Addysgu cenhedlaeth TikTok am waith Dylan Thomas

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Taylor Swift yn dod i Gaerdydd fel rhan o'i thaith rhyngwladol
  • Awdur, Sara Dafydd
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Mae鈥檙 gantores Taylor Swift ar y ffordd i Gaerdydd i berfformio yn Stadiwm y Principality.

Mae disgwyl i鈥檙 gyngerdd nos Fawrth, sy鈥檔 rhan o'r 'Eras Tour', gyfrannu鈥檔 fawr at economi鈥檙 brifddinas, ond mae un amgueddfa yn Abertawe yn gobeithio croesawu 鈥Swifties鈥 yno hefyd.

Yn ei ch芒n ddiweddaraf mae鈥檙 gantores yn cyfeirio at y bardd Dylan Thomas, ac mae elusennau sy鈥檔 ceisio codi ymwybyddiaeth o'i waith yn gobeithio manteisio ar y cyfle.

Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd 鈥渃enhedlaeth newydd鈥 yn dangos diddordeb yn y bardd.

O Johnny Depp i Taylor Swift

Cafodd Dylan Thomas ei eni yn Cwmdonkin Drive yn Abertawe yn 1914.

Mae鈥檙 t欧, lle cyfansoddodd y bardd ei gerddi cyntaf, bellach wedi ei droi yn amgueddfa ac yn elusen.

Mae Alun Gibbard yn gyd-guradur, ac yn credu bod y cyfeiriad at y bardd yn un o ganeuon Taylor Swift yn 鈥渁nhygoel鈥.

鈥淥鈥檔 i ddim ond jest wedi dod dros y sioc a鈥檙 effaith gafodd ymweliad Johnny Depp聽 芒'r man geni llynedd. Creodd hynny cryn dipyn o st诺r a diddordeb,鈥 meddai.

鈥淲edyn yn sydyn reit, dyma ni鈥檔 gallu cyrraedd cenhedlaeth gwbl newydd.

"Symud o Johnny Depp i genhedlaeth TikTok trwy Taylor Swift.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Alun Gibbard a Geoff Hayden yn gobeithio elwa o gyfeiriad Swift at y bardd

Ychwanegodd ei fod yn 鈥渁mhrisiadwy鈥 i鈥檙 elusen, wrth geisio denu ymwelwyr ifanc.

鈥淒oes 'na ddim grantiau, does 'na ddim cymorth ariannol swyddogol o unrhyw fath. Mae鈥檔 dipyn o ymdrech i gadw鈥檙 lle i fynd.鈥

Bydd Taylor Swift yn perfformio yn Stadiwm y Principality ar nos Fawrth 18 Mehefin.

Dyma鈥檙 unig noson y bydd hi鈥檔 perfformio yng Nghymru fel rhan o'r daith bresennol.

Mae man geni Dylan Thomas wedi manteisio ar y cyfle wrth werthu crysau-t a phosteri cyn y gyngerdd.

Geoff Haydn yw curadur yr elusen, dywedodd ei bod hi鈥檔 bwysig cael nwyddau o'r fath yn y Gymraeg.

鈥淓r mai dim ond yn Saesneg roedd Dylan yn ysgrifennu, roedd e鈥檔 fardd Cymraeg ac yn cael ei ddylanwadu gan yr iaith Gymraeg.鈥

'Ysgolion ddim yn gwneud digon'

Dywedodd yr elusen bod y gwaith o ddenu ymwelwyr - yn enwedig pobl ifanc - i fan geni Dylan Thomas yn "barhaol".

Yn 么l Mr Gibbard nid yw鈥檔 鈥済allu cymryd yn ganiataol鈥 bod pobl ifanc yn gwybod pwy yw Dylan Thomas, wrth iddo ymweld ag ysgolion.

鈥淢ae鈥檔 rhwystredigaeth i mi鈥檔 bersonol nad ydy ysgolion yn gwneud mwy am Dylan Thomas.

"Mae 鈥榥a ardaloedd penodol sydd 芒 chysylltiadau uniongyrchol gyda Dylan lle gallen nhw yn rhwydd addasu鈥檙 cwricwlwm.鈥

鈥淢ae Abertawe鈥檔 un amlwg, Sir Gaerfyrddin, Talacharn, Cei Newydd.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Anna Jones yn mwynhau gweld disgyblion yn dangos diddordeb mewn barddoniaeth

Mae Anna Jones, athrawes Saesneg yn Ysgol y Strade, yn cytuno dylid gwneud mwy i addysgu plant am y bardd.

鈥淢ae dysgwyr yn ofni cerddi os dwi鈥檔 onest. Mae鈥檔 hynod o bwysig i fi ein bod ni yn cael cymysgedd felly ein bod ni yn cael rhywun fel Dylan Thomas ar y cwricwlwm,鈥 meddai.

Ychwanegodd y byddai鈥檔 ystyried cynnwys mwy o鈥檌 waith mewn gwersi "yn enwedig nawr gyda鈥檙 newidiadau a Chwricwlwm i Gymru".

Mae鈥檙 ysgol wedi ychwanegu un o ganeuon Swift, Cardigan, at gwricwlwm blwyddyn 9.

Fe ddywedodd Anna Jones: 鈥淩wy'n Swiftie fy hun a fi鈥檔 rili falch eu bod nhw鈥檔 mwynhau.

"Fel arfer maen nhw鈥檔 clywed ein bod ni鈥檔 neud cerddi a dyw鈥檙 ymateb ddim yn wych bob tro."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淲rth ddewis llenyddiaeth i鈥檞 hastudio, byddem yn annog ysgolion i wneud dewisiadau priodol sy鈥檔 cydbwyso hyd a lled y cwricwlwm ag anghenion eu dysgwyr.鈥

Disgrifiad o'r llun, Doedd Libby,14 oed (chwith), ddim yn sylweddoli bod Dylan Thomas mor ddylanwadol

Roedd disgyblion blwyddyn 9 Ysgol y Strade yn falch o glywed enw bardd o Gymru yn y g芒n.

Meddai Libby, 14 oed: 鈥淥鈥檔 i ddim yn deall ei fod e mor influential i lawer o bobl. Hyd yn oed yn America. Felly dwi eisiau edrych yn fwy i weld beth oedd Taylor Swift yn siarad amdano.鈥

Mae Isabella sy鈥檔 13 oed yn hoff o farddoniaeth, ac fe ysgogodd y g芒n iddi ddarllen gwaith y bardd.

鈥淲nes i ddarllen Fern Hill. Felly dwi鈥檔 cymryd fwy o ddiddordeb.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae disgyblion blwyddyn 9 yn dadansoddi c芒n gan Taylor Swift yn eu gwersi

Bydd dilynwyr Taylor Swift yn teithio o bedwar ban byd i鈥檞 gweld yn canu yng Nghaerdydd.

Fe fydd yr Eras Tour yn rhoi hwb o bron i 拢1bn i wariant yn y DU eleni, yn 么l adroddiad cafodd ei gyhoeddi mis diwethaf gan Barclays.

Yn 么l yr adroddiad, mae disgwyl i bobl wario 拢848 yr un ar gyfartaledd ar docynnau, teithio, llety a gwisgoedd.

Meddai Alun Gibbard: 鈥淢ae rhai pobl sydd yn mynd i gyngherddau yng Nghaerdydd yn galw draw y diwrnod ar 么l ny鈥 neu鈥檙 diwrnod cyn. Gobeithio bydd Swifties yn gwneud union hynny.鈥