Misoedd o waith delio â choncrit RAAC Ysbyty Llwynhelyg

  • Awdur, Elen Davies
  • Swydd, 鶹Լ Cymru

Mae disgwyl y bydd bwrdd iechyd yn taclo’r sefyllfa RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg am y rhan fwyaf o flwyddyn nesaf, meddai'r prif weithredwr.

Ar 15 Awst, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddigwyddiad mawr mewnol yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, wrth iddynt fynd ati i geisio canfod maint ac effaith concrit RAAC ar yr adeilad.

Hyd yn hyn, mae chwe ward ar yr ail lawr - hanner wardiau'r ysbyty - ardaloedd ar y llawr gwaelod a’r gegin wedi cau a hynny oherwydd cyflwr y planciau concrit yno.

Yn ôl Steve Moore, er fod teimlad y bydd pethau’n gwella’n raddol, mae’r sefyllfa yn un heriol.

Roedd y deunydd yn cael ei ddefnyddio mewn adeiladau ar ôl y rhyfel, gan ei fod yn goncrit rhatach na’r deunydd adeiladu arferol.

Mae concrit RAAC, sy’n llawn swigod aer, yn gallu cwympo heb rybudd, ac mae ei ganfod o fewn Ysbyty Llwynhelyg felly yn "bryder gwirioneddol" yn ôl y Prif Weithredwr.

“Rydym wedi gorfod gwneud llawer iawn o newid dros gyfnod byr iawn o amser”, meddai Steve Moore.

“Rwy’n meddwl ei bod yn rhyfeddol yr hyn y mae’r staff wedi gallu ei wneud o fewn amserlenni anodd iawn i gadw’r ysbyty cyfan i redeg.”

Disgrifiad o'r fideo, Beth yw concrit RAAC a pham ei fod yn beryglus?

Dros fis ers datgan digwyddiad mawr, mae chwech o wardiau wedi cau yn Ysbyty Llwynhelyg, gyda chleifion a staff yn cael eu symud i leoliadau arall o fewn y sir.

Mae rhai gwasanaethau hefyd wedi eu hadleoli i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

'Symud 122 o welyau'

Disgrifiad o'r llun, Paneli concrid RAAC yn nenfwd rhan o'r ysbyty

Dywedodd Mr Moore fod y newidiadau diweddar wedi bod yn rhai "sylweddol iawn".

“Ry’n ni wedi tynnu 122 o welyau allan o’r wardiau lle mae RAAC,” meddai.

“Rydym wedi ail-leoli rhai ohonynt mewn rhannau eraill o'r ysbyty oherwydd bod rheiny'n gleifion yr oedd gwir angen iddynt fod yn y math hwn o amgylchedd.

"Ry’n ni hefyd wedi ehangu'r nifer o welyau sydd gennym yn Ysbyty De Penfro yn sylweddol - mwy na 60 o welyau ychwanegol, ac mae'r staff wedi bod yn fodlon teithio i lawr yno i gefnogi cleifion allanol.”

'Ni gyd yn helpu'n gilydd'

Un sydd wedi cael ei had-leoli o fewn Ysbyty Llwynhelyg yw’r nyrs Sarah Davies.

Gyda’i ward hi’n un o’r rhai sydd wedi cau oherwydd RAAC, mae hi bellach yn gweithio ar lawr gwaelod yr ysbyty.

Yn ôl Sarah, roedd y cyfnod o orfod trawsnewid ac addasu’n sydyn yn anodd.

“Sa i’n mynd i weud celwydd, ro’dd e’n eitha’ stressful,” meddai.

“O’n i’n dod mewn i’r gwaith a o’n i ddim yn gwybod ble o’n i’n mynd i fod yn gweitho, gyda phwy, pa fath o gleifion. O’n i’n dod mewn i gwaith yn y tywyllwch i ddweud y gwir…

Disgrifiad o'r llun, Mae pawb wedi addasu'n dda, medd Sarah Davies, ond fe fydd yn falch o gael dychwelyd i'w ward arferol maes o law

“Ni nawr wedi symud i uned arall mewn pishyn arall o’r ysbyty sy’n saffach ‘na beth sydd fan hyn,

“M’r health board gyfan, ni gyd yn helpu’n gilydd mas, ond mae’n rhaid iddyn nhw gymryd bach fwy o pressure wrthon ni hefyd.”

Er yn cydnabod fod pawb wedi arfer â’r drefn newydd erbyn hyn, mae’n dweud ei bod yn dyheu am gael mynd yn ôl i’w hen ward.

“Ni wedi addasu yn eitha’ da, mae’r tîm gyfan yn yr uned lawr llawr ar hyn o bryd, ond gobeithio fyddwn ni'n ôl yn ein cartref ni cyn hir, unwaith ma’ nhw wedi bennu’r gwaith fan hyn…

“Ma’ fe yn drist, ond ma' fe’n beth pwysig bod e’n cael ei fixo nawr cyn i bopeth gwmpo lawr, achos na beth galle ddigwydd."

Disgrifiad o'r llun, Mae hanner wardiau'r ysbyty ar gau ar hyn o bryd

Un sy’n benderfynol fod "rhaid newid" y planciau concrit RAAC yw’r peiriannwr ymgynghorol, Mel Williams.

Dywed ei fod yn gweld pethau’n digwydd nawr ac yn y man yn ei waith, "ond byth fel hyn".

Mae’n cwestiynu pam nad oedd fwy o sylw wedi cael ei roi i RAAC dros y blynyddoedd, cyn i bethau droi cynddrwg.

“Amser o’dd y stwff yn cael ei werthu, o’dd y manufacturers yn dweud... bydden nhw’n para tua 30 blwyddyn...

"Mae’n amlwg bod e ddim wedi cael ei dalu sylw achos ma’ nhw ‘na o hyd.

“Mae’n rhaid newid nhw. Unrhyw beth sydd ddim yn iawn, mae’n rhaid newid nhw.

"Dyw e ddim yn rywbeth i botshan byti a rhoi tamaid bach o cement neu rywbeth fel ‘na. Mmae’n rhaid newid nhw’n hollol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £12.8m i gefnogi’r gwaith atgyweirio yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mewn datganiad, fe ddywedon nhw: "Defnyddiwyd RAAC fel deunydd adeiladu rhwng y 1960au a'r 1990au ledled y DU. Mae ei ddefnydd yng Nghymru yn rhagflaenu datganoli.

"Mae llywodraethau'r DU wedi bod yn ymwybodol o rai o wendidau RAAC ers y 1990au. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill ers 2018 i reoli adeiladau gydag RAAC.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i liniaru peryglon RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg, er mwyn sicrhau bod y safle'n ddiogel i gleifion, staff ac ymwelwyr."

Disgrifiad o'r llun, Dylai'r ward gyntaf ailagor cyn diwedd y mis, medd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore

Yn ôl Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater nawr cyn gynted â phosib, er mwyn gallu ailagor wardiau cyn y gaeaf.

Ond mae Steve Moore yn hyderus fod ‘cynlluniau da’ mewn lle.

“Dylai'r ward gyntaf ailagor ddiwedd mis Medi gyda chleifion yn dod yn ôl ddechrau mis Hydref gobeithio," dywedodd.

"Mae yn teimlo fel y bydd pethau’n dechrau gwella’n raddol ond byddwn yn taclo’r mater hwn am y rhan fwyaf o’r flwyddyn nesaf, fwy na thebyg.”

Wrth gyfeirio at y gaeaf, sy’n aml yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd, dywedodd Sarah Davies: “O’dd misoedd yr haf yn fishi iawn heb unedau wedi’u cau lawr achos y RAAC.

“Gyda’r gaeaf yn agosáu, sa i’n gwybod beth fydd yn digwydd ond dwi’n gwybod byddwn ni’n gwneud ein gore glas ni, a ‘na gyd gallwn ni wneud yw trin pobl a neud yn siŵr bo' nhw a’u teuluoedd nhw yn iawn.”