Trais difrifol yn lleihau: Costau byw yn ffactor posib

Ffynhonnell y llun, Getty

Disgrifiad o'r llun, Y gred ydy bod yr argyfwng costau byw wedi cyfrannu at y gostyngiad gyda llai o bobl yn mynd allan i yfed
  • Awdur, David Grundy
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru

Roedd gostyngiad o 14% yn yr achosion o drais difrifol yng Nghymru a Lloegr yn 2022 a 2023, yn 么l gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Y gred ydy bod yr argyfwng costau byw wedi cyfrannu at y gostyngiad gan fod llai o bobl yn gallu fforddio mynd allan i yfed alcohol.

Edrychodd ymchwilwyr ar ddata o dros 200 o adrannau brys, unedau m芒n anafiadau a chanolfannau galw heibio鈥檙 Gwasanaeth Iechyd yn 2022 a 2023.

Serch hynny mae鈥檙 data'n awgrymu bod yna gynnydd yn nifer yr achosion o droseddau o鈥檙 fath yn erbyn plant dan 10 oed, gyda rhybudd bod angen rhagor o waith ymchwil yn y maes.

'Cymru'n fwy diogel'

鈥淢ae Cymru a Lloegr lawer yn fwy diogel,鈥 meddai鈥檙 Athro Jonathan Shepherd o Gr诺p Ymchwil Prifysgol Caerdydd ar Drais, a chyd-awdur yr adroddiad

鈥淢ae trais difrifol yng Nghymru a Lloegr, yn 么l ein hadroddiad, wedi gostwng 55% ers 2010 a 66% ers 2001.鈥

Mae鈥檙 ymchwilwyr yn amcangyfrif bod 141,804 o bobl wedi mynd i Adrannau Achosion Brys yng Nghymru a Lloegr yn sgil anafiadau a oedd yn gysylltiedig 芒 thrais yn 2023.

Mae hynny 22,919 - neu 14% - yn is na 2022.

Disgrifiad o'r llun, 鈥淢ae trais difrifol yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 55% ers 2010 a 66% ers 2001," meddai鈥檙 Athro Jonathan Shepherd

Roedd cynnydd yn syth ar 么l i gyfyngiadau鈥檙 cyfnodau clo gael eu codi, ond mae鈥檙 gostyngiad diweddaraf yn adlewyrchu鈥檙 llwybr cyson ar ei lawr oedd wedi bodoli am dros 20 mlynedd.

鈥淢ae鈥檙 argyfwng costau byw, mae hi鈥檔 debyg, wedi arwain at lai o bobl yn gallu fforddio i fynd allan,鈥 meddai鈥檙 Athro Shepherd.

鈥淎 gyda mwy a mwy yn aros adref, a llai o bobl ifanc yn yfed alcohol, mae hi鈥檔 bosib byd hynny鈥檔 cyfrannu at lai a llai o ddigwyddiadau treisgar yn ein trefi a dinasoedd."

Angen rhagor o waith ymchwil

Yn 么l y gwaith ymchwil, roedd gostyngiad sylweddol - 25% - mewn trais sy鈥檔 effeithio ar bobl ifanc 18-30 oed yn 2023 o鈥檌 gymharu 芒 2022.

I bobl ifanc rhwng 11-17 oed roedd 3.7% o ostyngiad, a 15.8% o ostyngiad ymhlith pobl rhwng 31-50 oed.

Mewn cyferbyniad 芒 hyn, ymhlith y gr诺p oedran ieuengaf, rhwng 0 a 10 oed, roedd 52.8% o gynnydd yn nifer yr anafiadau difrifol a achosir gan drais.

Tra bod ymchwilwyr yn credu bod cynnydd wedi bod, mae 鈥榥a rybudd am y data penodol yma oherwydd y niferoedd isel o blant sydd wedi profi鈥檙 math yma o drais.

鈥淢ae angen trin y cynnydd o 53% yn nifer y plant 0-10 oed sy鈥檔 mynd i adrannau brys yn dilyn trais, yn lled ofalus,鈥 meddai鈥檙 Athro Shepherd.

鈥淢ae鈥檙 niferoedd yn isel, sef 1,279 yn 2023, ac mae鈥檙 rhain yn amrywio gan ddibynnu ar y flwyddyn, gan mai鈥檙 nifer amcangyfrifedig yn 2022 oedd 699.鈥

Ychwanegodd bod angen rhagor o waith ymchwil penodol dros y blynyddoedd nesaf, serch hynny, a bod angen ystyried llunio polis茂au i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem bosib.

鈥淢ae rhoi strategaethau ar waith yn debygol o fod yn un o brif achosion y cwymp sylweddol,鈥 meddai.

鈥淢ae cynlluniau atal penodol ar y cyd gan yr heddlu, awdurdodau lleol a鈥檙 Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal 芒 phlismona manwl gywir yn cyfrannu at wneud Cymru a Lloegr yn fwy diogel.鈥