Dirgelwch mynwent ganoloesol gynnar Bro Morgannwg

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 / Kevin Church

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sgerbydau wedi'u cadw'n rhyfeddol o dda o ystyried eu hoedran

Mae archeolegwyr yn crafu eu pennau wedi iddyn nhw ddarganfod mynwent brin, ganoloesol gynnar ym Mro Morgannwg.

Credir ei fod yn dyddio o'r 6ed neu'r 7fed ganrif.

Mae archeolegwyr yn amcangyfrif bod tua 70 o feddi yma, ac mae 18 wedi cael eu cloddio hyd yn hyn.

Mae'r fynwent yn gorwedd mewn cae di-nod ar dir Castell Ffwl-y-mwn (Fonmon Castle), yn agos at Faes Awyr Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 / Kevin Church

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sgerbydau tua 1,500 mlwydd oed

Mae鈥檙 cloddiad yn rhan o raglen Digging for Britain fydd ar 麻豆约拍 Two nos Iau.

Dros ddau haf, mae t卯m y rhaglen wedi bod yn brysur yn tynnu'r haen denau o bridd yn ofalus i ddatgelu'r beddau.

Mae rhai o'r sgerbydau sydd wedi'u cadw'n dda wedi'u canfod yn gorwedd mewn safleoedd anarferol, ac mae eitemau annisgwyl hefyd wedi dod i'r amlwg o'r safle.

Mae'r cloddiad wedi dechrau datgelu mwy am y gymuned hynafol hon, ond mae hefyd yn codi cwestiynau.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 / Kevin Church

Disgrifiad o'r llun, Mae dannedd blaen un o'r sgerbydau wedi treulio cryn dipyn

Dywed Summer Courts, osteoarcheolegydd o Brifysgol Reading, fod y sgerbydau mewn cyflwr da er eu bod tua 1,500 mlwydd oed.

Mae鈥檔 dweud bod y penglogau yn cynnig cliwiau am sut roedd y bobl hyn yn byw ac yn gweithio.

"Mae gennym rai dannedd sydd wedi treulio cryn dipyn mewn ffordd reit rhyfedd, sydd efallai鈥檔 dangos bod y dannedd wedi cael eu defnyddio fel offer," meddai.

"Efallai ar gyfer gwaith tecstilau, gwaith lledr neu fasged - maen nhw'n tynnu rhywbeth drwy eu dannedd blaen."

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 / Kevin Church

Disgrifiad o'r llun, Mae'r t卯m yn meddwl bod tua 70 bedd ar y safle - mae 18 wedi cael eu cloddio'n llawn hyd yn hyn

Ond mae rhai o'r sgerbydau yn achosi penbleth - maen nhw'n gorwedd mewn ffyrdd reit amrywiol, rhai ar eu cefnau, sy鈥檔 arferol i鈥檙 cyfnod, tra bod eraill ar eu hochrau, ac mae ambell un wedi'u claddu yn eu cwrcwd, gyda'u pengliniau yn dynn yn erbyn eu brest.

Dydy archeolegwyr ddim yn si诺r beth mae hyn yn ei olygu.

Mae 'na ddyfalu a oedd y fynwent yn cael ei defnyddio dros gyfnod hir o amser wrth i arferion claddu newid, neu a oedd rhai pobl yn cael eu nodi yn wahanol i eraill?

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 / Kevin Church

Disgrifiad o'r llun, Credir bod y peg cerfiedig bach hwn o esgyrn anifeiliaid efallai wedi'i ddefnyddio mewn g锚m fwrdd ganoloesol

Mae'r eitemau sydd wedi cael eu darganfod o amgylch y beddau hefyd yn peri syndod i archeolegwyr.

Mae darnau o blatiau a chwpanau wedi'u darganfod, a darnau o asgwrn anifeiliaid sydd wedi cael eu bwtsiera a'u llosgi.

Mae un eitem wir yn dod 芒'r gymuned hon yn fyw: peg bach wedi鈥檌 gerfio a allai fod wedi'i ddefnyddio fel marciwr ar gyfer sgorio mewn g锚m, efallai rhywbeth fel sy鈥檔 cael ei ddefnyddio mewn g锚m fwrdd cribej.

Dywed Dr Andy Seaman, arbenigwr mewn archaeoleg ganoloesol gynnar o Brifysgol Caerdydd, sy'n arwain y t卯m cloddio, bod y fynwent hon yn wahanol i fynwentydd nawr gan ei bod hi鈥檔 ymddangos nad dim ond lle i waredu'r meirw yw hwn.

"Rydyn ni'n tueddu i feddwl am fynwentydd fel math o fannau caeedig nad ydyn ni'n mynd iddyn nhw mewn gwirionedd, ond mae'n debyg y bydden nhw wedi bod yn eithaf canolog i fywyd yn y gorffennol," esboniodd.

"Nid lle i bobl sy'n cael eu claddu yn unig ydi o, ond mae'n fan lle mae cymunedau'n dod at ei gilydd: maen nhw'n claddu eu meirw, ond maen nhw hefyd yn ymgymryd 芒 mathau eraill o weithgarwch, ac ymarfer cymdeithasol, gan gynnwys bwyta ac yfed - a gwledda."

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 / Kevin Church

Disgrifiad o'r llun, Daethpwyd o hyd i ddarn bach o wydr a fewnforiwyd o Ffrainc yn un o'r beddau

Y peth mwyaf dryslyd serch hynny yw bod yr eitemau sy'n cael eu darganfod yn awgrymu bod y bobl hyn ymhell o fod yn gyffredin.

Tra鈥檔 cloddio, fe ddaeth y t卯m o hyd i ddarn o wydr yn gorwedd yn un o鈥檙 beddau.

"Mae'n ddarn ag ymyl, yn llestr si芒p c么n hufen i芒 ac yn wydr cain iawn鈥 yn 么l Andy Seaman.

Mae'n credu ei fod yn dod o ranbarth Bordeaux yn Ffrainc.

Nid dyma'r unig eitem a fewnforiwyd. Mae'r t卯m hefyd wedi dod o hyd i ddarnau o grochenwaith, o Ogledd Affrica o bosibl.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 / Kevin Church

Disgrifiad o'r llun, Bydd y t卯m yn cynnal dadansoddiad DNA o'r esgyrn i ddarganfod mwy am y gymuned

Mae ansawdd y darganfyddiadau hyn yn awgrymu bod y bobl yno o statws uchel.

Yn 么l Tudur Davies, o Brifysgol Caerdydd: "Y dystiolaeth sydd gennym yma yw bod gan y bobl fynediad at nwyddau wedi'u mewnforio o ansawdd uchel iawn, na allwch eu cael ond trwy fasnachu neu gyfnewid, gyda phobl 芒 llawer o gyfoeth, i ddod 芒 nhw yma.

"Beth yn union sy'n digwydd? Pwy yw'r bobl hyn sydd wedi eu claddu yma?"

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 / Kevin Church

Disgrifiad o'r llun, Mae'r eitemau'n awgrymu y gallai'r bobl a gladdwyd yn y fynwent fod o statws uchel

Bydd ymchwil pellach yn cael ei gynnal i gael dyddiad mwy manwl ar gyfer pryd roedd y fynwent yn cael ei defnyddio, a bydd dadansoddiad DNA yn datgelu mwy am y sgerbydau a gladdwyd yno.

Bydd y fynwent, a鈥檙 gymuned oedd yn byw yma, yn helpu i daflu goleuni ar gyfnod nad oes fawr iawn o wybodaeth amdano.