Teyrngedau wedi marwolaeth sydyn disgybl Ysgol Bro Edern

Disgrifiad o'r llun, Roedd Marc Aguilar yn ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Bro Edern
  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen ysgol o Gaerdydd a fu farw yn sydyn dros y penwythnos.

Roedd Marc Aguilar yn ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Bro Edern.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "ymchwilio i farwolaeth sydyn a heb esboniad bachgen 12 oed yn Llaneirwg".

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gartref y bachgen toc wedi 16:00 ddydd Sadwrn.

"Nid oes unrhyw amgylchiadau amheus, ac mae'r ymchwiliad yn parhau," meddai'r llu mewn datganiad.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau."

Mewn llythyr at rieni, mae鈥檙 ysgol yn dweud eu bod nhw鈥檔 cysylltu gyda 鈥渢hristwch mawr鈥 a bod eu meddyliau gyda鈥檙 teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

'Disgybl poblogaidd a hoffus'

Dywedodd y llythyr gan Ysgol Bro Edern fod "Marc Aguilar yn ddisgybl poblogaidd a hoffus a oedd yn serennu ym myd y campau".

"Roedd ganddo lawer o ffrindiau ym Mro Edern a bydd colled fawr ar ei 么l."

Mae鈥檙 llythyr yn nodi fod yna d卯m o gwnselwyr a swyddogion eraill o鈥檙 sir ar gael yn yr ysgol ddydd Llun i roi cymorth i ddisgyblion a staff, ac yn nodi fod y pennaeth Iwan Pritchard ac aelod arall o staff wedi ymweld 芒 rhieni Marc Aguilar dros y penwythnos.

鈥淢ae鈥檙 teulu eisiau i ni ddiolch i鈥檙 llwyth o bobl sydd wedi anfon negeseuon ers i鈥檙 newyddion trist dorri,鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檔 amhosibl iddyn nhw ymateb i bob neges, mae gormod ohonynt.鈥

Mae鈥檙 llythyr hefyd yn gofyn i bobl fod yn ystyriol o breifatrwydd y teulu a鈥檙 angen iddyn nhw alaru gyda鈥檌 gilydd, gan ychwanegu ei fod yn 鈥渕ynd i fod yn gyfnod heriol iawn鈥.

Mae鈥檙 ysgol hefyd wedi cyhoeddi teyrnged fer ar wefan X ac mae ysgolion eraill wedi ymateb gyda negeseuon o gydymdeimlad.