'Braint cael cario fflam y Gemau Paralympaidd'

Disgrifiad o'r llun, Lowri Morgan (ail o'r chwith) wrth i'r ffagl Baralympaidd adael Lloegr am Ffrainc fore Sul

Mae'r cyflwynydd, anturiaethwr a rhedwr marathonau ultra Lowri Morgan wedi disgrifio'r "fraint ac anrhydedd" o gael rhan ganolog mewn taith arbennig yn hanes y Gemau Paralympaidd.

Roedd hi ymhlith 24 o bobl a gafodd eu dewis i gerdded ar hyd Twnnel y Sianel yn Folkestone fore Sul a throsglwyddo'r fflam Baralympaidd hanner ffordd dan Fôr Udd i 24 o hebryngwyr o Ffrainc.

Mae hwn yn draddodiad newydd eleni ers y cyhoeddiad y llynedd mai Ysbyty Stoke Mandeville yn Lloegr, man cychwyn y mudiad Paralympaidd, yw cartref parhaol y fflam.

Wedi i'r fflam ddod allan o'r twnnel yn Calais, fe fydd yn cael ei rhannu'n 12 o fflamau gan groesi Ffrainc dros bedwar diwrnod cyn dechrau'r Gemau ym Mharis.

'Syrpreis - a chyfrinachedd mawr'

Wrth siarad ar raglen Bore Sul Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, dywedodd Lowri Morgan bod hi'n "syrpreis mawr iawn i fi dderbyn yr ebost yn gofyn i mi fod yn rhan o gario fflam i'r Gemau Paralympaidd".

Dywedodd bod "rhywun caredig wedi meddwl amdana'i" ac awgrymu i'r trefnwyr gynnig "y fraint a'r anrhydedd yma" iddi.

"Mae hwn wedi bod yn hynod gyfrinachol - o'n i ddim yn gw'bod yn union beth o'n i'n 'neud tan ychydig ddiwrnode yn ôl.

"Mae'r digwyddiad yn mynd i fod yn un o'r pethe mwya' bythgofiadwy bydda i'n 'neud - a dwi 'di 'neud tipyn o bethe yn fy mywyd i!

"Dyma'r tro cynta' iddyn nhw 'neud hyn, sef mynd â'r fflam trwy'r twnnel o dan y sianel."

Disgrifiad o'r llun, Eglurodd Lowri mai trwy dwnnel gwasanaeth ategol y cafodd y fflam ei chludo o Loegr i Ffrainc

Dywedodd Lowri wrth y rhaglen ei bod yn cael "goose-bumps" wrth edrych ymlaen at yr achlysur.

"Pan o'n i'n blentyn [ac yn rhedeg ar y trac ac ar draws gwlad] o'n i wastad yn breuddwydio am allu cyrra'dd y Gemau Olympaidd," meddai.

"Yn anffodus, nath hynny byth ddigwydd i mi oherwydd anafiade, ac wrth gwrs fe nath y trywydd droi at chwarae rygbi dros Gymru.

"Ond o'r diwedd dwi'n ca'l rhoi bach o fy hun mewn i'r Gemau [Paralympaidd] a dwi'n hynod o excited am hynny."