Ynys M么n: Gwrthod cynllun am 33 o dai fforddiadwy

Disgrifiad o'r llun, Roedd bwriad i adeiladu 33 o dai fforddiadwy ar y safle bron i ddwy acer ym mhentref Gwalchmai
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru Fyw

Mae cynllun i godi 33 o dai fforddiadwy ym M么n wedi cael ei wrthod gan bwyllgor cynllunio'r cyngor sir.

Roedd tirfeddiannwr wedi mynnu fod rhaid caniat谩u datblygiadau o'r fath "er mwyn gwarchod cymunedau Cymraeg yr ynys".

Ddydd Mercher fe wnaeth pwyllgor cynllunio'r cyngor sir bleidleisio yn erbyn y cais yng Nghwalchmai, a hynny o wyth pleidlais i un.

Roedd y cyngor cymuned lleol yn gwrthwynebu'r cais, a nifer o drigolion lleol hefyd.

Yn groes i argymhelliad swyddogion cynllunio fis diwethaf fe wrthododd y pwyllgor roi s锚l bendith yn sgil pryderon ei fod yn "or-ddatblygiad".

Roedden nhw hefyd yn cwestiynu a oes angen cymaint o dai yn lleol.

Gyda'r datblygiad y tu allan i ffin ddatblygu'r pentref roedd yna bryderon hefyd am yr effaith ar wasanaethau lleol.

Cadarnle'r iaith

Er fod 55.8% o drigolion M么n yn siaradwyr Cymraeg yn 么l y cyfrifiad diwethaf, mae'r ffigyrau'n amrywio o ardal i ardal.

Mae'r iaith yn dueddol i fod ar ei chryfaf yng nghanol yr ynys yn hytrach na'r ardaloedd arfordirol.

Yn ardal Gwalchmai, sydd yng nghalon M么n, mae 67.1% yn nodi eu hunain fel siaradwyr Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Disgrifiad o'r llun, Mae'r iaith Gymraeg ar ei chryfaf yng nghanol yr ynys

Barn swyddogion cynllunio'r cyngor oedd fod codi 33 o dai fforddiadwy ar Stryd y Goron, sy'n amrywio o un i bedair llofft yr un, yn dderbyniol.

Er wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu'r pentref, mae'r polis茂au cynllunio yn caniat谩u datblygiadau o'r fath os ydynt yn cynnig tai sydd wedi'u dynodi fel rhai sy'n gyfan gwbl fforddiadwy.

Yn 么l AMP Construction, a wnaeth darparu'r cais, mae "galw arbennig am eiddo dwy a thair ystafell wely" yn yr ardal.

"Byddai'r anheddau yn darparu cymysgedd o dai cymdeithasol a rhent canolradd, yr union gymysgedd i'w drafod a'i gytuno gyda'r Gwasanaethau Tai wrth benderfynu y cais cynllunio."

'Mae'n rhaid gofyn pam?'

Mae ffigyrau adran dai Cyngor M么n yn dangos fod 50 ar restr tai cymdeithasol ward Trewalchmai.

Ond parhau i gwestiynu'r ffigyrau mae rhai, serch hynny, gan fynnu bod angen gwrando ar y gwrthwynebiad yn lleol.

Barn 'Gr诺p Gwarchod Gwalchmai' oedd nad oedd y cynllun yn addas yn ei ffurf bresennol.

"Gyda Gwalchmai yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig M么n yn 么l ystadegau Llywodraeth Cymru, buasai ychwanegiad o 10% i boblogaeth y pentref yn achosi mwy o bwysau ar yr is-adeiledd, sy'n gwegian yn barod," meddai Maldwyn Owen o'r gr诺p.

Ychwanegodd hefyd fod pryderon am fwy o ymddygiad gwrth-gymdeithasol os oes mwy o fflatiau un llofft yn cael eu hadeiladu yn y pentref.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Maldwyn Owen mai "ychydig iawn o sylw" cafodd ei roi yn adroddiad y cyngor i farn pentrefwyr

Yr un yw'r farn gan yr aelodau lleol, gyda'r Cynghorydd Douglas Fowlie wedi siarad yn erbyn y cais yn ystod cyfarfod fis Mai.

"Os dydy'r 33 o dai yma ddim yn mynd i bobl leol yna bydd yn cael effaith ar y Gymraeg," meddai.

"Mae Rhosneigr, sydd i lawr y l么n [ac hefyd o fewn ward Crigyll], yn bentref pennaf Saesneg ei iaith, mae Gwalchmai yn bentref unigryw."

Ychwanegodd y Cynghorydd Neville Evans: "Dwi ddim yn erbyn tai fforddiadwy, dwi wedi treulio'r rhan fwyaf o fy oes wleidyddol yn dadlau o blaid tai fforddiadwy.

"Ond pan mae 119 o lythyrau yn gwrthwynebu, y cyngor bro lleol yn erbyn yn unfrydol a chyfarfod cyhoeddus yn denu 60 o bobl yn llesio barn yn gwrthwynebu, mae'n rhaid gofyn pam?

"Mae cwyn wedi mynd i Gomisiynydd yr Iaith yngl欧n 芒'r effaith ar ardal lle mae'r iaith wedi bod yn gryf, iaith y gymuned hyd yma ac un o'r ychydig gymunedau prin ym M么n lle mae'r siaradwyr Cymraeg yn y mwyafrif.

"Ydy'r effaith ar y Gymraeg wedi ei ystyried yn drylwyr?"

'Mae'n amlwg fod angen tai'

Ond yn 么l un o berchnogion y safle o dan sylw, mae'r angen am y 33 t欧 fforddiadwy "wedi ei brofi".

Dywedodd Alan Griffiths, a dyfodd i fyny yng Ngwalchmai ac sydd wedi dychwelyd i'r ynys wedi 40 mlynedd, fod "wir angen" tai fforddiadwy yng nghalon yr ynys lle mae'r iaith ar ei chryfaf.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Wedi ei leoli ar Stryd y Goron, mae'r safle y tu allan i'r ffin datblygu

"Mae'n amlwg fod angen tai yng Ngwalchmai... mae pobl yn dod o Loegr ac yn prynu tai, second homes a holiday homes, ac yn symud i Sir F么n ac eisiau bod wrth ymyl y m么r," meddai wrth Cymru Fyw.

"Y prisiau tai o gwmpas Sir F么n rwan... fedrith pobl ddim fforddio nhw.

"Lle dwi'n byw yn Llanfair-yng-Nghornwy, does na bron ddim un yn siarad Cymraeg yma, dwi ddim yn dallt lle mae pobl lleol i fod i fyw, fedran nhw ddim fforddio byw yn agos i'r m么r.

"Mae 'na band yn ganol M么n lle mae pobl yn dal i siarad Cymraeg, ond mae'n mynd yn llai... ti angen minimum o 70% o siaradwyr i gynnal cymunedau Cymraeg.

"Os ti'n symud pobl sy'n siarad Cymraeg i Gaergybi does gen ti ddim siawns, fyddan nhw byth yn cyfarfod pobl sy'n siarad Cymraeg a ti am golli'r iaith.

"Mae'n arbennig o bwysig fod planning yn caniat谩u pobl i godi tai mewn llefydd fel Gwalchmai a Llangefni... heb godi tai ti'n chwalu'r iaith yn Sir F么n."

Tra'n cydnabod y byddai'n elwa o'r datblygiad yn cael ei ganiat谩u, gan ei fod wedi etifeddu'r tir sawl blwyddyn yn 么l gan ei daid a'i nain, fe erfynodd ar y gwrthwynebwyr i ailfeddwl.

Gan fynnu mai "siaradwyr Cymraeg lleol fyddai'n elwa o'r tai", dywedodd hefyd y byddai'n apelio os bydd cynghorwyr yr ynys yn parhau i bleidleisio yn erbyn y cynllun.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Alan Griffiths: "Os fedran ni ddim adeiladu tai fforddiadwy yng Ngwalchmai, does dim gobaith i'r iaith Gymraeg ar Sir F么n"

"Dwi'n difaru mod i heb siarad hefo pobl Gwalchmai ar y dechrau achos fysa'n well os fysa pobl wedi clywed yn union beth sydd am ddigwydd.

"Ond faint ohonyn nhw sydd isho tai fforddiadwy ar gyfer eu hunain? Da ni ddim yn clywed gan y bobl sydd wir angen y tai 'ma.

"Mae na 50 o bobl yn disgwyl am dai yng Ngwalchmai... fel arall be' sy'n debyg o ddigwydd ydi fod nhw'n gadael yr ynys.

"Mae'n rhaid i ni agor ein breichiau, os ddim fydd Gwalchmai yn mynd yn hynach, mae'n rhaid cael mwy o blant i gadw cyfleusterau fel yr ysgol yn fyw."