Â鶹ԼÅÄ

E-feicwyr modur 'peryglus yn rhoi tref 'dan warchae'

Disgrifiad,

Tref 'dan warchae' oherwydd e-feicwyr modur 'peryglus'

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ym Mlaenau Gwent wedi dweud wrth y Â鶹ԼÅÄ eu bod yn teimlo "dan warchae" oherwydd y ffordd mae rhai unigolion yn teithio'n beryglus ar e-feiciau neu feiciau trydan pwerus.

Mae rhai o drigolion Tredegar wedi disgrifio sut mae cerddwyr mewn perygl o gael eu taro, gydag un cynghorydd lleol yn rhybuddio mai mater o amser yw hi cyn y bydd "rhywun yn cael ei ladd".

Dywed Heddlu Gwent Police bod ymgyrch ar waith yn y sir i fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Oherwydd y broblem, mae rhai perchenogion busnes yn ystyried gadael y dref ac mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi clywed am rwystredigaethau tebyg mewn mannau eraill.

Dywedodd cynghorydd yn Sir Ddinbych wrth raglen Dros Frecwast bod yna broblem yn nhref Rhuddlan hefyd oherwydd ymddygiad "haerllug" rhai pobl ar bob math o feiciau.

Ffynhonnell y llun, TikTok
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau a fideos wedi eu cyhoeddi ar wefannau fel TikTok sy'n dangos enghreifftiau o yrru e-feic modur yn anghyfrifol

Mae yna ddau fath o feic sy'n cael ei yrru gyda chymorth modur trydanol. Yn gyffredinol, mae'r rhai â phŵer is yn cael eu hystyried yn rhai tebyg i feiciau cyffredin a'r rhai pŵer uwch yn debyg i feiciau modur.

Ond mae modd addasu rhai beiciau trydanol sy'n edrych fel beiciau cyffredin i fod yn fwy pwerus ac mae gofyn i bobl wisgo helmed a chael trwydded i'w defnyddio.

Dywed Heddlu Gwent bod sawl cam i fynd i'r afael â phroblemau gan gynnwys defnyddio dronau sy'n gallu gweld yn y tywyllwch.

Dan weithgaredd diweddaraf Ymgyrch Greyhawk, fel gafodd 16 o bobl eu harestio am amryw o droseddau.

'Bydd rhywun yn cael ei ladd'

"Rwy'n credu bydd rhywun yn cael ei ladd," dywedodd y Cynghorydd Haydn Trollope, sy'n cynrychioli Tredegar ar Gyngor Blaenau Gwent.

"Rwy' wir yn credu taw ond trwy ras Duw ar y funud nad yw pobl wedi cael eu lladd.

"Mae sawl mân ddamwain wedi bod, near misses..."

Mae'n dweud bod y dref wedi gweld mwy o e-feiciau modur yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae sawl person wedi rhoi gwybod iddo eu bod wedi cael eu taro tra'n gerdded ar balmentydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Haydn Trollope ei fod yn poeni y bydd rhywun yn cael ei ladd

Dywedodd un dyn yng nghanol y dref wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod Tredegar yn dref "dan warchae" a phryder arall sydd gan y Cynghorydd Trollope yw y "bydd pobl yn cymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain".

"Mae sawl person wedi dweud wrtha'i 'os dwi'n eu dal nhw…',"meddai.

"Rwy'n dweud 'plîs gadewch i'r heddlu wneud eu gwaith'. Mae gen i barch mawr at yr heddlu, ond yn yr achos yma rwy'n teimlo bod eu dwylo wedi clymu."

Ychwanegodd bod yr heddlu "yr un mor rhwystredig â finnau" ynghylch y sefyllfa, ond mae'r heddlu'n dweud na chawson nhw adroddiadau ynghylch yr achosion o e-feiciau modur yn taro unigolion.

'Haerllug ofnadwy'

Mae problemau tebyg ar balmentydd Rhuddlan, medd y cynghorydd sy'n cynrychioli'r dref ar Gyngor Sir Ddinbych, a hynny'n ymwneud â phob math o feiciau.

Mae'n "beryglus iawn i bobol gerdded ar y prif stryd yn ymyl y siopa'," dywedodd Arwel Roberts wrth raglen Dros Frecwast.

"Cerddwyr sy'n dod gynta' ar y palmentydd, nid beicia'."

Ffynhonnell y llun, Google Earth
Disgrifiad o’r llun,

Mae e-feicwyr modur ar balmentydd yn poeni pobl yn nhref Rhuddlan hefyd

Mae beicwyr hefyd, meddai, yn anwybyddu gorchymyn i ddod oddi ar eu beiciau wrth groesi bont i gerddwyr ger Afon Clwyd a'u gwthio.

"Dwi fy hunan wedi gofyn 'Hei, 'dach chi ddim i fod i farchogaeth eich beic tra ma' pobol yn cerdded ar y bont' a mi gewch chi cheek a rhegi arnoch chi, er bod arwydd yn d'eud i chi beidio marchogaeth eich beic...

"Maen nhw'n haerllug ofnadwy - ma' nhw'n meddwl mai nhw sydd biau'r palmentydd a nhw biau'r bont yma yn Rhuddlan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymddygiad rhai e-feicwyr modur yn brawychu pobl sy'n aros yn y gwesty ble mae Michelle Grierson yn gweithio

Nôl yn Nhredegar, mae yna bryder bod e-feicwyr modur anghyfrifol yn amharu ar fusnesau lleol.

Yn ôl rheolwr bwyty'r Tredegar Arms, Michelle Grierson, mae pobl yn gwneud wheelies "lan a lawr y stryd a rownd y cylchdro" a hyd yn oed "tu allan i'r orsaf heddlu".

Mae'n gallu bod yn "eitha' brawychus" i'w gwesteion, yn arbennig pan fo'r e-feicwyr yn eu sarhau'n eiriol.

Dywed pobl leol eu bod yn rasio o amgylch cloc y dref, sydd ar gylchdro yng nghanol y dref, gan anwybyddu arwydd ffordd yn gwahardd hynny.

Mae rhai hefyd yn gwisgo balaclafas yn hytrach na helmedau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa yn niwsans i'r gymuned ac i fusnesau, medd maer Tredegar, Kevin Phillips

Mae'r sefyllfa'n "gwaethygu", medd maer Tredegar, Kevin Phillips, sy'n rhedeg busnes yn y dref.

Mae rhai perchnogion busnes eraill, meddai, "yn barod i adael y dref", oherwydd mae e-feiciau'n "teithio ar gyflymderau gwirion ar balmentydd" yn "niweidiol i'w busnesau, cleientiaid ac unrhyw un sy'n cerdded i'r siop".

Gyda sawl perchennog yn dweud bod y y sefyllfa'n fygythiad i'w busnesau, mae'n bryder gan Mr Phillips y gallai amharu ar gamau i adfywio'r dref.

"Mae'n anodd iawn i ddod â busnesau a chefnogaeth busnes i mewn oherwydd y bygythiad yma," dywedodd.

"Mae'n niwsans i fusnesau ac ein cymuned."

Pynciau cysylltiedig