Â鶹ԼÅÄ

20mya: Cynnydd mawr mewn troseddu yn y gogledd

20mya
Disgrifiad o’r llun,

Roedd un o'r rheiny a gafodd eu dal yn goryrru yn gwneud 70mya mewn man 20mya

  • Cyhoeddwyd

Cafodd dros 740 o yrwyr eu dal yn torri'r terfyn cyflymder 20mya yng Nghymru fis Ebrill.

Gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y gyrwyr a gafodd eu dal yng ngogledd Cymru - o 8 ym mis Mawrth i 251 ym mis Ebrill.

Ymysg y rheiny a gafodd eu dal yn goryrru mewn mannau 20mya ym mis Ebrill, roedd un yn gwneud 70mya.

Mae gostwng y terfyn cyflymder o 30 i 20mya mewn ardaloedd trefol wedi bod yn un o'r newidiadau mwyaf dadleuol yn hanes llywodraeth ddatganoledig Cymru.

Y nod yw achub bywydau ac annog mwy o bobl i gerdded neu seiclo, ond mae'r newid wedi hollti barn.

Cafodd 251 eu dal yn y gogledd, tra mai 491 a gafodd eu dal trwy'r de a'r canolbarth.

Roedd y nifer yn y de a'r canolbarth yn ostyngiad bychan o'r 514 a gafodd eu dal ym mis Mawrth.

Cyflymder cyfartalog y rheiny a gafodd eu dal yn goryrru ym mis Ebrill oedd ychydig dros 30mya.

Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates wedi dweud y bydd rhai ffyrdd yn cael eu newid yn ôl i 30mya yn dilyn anniddigrwydd ymysg y cyhoedd, a bydd hynny'n digwydd o fis Medi.

Cafodd yr erthygl hon ei haddasu ar 10 Mai ar ôl i Heddlu Gogledd Cymru ddweud eu bod wedi cam-gofnodi'r ffigwr o 251 fel 660. Ymddiheurodd gan roi bai ar nam system data.

Pynciau cysylltiedig