Prinder meddygon: 'Allwn ni ddim gadael i bethau wywo'

Disgrifiad o'r llun, Mae Dr Sion James yn dweud bod llawer o feddygon teulu'n awyddus i weithio rhan amser, neu mewn canolfannau gyda mwy o gefnogaeth
  • Awdur, Iwan Griffiths
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae recriwtio meddygon teulu yn broblem genedlaethol, ac mae angen edrych ar ffyrdd arloesol i ddarparu gofal sylfaenol, yn 么l un bwrdd iechyd.

Mae llawer o feddygon teulu yn awyddus i weithio鈥檔 rhan amser, meddygon ifanc yn llai awyddus i fod yn bartner mewn practis, ac yn ffafrio gweithio mewn canolfan fawr sydd 芒 mwy o gefnogaeth, meddai Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

鈥淢ae鈥檔 anodd recriwtio i feddygfeydd sy鈥檔 fwy anghysbell鈥, meddai Dr James.

鈥淔alle bydd yn rhaid i鈥檙 claf i deithio i鈥檙 feddygfa tamaid bach yn bellach, a fydd rhaid i ni falle dderbyn hynny achos allwn ni ddim 'neud dim amdano fe ar hyn o bryd.鈥

Agor rhan amser yn arwydd i'r dyfodol?

Daw sylwadau鈥檙 bwrdd iechyd law yn llaw 芒 dau achos yn Sir Gaerfyrddin lle mae trafferthion recriwtio wedi arwain at bryder mawr fod gwasanaethau am gael eu colli鈥檔 lleol.

Tra bod Meddygfa Sancl锚r wedi cyflwyno cais i gau eu meddygfa cangen yn Nhalacharn, mae鈥檙 bartneriaeth bresennol o feddygon teulu wedi ildio eu cytundeb draw yn Cross Hands a鈥檙 Tymbl.

Yn Nhalacharn, mae rhai cannoedd o bobl wedi dod ynghyd mewn pwyllgorau cyhoeddus dros yr wythnos ddiwethaf, gydag unigolion yn lleisio dicter yngl欧n ag unrhyw bosibilrwydd o weld y feddygfa'n cau.

鈥淓rs Covid, dyw鈥檙 feddygfa heb agor yn iawn. Mae nhw鈥檔 rhedeg clinics ond dyw hwnna ddim yr un peth a chael meddyg 鈥榤a bob dydd鈥, meddai Pam Jones, Maer Talacharn.

Disgrifiad o'r llun, Mae Pam Jones yn poeni bod oriau agor rhan amser ei meddygfa leol yn arwydd bydd yn cau yn y dyfodol

Mae Ms Jones yn ofni bod llai o wasanaethau wedi eu cynnig dros gyfnod, gyda bwriad penodol i gau鈥檙 drysau.

鈥淔el cyngor lleol, ni wedi ysgrifennu atyn nhw sawl tro dros y blynyddau, yn gofyn pryd o鈥 nhw鈥檔 mynd i fynd n么l i鈥檙 arfer o gael meddyg yma.

"A dy鈥 nhw byth wedi s么n am broblem staffio.

鈥淒yw hen bobl ddim yn gallu teithio i Sancl锚r鈥, ychwanegodd Ms Jones.

鈥淢ae鈥檙 bwrdd iechyd yn dweud bod cynnig gwasanaeth lleol yn flaenoriaeth, a nawr mae nhw鈥檔 cau鈥檙 syrjeri."

'Pobl yn cael cam'

"Mae鈥檙 feddygfa yn Sancl锚r yn rhy brysur yn barod, ac mae鈥檔 anodd gweld doctor.

"Maen nhw hefyd yn achosi rhagor o draffig wrth i ni deithio n么l ag ymlaen, a ma hwn nid yn unig yn effeithio arno ni yn 鈥楲acharn, ond hefyd yn Llanmiloe a Phentywyn.鈥

Wrth i鈥檙 bwrdd iechyd ystyried cais y feddygfa yn Sancl锚r i gau鈥檙 feddygfa yn Nhalacharn, mae swyddogion wedi ymestyn y cyfnod ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd tan 8 Rhagfyr.

Maen nhw鈥檔 awyddus i gynifer o bobl 芒 phosibl ymuno yn y drafodaeth.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍

Disgrifiad o'r llun, Credai'r cynghorydd Donald Avery bod cleifion methu fforddio costau teithio yn bellach i weld meddyg teulu

Mewn cyfarfod yn Neuadd y Pentref, roedd y cynghorydd lleol, Donald Avery ymhlith nifer i danlinellu bod gofyn i bobl deithio i Sancl锚r wedi cythruddo.

鈥淥s chi moyn tacsi i fynd i St Clears, gewch chi dalu biti 拢15 just un ffordd.

"A dyw senior citizens ddim yn gallu fforddio hwnna.鈥

Ychwanegodd Aldyth Smith: 鈥淲y鈥檔 credu bod pobl yn cael cam.

鈥淢aen nhw鈥檔 cael niwed a dy鈥 nhw ddim yn cael eu hedrych ar eu h么l.鈥

Opsiynau'r bwrdd iechyd

Mae 鈥檔a gannoedd hefyd wedi bod yn bresennol mewn nosweithiau agored yn ardal Cross Hands a鈥檙 Tymbl, gyda phobl leol yn awyddus i gael gwybodaeth yngl欧n 芒 dyfodol meddygfeydd y pentref.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: 鈥淢ae鈥檙 partneriaid wedi ceisio鈥檔 aflwyddiannus i recriwtio Meddyg Teulu neu Uwch Ymarferydd ychwanegol i ymuno 芒鈥檜 practis prysur, ond nid ydynt wedi gallu gwneud hynny.鈥

Yno, mae鈥檙 bwrdd yn ystyried dau opsiwn - ail-dendro'r cytundeb i geisio canfod meddygon, neu cleifion yn cael eu rhannu ymysg meddygfeydd eraill yr ardal.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍

Disgrifiad o'r llun, Mae Meryl Jones yn galw'r opsiwn o ddosbarthu cleifion i feddygfeydd eraill yn "j么c"

Mae hynny鈥檔 achosi gofid mawr i Meryl Evans sydd wedi byw yn yr ardal erioed.

鈥淢ae鈥檔 swnio fel j么c. Shwt allwch chi wasgaru 7,500 o bobl o bob oedran ar hyd lle?

"Pan bo鈥 chi鈥檔 gwybod bod y llefydd eraill - pob syrjeri arall si诺r a fod yn llawn i鈥檙 ymylon?鈥

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dr Ian Harris bod meddygon yn gweithio'n "fwy caled nag erioed"

Mae鈥檙 bwrdd yn tanlinellu y bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel arfer gan yr un t卯m yn y practis tan ddiwedd mis Mawrth 2024, ac y dylai cleifion barhau i fod wedi'u cofrestru gyda'r feddygfa tra bod cynlluniau tymor hir yn cael eu datblygu.

Yn 么l Dr Ian Harris sy鈥檔 llefarydd ar ran Cymdeithas Feddygol Prydain, y BMA, mae meddygfeydd yn gwywo yng Nghymru ar hyn o bryd, a鈥檙 pwysau gwaith ar feddygon teulu yn golygu bod nifer yn gadael eu swyddi.

鈥淢ae pawb yn gweithio鈥檔 galed ac yn fwy caled nag erioed."

Llwyth gwaith cynyddol

Mae rhyw 30% yn fwy o gleifion gyda phob meddyg teulu llawn amser nawr nag oedd 10 mlynedd yn 么l.

A thra bod y gwaith yn cynyddu a鈥檙 adnoddau鈥檔 lleihau, mae pobl yn dweud bod nhw鈥檔 cael digon.

Ychwanegodd Dr Harris: 鈥淩y鈥 ni wedi galw ein hymgyrch achubwch ein meddygfeydd ni am adnoddau. Dyna鈥檙 peth mwyaf pwysig.

"Mae鈥檔 rhaid bod 鈥榥a ryw ffordd i ddatrys y broblem yn genedlaethol fan hyn.

"Ni鈥檔 ffaelu gadael pethau i wywo fel mae nhw ar y funud.鈥

Dangosodd holiadur Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu bod chwarter y rhai ymatebodd yn dweud nad ydynt yn disgwyl bod yn gweithio yn y swydd ymhen pum mlynedd.

Pwysau ac oriau gwaith oedd y ddau brif reswm.

'Dirywiad pellach' gwasanaethau cefn gwald

Wrth wrando ar bryderon cleifion mewn cyfarfod agored yn Nhalacharn, dywedodd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, bod angen strategaeth fwriadol er mwyn cynyddu nifer y meddygon yn ei ranbarth.

"Mae ymchwil yn dangos, unwaith mae meddygon a deintyddion a nyrsys ac yn y blaen yn dod i hyfforddi mewn ardal, maen nhw鈥檔 tueddu i aros yn yr ardal honno.

"Felly mae angen strategaeth ar Lywodraeth Cymru yn fwriadol i recriwtio meddygon yn arbennig, a deintyddion i gefn gwlad Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod 鈥渞haglen hyfforddiant arbenigol meddygon teulu wedi cael ei hehangu'n sylweddol dros y tair blynedd diwethaf, ac ers lansio'r ymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw, bu cynnydd sylweddol yng nghyfradd llenwi cyrsiau hyfforddiant meddygon teulu".

"Mae'r targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson, ac mae cyllid wedi鈥檌 drefnu i recriwtio hyd at 200 o hyfforddeion os bydd ymgeiswyr addas ar gael.鈥