麻豆约拍

'Hunllef' teulu Joshua Roberts wrth aros am ymchwiliad

Disgrifiad,

Mae mam Joshua Lloyd Roberts, fu farw ar 么l cael ei daro gan gar dri mis yn 么l, yn dweud fod aros am ganlyniad ymchwiliad yr heddlu "yn hunllef"

  • Cyhoeddwyd

Mae mam dyn ifanc fu farw ar 么l cael ei daro gan gar yn dweud fod y teulu yn byw hunllef wrth aros am ganlyniad ymchwiliad yr heddlu.

Bu farw Joshua Lloyd Roberts yn 19 oed wrth gerdded adref o'i waith yng Nghaeathro ger Caernarfon dri mis yn 么l.

Mae ei fam yn dweud eu bod yn teimlo鈥檔 rhwystredig gyda鈥檙 diffyg gwybodaeth hyd yn hyn.聽

Yn 么l Heddlu Gogledd Cymru mae鈥檙 ymchwiliad i farwolaeth drasig Joshua Roberts yn parhau.

Clywodd cwest - ar 么l y gwrthdrawiad ar 2 Mehefin - i Joshua farw o anafiadau difrifol.聽

Ond cafodd y cwest llawn i'w farwolaeth ei ohirio wrth i ymchwiliad Heddlu'r Gogledd barhau.

Yn 么l mam Josh, Melanie Tookey, mae鈥檙 cyfnod o aros i鈥檙 ymchwiliad gynnig atebion wedi bod yn "erchyll".

聽鈥'Dan ni ddim yn medru prosesu pethau. 'Dan ni'n dal methu coelio鈥檙 peth achos does gennym ni ddim byd i ddweud, 'wel hyn sydd di ddigwydd'.

"'Dan ni just ddim yn gwybod beth ddigwyddodd.

"Mae鈥檔 erchyll bod yn y sefyllfa yma.鈥

'Gobeithio 'swn i 'di cael atebion cyn claddu'

Ychwanegodd Melanie ei bod wedi ei sicrhau gan yr heddlu eu bod yn "gwneud cymaint ag y medran nhw" i ddod i gasgliad yn yr ymchwiliad.

"Ond Josh fi ydi o, dwi eisiau fo cysgu鈥檔 dawel ac o鈥檔 i鈥檔 gobeithio 'swn i鈥檔 di cael atebion cyn claddu fo," ychwanegodd.

鈥淗eb i ni wybod atebion da ni just methu mynd ymlaen, mae o鈥檔 dal ni 'n么l.

"Mae o鈥檔 rhwystro ni rhag galaru. 'Dan ni鈥檔 sownd yn yr hunllef yma.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Joshua Lloyd Roberts yn 19 oed wrth gerdded adref o'i waith

Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, byddai Joshua Lloyd Roberts wedi bod yn paratoi i fynd 'n么l i鈥檙 brifddinas ar gyfer ei flwyddyn olaf fis Medi.

Yn 么l ei fam, mae鈥檔 gwneud y cyfnod yma鈥檔 anoddach eto, ond mae hefyd yn ei hatgoffa hi o鈥檙 holl bethau iddo eu cyflawni.

Dywedodd: 鈥淒wi mor falch o Josh, 'swn i ddim 鈥榙i medru gofyn am fab gwell.

"Mae鈥檙 brifysgol am roi gradd i Josh oherwydd ei ganlyniadau hyd yn hyn ar y cwrs. Felly fyddwn ni鈥檔 mynd flwyddyn nesa' i bigo ei radd o i fyny ar ei ran o."

Ychwanegodd: 鈥'Dan ni鈥檔 cofio sut oedd Josh. Roedd o just mor ddoniol, o hyd yn 'neud i ni chwerthin bod dydd ac mae鈥檙 atgofion yna鈥檔 helpu ni.

"Ond mae鈥檔 andros o gyfnod anodd, dani just am iddo fod drosodd i ni gael symud ymlaen.鈥

'Llawer o dystiolaeth'

Mae un cyn-swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod ymchwiliadau tebyg i鈥檙 un i farwolaeth Joshua Roberts yn gallu cymryd amser hir.聽

Yn 么l Alun Hughes mae achosion o鈥檙 fath yn gymhleth ac mae 鈥榥a sawl ffactor sydd angen eu hystyried.聽

Dywedodd: 鈥淔edra鈥檌 ddeall rhwystredigaeth pobl.

"Yn fy mhrofiad i yn yr heddlu mae鈥檔 digwydd yn aml ond mae'n rhaid i bobl ddeall pan 鈥榙ach chi鈥檔 edrych ar unrhyw achos neu ddigwyddiad mawr neu gymhleth mae鈥檙 ymchwiliadau yn mynd i gymryd amser.

"Pan feddyliwch chi faint o dystiolaeth neu ffeithiau mae'n rhaid i鈥檙 heddlu hel neu fynd ati i hel, bob mathau o feysydd, o lygaid dystion i gamer芒u a llawer mwy eto. Dyna sy鈥檔 creu鈥檙 amser yma ac yn ymestyn yr amser.

鈥淎r ben hynny mae ffactorau o鈥檙 tu allan yn gallu ymestyn yr ymchwiliad.鈥

Mae dyn 32 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, ac wedi ei ryddhau ar fechn茂aeth.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: 鈥淩ydym yn parhau i ymchwilio i farwolaeth drasig Joshua Roberts ac mae'r teulu'n cael y wybodaeth ddiweddaraf gan swyddogion cyswllt teulu.鈥

Pynciau cysylltiedig