyieithog er mwyn canfod os ydy'n cynnig gwerth am arian neu'n anfanteisiol.

Ond waeth pa mor gryf yw'r teimladau, beth am y ffeithiau?

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Owen Sheers FRSL

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Owen Sheers FRSL

Chafodd Mr Meades ddim cyfle gan gyflwynydd Antisocial i ymhelaethu ar ei farn a rhoi tystiolaeth, felly fe gysylltodd Cymru Fyw gyda’r awdur i ofyn am gyfweliad.

Gwrthododd gan ddweud fod carfan o Gymry Cymraeg yn camddehongli ei farn yn fwriadol.

Awgrymodd enw awdur arall oedd yn rhannu ei farn.

Fe gysyllton ni gydag o - ond doedd o ddim am wneud cyfweliad chwaith, a hynny am resymau tebyg i Mr Meades.

Dywedodd yr awdur, sy’n dod o Gymru yn wreiddiol, ei fod wedi cael bygythiadau i’w fywyd y tro diwethaf iddo drafod yr iaith Gymraeg yn gyhoeddus wedi iddo gael ei gyhuddo o wneud sylwadau hiliol a sarhaus.

Felly fe gysylltodd Cymru Fyw gydag arbenigwyr ar iaith yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heini Gruffudd bod rhai yn "barnu popeth yn ôl safon Lloegr yn hytrach na safon Cymru"

Mae Heini Gruffudd yn ymgynghorydd iaith ac awdur llyfrau dysgu Cymraeg, ac fel ymgyrchydd dros y Gymraeg, mae’n feirniadol o Mr Meades.

Dywedodd bod yr awdur, sy’n dod o dde Lloegr, yn "anymwybodol" o bwysigrwydd yr iaith fel unigolyn di-Gymraeg - ac yn anghywir i feddwl bod 'na Gymry sy'n siarad Cymraeg yn unig.

"Maen nhw'n barnu popeth yn ôl safon Lloegr yn hytrach na safon Cymru," meddai.

"Mae plant Cymraeg o gartrefi Cymraeg bob amser yn dod yn ddwyieithog.

"Mae e'n hanfod pob cenedl sydd gydag iaith ei hun bod plant a phobl yn meddu ar yr iaith honno i wybod pwy ydyn nhw, cael eu hunaniaeth, meddu ar eu diwylliant a hanes.

"Bydde fe ddim am eiliad yn dweud bod Sais sydd yn siarad Saesneg yn ei gartref yn dioddef."

Cymry uniaith Gymraeg?

Ond oes tystiolaeth i gefnogi barn fyddai’n cael ei gymryd yn ganiataol gan nifer fawr o Gymry Cymraeg - bod plant sy’n cael eu magu ar aelwydydd Cymraeg bob tro yn ddwyieithog?

Fe ofynnon ni am ffigyrau’r Cyfrifiad ynglŷn â faint o Gymry oedd dim ond yn siarad Cymraeg.

Roedd y data yn cael ei gasglu ers talwm, yn ôl Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru.

Ond gan fod y niferoedd mor isel fe gafodd y cwestiwn ei ddiddymu yn llwyr erbyn Cyfrifiad 1991.

Fe edrychon ni ar ddata’r Cyfrifiad y tro diwethaf i’r cwestiwn gael ei holi - yn 1981 - gan ganolbwyntio ar ardal lle’r oedd y Gymraeg yn gryf iawn.

Yn ardal Aberdaron, o’r 852 oedd yn byw yno, 28 oedd yn methu siarad Saesneg. Roedd 24 o’r rheiny un ai dros 65 oed neu’n blant rhwng 3-15.

Yn y 43 mlynedd ers i’r ffigyrau gael eu casglu, mae’n debygol iawn bod y plant wedi dysgu Saesneg wrth fynd drwy’r system addysg a’r henoed uniaith Gymraeg wedi marw.

Ffynhonnell y llun, Y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Ffigyrau Cyfrifiad 1981 am iaith trigolion ardal Aberdaron, Pen Llŷn

Mae Dr Hywel Glyn Lewis yn arbenigwr ar ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Eglurodd wrth Cymru Fyw bod y gred bod siarad mwy nag un iaith yn niweidiol yn dyddio'n ôl i’r cyfnod cyntaf o ymchwil i’r pwnc - gydag un o’r papurau oedd fwyaf dylanwadol yn ystod y cyfnod bellach yn ganrif oed.

'Agweddau gwleidyddol yn lliwio barn'

Er bod yr ymchwil wedi ei wrthbrofi ers degawdau - gyda’r papur dylanwadol cyntaf i wneud hynny yn cael ei gyhoeddi gan Lambert a Peal yn 1962 - tydi meddylfryd nifer o bobl heb symud ymlaen, meddai Dr Lewis.

Ychwanegodd bod agweddau tuag at iaith yn aml yn cael eu heffeithio gan agweddau gwleidyddol a barn am hanes.

"Mae’r dystiolaeth yn glir - does dim anfantais i fod yn ddwyieithog, dim ond manteision," meddai.

"Mae’r anfantais yn dod o fod yn unieithog, felly y rhai sydd o dan anfantais ydy’r rhai sydd ddim ond yn siarad Saesneg."

'Dim anfantais i eirfa'

Mae Meinir Williams, sy’n ddarlithydd dwyieithrwydd ac yn aelod o grŵp ymchwil Labordy Dwyieithrwydd Plant ym Mhrifysgol Bangor, yn cytuno.

“Does dim anfanteision o gwbl o fod yn ddwyieithog ond mae nifer o fanteision tebygol,” meddai.

“Does dim astudiaethau cyfoes, cyn belled a dwi’n gwybod, yn awgrymu bod anfanteision i eirfa na sgiliau gwybyddol i blant o gwbl.

"Mae ei agwedd [yr awdur Jonathan Meades] yn un sydd heb ei goleddu yn y byd academaidd ers degawdau."

Fe ofynnodd Cymru Fyw am ymateb Jonathan Meades i’r feirniadaeth ohono.

Dywedodd bod ymchwil un flwyddyn yn cael ei ddilorni’r flwyddyn ganlynol.

Canlyniadau TGAU

Yn olaf fe ofynnon ni i Lywodraeth Cymru am ddata am ddwyieithrwydd a chyrhaeddiad plant oed ysgol uwchradd.

Mae’n bwnc cymhleth gan fod nifer o ffactorau yn gallu effeithio cyrhaeddiad academaidd, er enghraifft cefndir rhieni, iechyd a byw mewn ardaloedd difreintiedig.

Ond o edrych ar iaith yr ysgol roedd y data yn dangos bod canlyniadau TGAU 2023 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg fymryn yn uwch ar draws yr holl bynciau, o’u cymharu ag ysgolion Saesneg.

Roedd y canran o ddisgyblion gafodd graddau A*-C yn Saesneg iaith ychydig bach yn uwch mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg - 67.8% o’i gymharu gyda 63.0% mewn ysgolion Saesneg.

Roedd y canran o ddisgyblion wnaeth gael graddau A*-C mewn llenyddiaeth Saesneg hefyd yn uwch mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg - 80.3% o’i gymharu gyda 69.6%.