鶹Լ

Teyrngedau wedi marwolaeth sydyn disgybl Ysgol Bro Edern

Bro Edern
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Marc Aguilar yn ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Bro Edern

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen ysgol o Gaerdydd a fu farw yn sydyn dros y penwythnos.

Roedd Marc Aguilar yn ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Bro Edern.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "ymchwilio i farwolaeth sydyn a heb esboniad bachgen 12 oed yn Llaneirwg".

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gartref y bachgen toc wedi 16:00 ddydd Sadwrn.

"Nid oes unrhyw amgylchiadau amheus, ac mae'r ymchwiliad yn parhau," meddai'r llu mewn datganiad.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau."

Mewn llythyr at rieni, mae’r ysgol yn dweud eu bod nhw’n cysylltu gyda “thristwch mawr” a bod eu meddyliau gyda’r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

'Disgybl poblogaidd a hoffus'

Dywedodd y llythyr gan Ysgol Bro Edern fod "Marc Aguilar yn ddisgybl poblogaidd a hoffus a oedd yn serennu ym myd y campau".

"Roedd ganddo lawer o ffrindiau ym Mro Edern a bydd colled fawr ar ei ôl."

Mae’r llythyr yn nodi fod yna dîm o gwnselwyr a swyddogion eraill o’r sir ar gael yn yr ysgol ddydd Llun i roi cymorth i ddisgyblion a staff, ac yn nodi fod y pennaeth Iwan Pritchard ac aelod arall o staff wedi ymweld â rhieni Marc Aguilar dros y penwythnos.

“Mae’r teulu eisiau i ni ddiolch i’r llwyth o bobl sydd wedi anfon negeseuon ers i’r newyddion trist dorri,” meddai.

“Mae’n amhosibl iddyn nhw ymateb i bob neges, mae gormod ohonynt.”

Mae’r llythyr hefyd yn gofyn i bobl fod yn ystyriol o breifatrwydd y teulu a’r angen iddyn nhw alaru gyda’i gilydd, gan ychwanegu ei fod yn “mynd i fod yn gyfnod heriol iawn”.

Mae’r ysgol hefyd wedi cyhoeddi teyrnged fer ar wefan X ac mae ysgolion eraill wedi ymateb gyda negeseuon o gydymdeimlad.

Pynciau cysylltiedig