Dileu euogfarn cyn is-bostfeistr o Wynedd gafodd ei garcharu ar gam

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Fe dderbyniodd Dewi Lewis y llythyr deuddydd ar ôl iddo briodi ei bartner, Mags

Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd a gafodd ei garcharu ar gam am ddwyn 13 mlynedd yn ôl wedi cael gwybod fod ei euogfarn wedi'i dileu.

Aeth Dewi Lewis i'r carchar am bedwar mis yn 2011 ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ddwyn dros £50,000 gan Swyddfa'r Post.

Fe blediodd yn euog i'r cyhuddiad yn dilyn archwiliad o'r cyfrifon yn ei gangen ym Mhenrhyndeudraeth.

Dywedodd Mr Lewis wrth Cymru Fyw ei fod wedi derbyn llythyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yr wythnos diwethaf yn cadarnhau fod ei euogfarn wedi'i dileu.

"[Mae'n] rhyddhad enfawr [ac wedi] codi baich enfawr ar ôl 13 mlynedd o hunllef," meddai.

Cafodd dros 700 o is-bostfeistri eu cyhuddo'n anghyfiawn oherwydd gwallau yn system gyfrifiadurol Horizon Swyddfa'r Post, gan arwain at gamweinyddu cyfiawnder ar raddfa eang.

'Lot o emosiwn'

Disgrifiad o'r llun, Erthygl oddi ar wefan Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru o 2011 yn adrodd ar garcharu Mr Lewis

Clywodd y llys yn 2011 fod tad Mr Lewis, yn 86 oed, wedi ail-forgeisio ei dÅ· i dalu'r swm ar ran ei fab.

Ychwanegodd Mr Lewis: "Y peth mwyaf trist ydy nad ydy fy rhieni yma i weld y llythyr - i weld y gwir yn dod allan.

"Ond dwi wedi bod yn lwcus iawn yn cael cymaint o gefnogaeth gan fy nheulu a'r gymuned.

"[Dwi'n] ddiolchgar iawn i bobl fel Alan Bates a Noel Thomas am eu holl waith.

"Mae lot o emosiwn wedi bod ers derbyn y llythyr."

Fe dderbyniodd Mr Lewis, sy'n 68 oed, y llythyr deuddydd ar ôl iddo briodi ei bartner, Mags.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Roedd hi'n ychydig ddyddiau hapus iawn i'r pâr priod wythnos diwethaf

Cafodd Mr Lewis ei garcharu am 16 mis yn wreiddiol, ond cafodd ei ostwng i bedwar mis.

Roedd Mr Lewis, a wasanaethodd fel cynghorydd Plaid Cymru ac a weithiodd i Swyddfa’r Post am 26 mlynedd, wedi'i gyhuddo yn wreiddiol o ddwyn £53,629.09.

Dywedodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ei bod yn hynod falch o glywed y newyddion.

Nododd fod y penderfyniad yn adfer enw da Mr Lewis ar ôl blynyddoedd o gam-weithredu gan uwch-reolwyr Swyddfa’r Post.

I osgoi neges Facebook
Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Facebook a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook