'Dim cefnogaeth' i gael diagnosis syndrom ofari polysystig

Disgrifiad o'r llun, Fe dreuliodd Sarah ac Annika flynyddoedd yn gweld gwahanol feddygon cyn cael diagnosis o PCOS
  • Awdur, Meleri Williams a Megan Davies
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Mae dwy chwaer sy鈥檔 byw 芒 syndrom ofari polysystig (PCOS) yn dweud iddyn nhw deimlo鈥檔 unig a heb gefnogaeth wrth geisio cael diagnosis o鈥檙 cyflwr.

Fe brofodd Annika Thomas, 39, a Sarah Davies, 44, o Sir Gaerfyrddin symptomau fel mislif anghyson, problemau ffrwythlondeb ac effaith ar eu hiechyd meddwl.

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn awgrymu bod y cyflwr, sy鈥檔 effeithio ar sut mae鈥檙 ofariau鈥檔 gweithio, yn dod yn fwy cyffredin.

Mae鈥檙 gwaith yn awgrymu bod angen nifer o wahanol apwyntiadau ar fenywod oherwydd yr ystod eang o symptomau, sy鈥檔 costio amcangyfrif o 拢1.2bn y flwyddyn i economi鈥檙 DU.

Dywedodd yr ymgynghorydd a鈥檙 athro mewn endocrinoleg, Aled Rees bod angen 鈥渂uddsoddiad ac adnoddau鈥 i helpu cleifion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd eu cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn, a鈥檜 bod yn buddsoddi mewn ymchwil.

Disgrifiad o'r llun, Annika a'i merch chwe mis oed, Alaw

Treuliodd Annika a Sarah flynyddoedd yn gweld gwahanol feddygon mewn apwyntiadau amrywiol cyn cael diagnosis o PCOS.

Fe sylwodd Annika fod ganddi fislif anghyson yn ei harddegau, ond aeth 鈥渢ua 10 mlynedd鈥 cyn iddi gael diagnosis.

"O'dd y doctors ddim rili yn meddwl lot am byti fe,鈥 dywedodd.

"'Na'i gyd o'n nhw'n 'neud o'dd newid y math o contraceptive o鈥檔 i arno.

"O'dd y dyddiau yn teimlo fel misoedd. O'dd e'n flwyddyn ambell waith cyn bod unrhyw beth wedi digwydd.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Annika a'i g诺r Eulyn yn ystod triniaeth IVF cyn i'w mab gael ei eni yn 2018

Yn fam i dri erbyn hyn, dywedodd Annika iddi gael blynyddoedd heriol cyn geni ei mab cyntaf yn 2018 trwy driniaeth IVF.

"Pryd ma' PCOS 'da ti, ti jyst moyn bod yn normal. O'dd e'n rili, rili tough.鈥

A hithau'n fis ymwybyddiaeth PCOS, yn 么l ei chwaer, Sarah, mae bylchau yn y system sy鈥檔 golygu ei bod wedi gorfod mynd i wahanol apwyntiadau ar gyfer y gwahanol symptomau o PCOS yr oedd hi鈥檔 eu profi.

鈥淥鈥檇d e fel bod y doctoriaid moyn [datrys] un peth, ond ma鈥 lot o bethe鈥 iddo fe,鈥 dywedodd.

鈥淥鈥檔 i ddim yn cael periods yn aml, weithie o鈥檇d misoedd yn mynd heb gael un, ond ambell waith o鈥檔 i鈥檔 gwaedu am dros fis.

鈥淵 croen, acne, lan a lawr 鈥榙a pwysau drwy鈥檙 amser a dal yn gwneud 鈥榥a nawr. Oedd e鈥檔 gallu bod yn eitha鈥 caled.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod nhw 鈥渂ob amser yn flin i glywed os yw cleifion yn anhapus gyda鈥檙 driniaeth maen nhw wedi鈥檌 derbyn鈥.

鈥淩ydym bob amser yn ymdrechu i wella cyfathrebu rhwng ein hadrannau fel bod cleifion yn cael eu gweld gan y clinigwr a all eu helpu orau cyn gynted 芒 phosibl.鈥

Beth yw PCOS?

Mae PCOS yn gyflwr sy鈥檔 effeithio ar sawl rhan o鈥檙 corff, gan gynnwys metabolaeth a sut mae鈥檙 ofar茂au鈥檔 gweithio.

Un o鈥檙 prif symptomau yw mislif anghyson o ganlyniad i鈥檙 anhawsterau gyda鈥檙 ofariau鈥檔 rhyddhau wyau yn gyson, sy鈥檔 gallu arwain at broblemau gyda ffrwythlondeb.

Mae symptomau hefyd yn cynnwys mwy o wallt ar y corff, problemau gyda鈥檙 croen, ac i rai cleifion, cynnydd mewn pwysau.

Yn hir dymor, fe allai cleifion wynebu risg uwch o iselder, gorbryder, clefyd y galon a diabetes math 2.

Galw am fwy o fuddsoddiad

Mae mwy o bobl yn cael diagnosis erbyn hyn, yn 么l yr astudiaeth ddiweddar yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.

Yn 么l yr arbenigwyr, a wnaeth yr astudiaeth gyda 120,000 o fenywod ar draws y DU, mae grwpiau llai breintiedig a phobl o gefndir ethnig Asiaidd yn wynebu mwy o risg o gael y cyflwr.

Daethon nhw i鈥檙 casgliad bod angen mwy o fuddsoddiad i wella adnoddau a chefnogaeth i gleifion.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Athro Aled Rees bod angen 鈥渂uddsoddiad ac adnoddau鈥 i helpu cleifion

Yn 么l yr Athro Aled Rees mae cleifion yn cael eu 鈥渉effeithio鈥檔 sylweddol鈥 gan y cyflwr a does dim triniaeth benodol ar ei gyfer.

鈥淔e fydden i鈥檔 annog y llywodraeth, arianwyr a phobl sy鈥檔 gwneud polisiau ynglyn 芒 chyflwr fel PCOS i roi rhagor o fuddsoddiad," meddai.

鈥淢a' pobl yn gallu bennu lan gyda oedi sylweddol wrth ddod i ddiagnosis mewn amser prydlon.

鈥淢ae pwysigrwydd hefyd bod pobl yn cael eu cyfeirio at arbenigwyr os oes angen.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Katie Baskerville hefyd yn byw gyda chyflwr PCOS

Dywedodd Katie Baskerville o Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, sy'n byw 芒鈥檙 cyflwr ei hun, nad yw casgliadau鈥檙 ymchwil yn dod fel syndod.

鈥淒wi 鈥榙i bod yn byw efo PCOS ers o鈥檔 i鈥檔 ysgol,鈥 dywedodd.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 mynd yn 么l i鈥檙 GP a 'n么l i鈥檙 ysbyty a 'dach chi just ddim yn gw'bod be' i 'neud efo鈥檆h hun.

鈥淒oes neb yn coelio chi pan 'dach chi鈥檔 s么n am y symptomau 'ma. Does neb yn gweld y peth yn holistaidd.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i bob bwrdd iechyd 鈥済ymryd camau cadarnhaol i wella profiadau a chanlyniadau menywod a mynd i鈥檙 afael ag unrhyw anghydraddoldebau鈥.

鈥淓leni fe wnaethom benodi鈥檙 arweinydd clinigol cyntaf erioed ar gyfer iechyd menywod a sefydlu Rhwydwaith Iechyd Menywod sy鈥檔 datblygu鈥檙 cynllun iechyd menywod 10 mlynedd i Gymru,鈥 ychwanegodd.

鈥淏ydd y cynllun yn canolbwyntio ar ystod o faterion iechyd menywod, gan gynnwys iechyd mislif a PCOS.

"Mae disgwyl i鈥檙 cynllun gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2024.

鈥淔e wnaethom ni hefyd gyhoeddi 拢750,000 i ymchwil sy鈥檔 canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd menywod i鈥檞 lansio yn 2025.鈥