麻豆约拍

Dileu euogfarn cyn is-bostfeistr o Wynedd gafodd ei garcharu ar gam

Fe dderbyniodd Dewi Lewis y llythyr deuddydd ar 么l iddo briodi ei bartner, MagsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe dderbyniodd Dewi Lewis y llythyr deuddydd ar 么l iddo briodi ei bartner, Mags

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd a gafodd ei garcharu ar gam am ddwyn 13 mlynedd yn 么l wedi cael gwybod fod ei euogfarn wedi'i dileu.

Aeth Dewi Lewis i'r carchar am bedwar mis yn 2011 ar 么l iddo gael ei gyhuddo o ddwyn dros 拢50,000 gan Swyddfa'r Post.

Fe blediodd yn euog i'r cyhuddiad yn dilyn archwiliad o'r cyfrifon yn ei gangen ym Mhenrhyndeudraeth.

Dywedodd Mr Lewis wrth Cymru Fyw ei fod wedi derbyn llythyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yr wythnos diwethaf yn cadarnhau fod ei euogfarn wedi'i dileu.

"[Mae'n] rhyddhad enfawr [ac wedi] codi baich enfawr ar 么l 13 mlynedd o hunllef," meddai.

Cafodd dros 700 o is-bostfeistri eu cyhuddo'n anghyfiawn oherwydd gwallau yn system gyfrifiadurol Horizon Swyddfa'r Post, gan arwain at gamweinyddu cyfiawnder ar raddfa eang.

'Lot o emosiwn'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Erthygl oddi ar wefan Newyddion 麻豆约拍 Cymru o 2011 yn adrodd ar garcharu Mr Lewis

Clywodd y llys yn 2011 fod tad Mr Lewis, yn 86 oed, wedi ail-forgeisio ei d欧 i dalu'r swm ar ran ei fab.

Ychwanegodd Mr Lewis: "Y peth mwyaf trist ydy nad ydy fy rhieni yma i weld y llythyr - i weld y gwir yn dod allan.

"Ond dwi wedi bod yn lwcus iawn yn cael cymaint o gefnogaeth gan fy nheulu a'r gymuned.

"[Dwi'n] ddiolchgar iawn i bobl fel Alan Bates a Noel Thomas am eu holl waith.

"Mae lot o emosiwn wedi bod ers derbyn y llythyr."

Fe dderbyniodd Mr Lewis, sy'n 68 oed, y llythyr deuddydd ar 么l iddo briodi ei bartner, Mags.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd hi'n ychydig ddyddiau hapus iawn i'r p芒r priod wythnos diwethaf

Cafodd Mr Lewis ei garcharu am 16 mis yn wreiddiol, ond cafodd ei ostwng i bedwar mis.

Roedd Mr Lewis, a wasanaethodd fel cynghorydd Plaid Cymru ac a weithiodd i Swyddfa鈥檙 Post am 26 mlynedd, wedi'i gyhuddo yn wreiddiol o ddwyn 拢53,629.09.

Dywedodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ei bod yn hynod falch o glywed y newyddion.

Nododd fod y penderfyniad yn adfer enw da Mr Lewis ar 么l blynyddoedd o gam-weithredu gan uwch-reolwyr Swyddfa鈥檙 Post.

Nid yw鈥檙 post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r 麻豆约拍 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Liz Saville Roberts - Dwyfor Meirionnydd

Caniat谩u cynnwys Facebook?

Mae鈥檙 erthygl yma鈥檔 cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Dyw'r 麻豆约拍 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Liz Saville Roberts - Dwyfor Meirionnydd

Pynciau cysylltiedig