Eisteddfod Pontypridd yn 'gyfle i fusnesau lleol'

Disgrifiad o'r llun, Cafodd nifer o gwmnïau lleol eu gwahodd i frecwast busnes ar safle'r ŵyl ym Mharc Ynysangharad fore Gwener
  • Awdur, Alun Thomas
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn dweud bod cynnal yr ŵyl ynghanol tref Pontypridd yn gyfle i fusnesau'r ardal.

50 diwrnod cyn dechrau’r Brifwyl, cafodd nifer o gwmnïau lleol eu gwahodd i frecwast busnes ar safle'r ŵyl ym Mharc Ynysangharad fore Gwener i glywed am y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.

"Mae’n hynod o bwysig fod yr wythnos yna’n cael effaith pell tu hwnt ar fusnesau lleol," meddai is-gadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, Andrew White.

Y nod, meddai, yw bod "pobl tu allan i'r sir yn gweld y busnesau a'r gwaith ffantastig maen nhw'n cynhyrchu, a hefyd bod pobl y dre' yn gweld yr iaith yn ffynnu o fewn busnesau lleol".

Disgrifiad o'r llun, Andrew White yw is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Roedd rhyw 30 o gwmnïau yn bresennol yn y digwyddiad, yn eu plith Julie Evans o gwmni Urban Markets and Events yn Gilfach-goch, sy'n cynnig cyfleoedd i fusnesau lleol i arddangos eu cynnyrch

Mae'n croesawu’r cyfleoedd ddaw yn sgil cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal.

"Dwi wedi bod mewn busnes ers dwy flynedd, ac mae wedi bod yn anodd iawn ar ôl Covid a phopeth, felly mae rhoi cyfleoedd i'r busnesau 'ma i ddangos eu gwaith a hybu eu henwau - mae'n mynd i fod yn dda iawn," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Julie Evans yn croesawu’r cyfleoedd ddaw yn sgil cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal

Mae'r Eisteddfod hefyd yn ceisio annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg mewn busnesau, yn enwedig ym Mhontypridd gan fod y maes ar Barc Ynysangharad ynghanol y dref.

"Fe fydd yn adeiladu ar rywbeth sydd eisoes yn digwydd," meddai Jeff Baxter sy'n berchen ar siop lyfrau ym Mhontypridd.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Jeff Baxter fod "cymuned Gymraeg gref yma yn barod"

"Dwi'n credu bod lot o fusnesau yn gweld hynny, oherwydd mae ganddon ni gymuned Gymraeg gref yma yn barod, a llawer o rieni di-Gymraeg yn anfon eu plant i ysgolion Cymraeg."

Mae defnyddio ychydig o'r iaith yn gwneud gwahaniaeth, meddai.

"Hyd yn oed os yw'n rhywbeth syml, fel 'bore da', yna mae'n dod yn fwy naturiol."

Disgrifiad o'r llun, Osian Rowlands yw prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

Mae prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Osian Rowlands, yn annog perchnogion busnes a thrigolion eraill i fentro defnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd ganddyn nhw.

"Y neges fi wedi cael yn y ddwy flynedd 'ma yw 'my Welsh isn’t good enough’.

"Mae pobl yn poeni, ond gwnewch y pethau bychan, defnyddiwch beth sydd gyda chi, ac fe gewch chi’r gefnogaeth."