Â鶹ԼÅÄ

Cymru'n colli eu hail gêm brawf yn erbyn Awstralia

tim cymru Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd y nawfed gêm o’r bron i’r tîm golli, y rhediad gwaethaf i’r tîm cenedlaethol er 2013

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi colli eu hail gêm brawf ar eu taith gyntaf yn Awstralia ers 12 mlynedd.

36 - 28 oedd y sgôr terfynol yn Stadiwm AAMI Park, Melbourne, ddydd Sadwrn mewn gêm gyffrous y gallai Cymru fod wedi ei hennill.

Roedd hi'n ddechrau da i'r tîm cartref wrth i Daugunu sgorio wedi saith munud yn unig.

Er i Gymru greu sawl cyfle da i groesi llinell y tîm cartref, y Wallabies oedd yn rheoli'r chwarae gan gadw’r bêl yn eu meddiant am gyfnodau hir.

Hanner awr i mewn i'r gêm, fe ddeffrodd Cymru gyda'r bachwr a’r capten, Dewi Lake, yn sgorio cais.

Funudau'n ddiweddarach, fe sgoriodd gais arall gan ddod a'r sgôr i 23-14 ar yr hanner.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yr ail hanner yn llawn cyffro gyda cheisiadau Liam Williams a Rio Dyer yn cadw Cymru yn y gêm tan y munudau olaf.

Bydd tîm hyfforddi Cymru yn hapus ag ymdrech y tîm ond yn siomedig iddynt ildio cymaint o giciau cosb yn ystod y gêm gan hefyd wneud cyfres o gamgymeriadau esgeulus ar amserau tyngedfennol.

Er yr arwyddion gobeithiol, hon oedd y nawfed gêm o’r bron i’r tîm golli, y rhediad gwaethaf i’r tîm cenedlaethol er 2013.