AS yn codi pryder diogelwch am arwyddion Cymraeg ar yr M4

Disgrifiad o'r llun, Mae Natasha Asghar wedi bod yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru ers 2021
  • Awdur, Alun Jones
  • Swydd, Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

Mae AS Ceidwadol wedi mynegi pryderon am negeseuon diogelwch "ar gael yn Gymraeg yn unig" ar arwyddion electronig ar draffordd yr M4.

Dywedodd Natasha Asghar iddi dderbyn "nifer digynsail o adroddiadau diweddar gan etholwyr yn datgelu bod arwyddion Cymraeg yn unig wedi bod ar yr M4 ar sawl achlysur".

Ond ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford, bod hynny'n "swnio fel chwedl i mi".

Gwrthododd Llywodraeth Cymru y cyfle i ehangu ar ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet.

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru

Dywedodd Natasha Asghar yn y Senedd brynhawn Mercher, "tra, wrth gwrs, rydym i gyd eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei chefnogi ledled Cymru... rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig, lle mae diogelwch yn berthnasol, i wneud yn siŵr bod y Gymraeg a’r Saesneg wedi’u cyflwyno’n glir ac yn hygyrch i bawb".

"Rwyf wedi cael gwybod gan etholwyr lluosog am negeseuon ar gael yn Gymraeg yn unig am gyflymder amrywiol ar draws yr M4 yn ymwneud â rhybuddion brys ar gyfer ciwiau o’u blaenau, amodau gyrru gwael neu arafu oherwydd damwain sydd newydd ddigwydd.

"Felly, maen nhw yn anodd i'w deall i lawer o yrwyr cerbydau nwyddau trwm sy'n teithio i Gymru o dramor, twristiaid a thrigolion nad ydynt yn hyderus yn y Gymraeg neu nad ydynt yn ei siarad o gwbl".

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i "sicrhau bod negeseuon dwyieithog, nid uniaith, yn cael eu hyrwyddo bob amser".

'Dealladwy'

Ymatebodd Mark Drakeford, "gwneir ymdrech fawr, wrth gwrs, i sicrhau bod arwyddion ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg".

"Dychmygaf fod yr achlysuron pan nad yw pobl ond yn gallu gweld rhybudd Cymraeg yn eithaf bach.

"Mae yna arwyddion, wrth gwrs, sy’n dangos pethau yn Saesneg ac yna yn Gymraeg, ac wedyn yn Saesneg ac wedyn yn Gymraeg, ac mae hynny’n ffordd gwbl ddealladwy o fynd ati.

"Os yw’r Aelod am ysgrifennu ataf gydag achosion gwirioneddol o’r broblem, wrth gwrs byddaf yn ymchwilio iddynt, ond mae'n swnio fel chwedl i mi.

"Nid dyma'r tro cyntaf i mi glywed hyn, a phob tro rwyf wedi edrych arno, nid yw'n troi allan i fod y math o broblem sydd wedi'i chynnig".