'Rhaid meddwl am y plant yn achos Huw Edwards'

Dywed Cyfarwyddwr Cyffredinol Â鶹ԼÅÄ Cymru, Rhuanedd Richards, bod achos Huw Edwards yn "gwbl ofnadwy" ac "yn siom" ond mai'r hyn sydd bwysicaf yw "cofio am y plant a'r bobl ifanc yn yr achos yma".

Ddydd Mercher fe blediodd Huw Edwards yn euog i greu delweddau anweddus o blant.

Wrth siarad ar raglen Bore Sul, rhaglen y bu Mr Edwards ei hun yn ei chyflwyno am gyfnod, dywedodd Ms Richards: "Dwi'n teimlo'n grac a theimlo siom am yr hyn sydd wedi digwydd ond does dim ots sut dwi i'n teimlo. Dwi'n gwbl amherthnasol yn hyn oll. Tu ôl i bob un o'r delweddau hyn a grewyd mae 'na blentyn, mae 'na blant.

"Mae'r troseddau yma yn erbyn plant yn gysgod tywyll dros ein cymdeithas ni - yn droseddau sy'n achosi niwed. Gwarchod lles ein plant mewn cymdeithas - dyna'r flaenoriaeth ac yn amlwg dirnad sut mae'r pethau yma yn digwydd."

'Prosesau i'w dilyn'

Wrth gael ei holi am faint oedd y Â鶹ԼÅÄ yn ei wybod ac a ddylai'r gorfforaeth fod wedi ymateb yn gynt dywedodd Rhuanedd Richards bod hynny yn anodd gan bod prosesau penodol i'w dilyn.

"Dwi wedi bod yn rheolwr llinell, yn bennaeth sefydliad ers digon o amser i wybod pan fo pethau fel hyn yn digwydd bod angen dilyn prosesau.

"Mae angen parchu rheolau cyflogaeth a dwi'n hyderus, gyda'r hyn dwi wedi'i weld a'r hyn dwi wedi'i glywed hyd yma, mai dyna'n union wnaeth Cyfarwyddwr Cyffredinol y Â鶹ԼÅÄ, Tim Davie, a'r rhai oedd o'i amgylch e yn ystod y cyfnod yna.

"Ond dyw hynna ddim yn gysur i eraill sydd eisiau clywed mwy, eisiau gwybod yn union pwy ddywedodd beth wrth bwy a phryd," ychwanegodd Ms Richards.

"Ond mae'n rhaid i ni barchu cyfrinachedd y rhai hynny ddoth ymlaen. Rhaid i ni barchu prosesau, cyfraith a sicrhau o fewn hynny ein bod fel corfforaeth yn gallu bod mor dryloyw a theg â phosib."

Disgrifiad o'r llun, Huw Edwards yn cyrraedd Llys Ynadon Westminster fore Mercher

Ychwanegodd Ms Richards nad oedd hi'n gwybod am y cyhuddiadau yn erbyn Huw Edwards na'i arestio tan ddechrau'r wythnos.

Dywedodd bod hyn wedi gwneud niwed ac wedi bod yn gysgod tywyll iawn dros gymdeithas, a thros y Â鶹ԼÅÄ am gyfnod hir iawn.

"Ond does dim ots am hynny, yr hyn sy'n bwysig nawr yw'r plant, y bobl ifanc yn yr achos yma ac mae'n rhaid i ni gyd wneud yn iawn â nhw yn hyn oll a sicrhau, os oes yna wersi i'w dysgu, bod ni yn dysgu gwersi.

"Ar ddiwedd y dydd mae eisiau i ni ystyried bod unigolion y tu ôl i achosion fel hyn."

'Derbyn i'r Orsedd yn brofiad emosiynol'

Yr wythnos hon fe fydd Rhuanedd Richards, a gafodd ei magu yn Aberpennar ac yna yng Nghwmaman, yn un o'r rhai a fydd yn cael ei hurddo i'r Orsedd er anrhydedd.

“Mae hi’n gymaint o anrhydedd, rwy’n eithaf emosiynol am gael fy nerbyn i'r Orsedd," meddai.

"Fe gafodd Dad ei dderbyn yn 2016 fel Phil Pennar.

"Bellach mae Alzheimers arno fe, a fydd e ddim yn gallu bod yma.

"Mae rhywun yn meddwl byddai wedi bod yn wych pe bai yn gallu bod yma gyda fi a gweld y digwyddiad hwn ond fe fydd yn ddiwrnod i'w gofio.â€

Mae modd gwrando ar rifyn dydd Sul 4 Awst o Bore Sul ar Â鶹ԼÅÄ Sounds