Fflach newydd i 'gynnal gweledigaeth' brodyr Ail Symudiad

Disgrifiad o'r llun, Y ddau frawd, Wyn a Richard Jones, sefydlodd gwmni recordiau Fflach yn 1981

Mae criw yn Aberteifi wedi sefydlu menter newydd, i barhau 芒 gwaith recordio y diweddar Richard ac Wyn Jones, y ddau frawd sefydlodd Stiwdio Fflach.

Fe ddaeth nifer o wirfoddolwyr at ei gilydd ddechrau Ionawr i drafod y syniad o drosglwyddo gwaddol cwmni Fflach i ofal cwmni cydweithredol a chymunedol.

Penderfynodd y criw sefydlu cwmni recordio newydd, dan enw Cwmni Fflach Cymunedol.

Eu bwriad yw cydweithio gyda menter gydweithredol arall yn Aberteifi sy鈥檔 ceisio prynu capel a鈥檌 droi鈥檔 ganolfan gelfyddydol.

Bu farw Wyn Jones o ganser ar ym Mehefin 2021 ac yna鈥檌 frawd, Richard, mis yn ddiweddarach yng Ngorffennaf.

Roedd y ddau frawd yn gerddorion ac yn gynhyrchwyr cerddoriaeth, wedi sefydlu鈥檙 gr诺p Ail Symudiad yn 1978 gyda Richard yn brif leisydd ac yn chwarae鈥檙 git芒r, a Wyn ar y git芒r fas a llais cefndir.

Rhyddhaodd y gr诺p nifer o recordiau poblogaidd iawn dros 40 mlynedd, ac ymysg eu caneuon mwyaf poblogaidd mae 'Garej Paradwys', 'Twristiaid yn y Dre', 'Llwyngwair' a 'Geiriau'.

Fe wnaeth y brodyr hefyd sefydlu label recordiau annibynnol Fflach, a stiwdio recordio yn y dref.

Gyda'r label wedi bod wrthi'n cynhyrchu a chreu cerddoriaeth ers 1981 bellach, mae'r 么l-gatalog yn helaeth.

Disgrifiad o'r llun, Wyn a Richard Jones yn stiwdio Fflach

Un sydd wedi datblygu cryn brofiad yn helpu cymunedau鈥檙 ardal i greu mentrau cymunedol yw Cris Tomos.

Fe ddatblygodd Aberteifi dan ddylanwad y ddau frawd, meddai.

鈥淭rwy weledigaeth y ddau, da鈥檛h Aberteifi鈥檔 ganolfan fyrlymus i gerddorion Cymreig ifenc.鈥

鈥淕yda鈥檜 colli nhw, wedd hi i weld fod y dychymyg a鈥檙 egni i gynnal y weledigaeth wedi mynd i golli 鈥檉yd,鈥 ychwanegodd.

Cynnal gweledigaeth Fflach

Daeth y criw at ei gilydd wedi i Mr Tomos awgrymu i deulu'r brodyr mai dyma ffordd bosib ymlaen.

鈥淔el gymaint a fagwyd ym Mro Preseli, we鈥檔 i鈥檔 gyfarwydd iawn 芒 Stiwdio Fflach a gwaith y bois鈥, meddai.

鈥淥 ran nod ac ysbryd, menter gymdeithasol we Recordiau Fflach o鈥檙 cychwyn cynta.鈥

鈥淗eb os, cyfoethogi cymdeithas ac nid nhw eu hunain oedd yn eu gyrru.鈥

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Richard Jones (yn eistedd) gyda'i frawd, Wyn yn 2018

鈥淓u t芒l oedd prifiant a llwyddiant yr holl gerddorion ifenc a fwynhaodd braint eu cefnogaeth.鈥

鈥淚 fi, ma鈥 troi Fflach! yn fenter gymdeithasol, o ran perchnogaeth, yn ffordd amlwg o gynnal y weledigaeth.鈥

Cam nesaf y gr诺p fydd gwahodd pobl i brynu cyfranddaliadau yn y cwmni cymunedol newydd.

Dyma fydd y diweddaraf o nifer o fentrau yn Aberteifi a鈥檙 cyffiniau sy'n gweithredu er budd pobl leol.

Gan fod un o鈥檙 mentrau hynny, cwmni 4CG, yn ceisio prynu capel Y Tabernacl gynt, ar ganol stryd fawr Aberteifi, mae Fflach Cymunedol yn bwriadu cydweithio 芒 nhw i sicrhau llwyddiant y nod o鈥檌 droi鈥檔 ganolfan i ddathlu cyfoeth barddonol a cherddorol y fro.

Disgrifiad o'r llun, Ail Symudiad yn eu gig cyntaf ym Mart Aberteifi ym Mai 1979

Mae鈥檙 Tabernacl 芒 chysylltiad agos 芒鈥檙 brodyr hefyd.

Yn 么l Cris Tomos: 鈥淐ymdeithas y Tabernacl gynt roddodd y cyfle cynta' i Richard a Wyn.鈥

鈥淵n festri鈥檙 capel y sefydlo nhw鈥檙 stiwdio gynta oll, dros 30 mlyne n么l."

鈥淲rth sefydlu Fflach Cymunedol y gobaith yw agor stiwdio newy鈥 mas-law yn y festri a gweld cerddorion ifenc yr ardal yn cwrdd a chreu 鈥檇a鈥檌 gilydd yno unwaith eto.鈥