Carcharu dyn fu'n twyllo henoed a phobl bregus ym M么n

Disgrifiad o'r llun, Roedd Joseph Oliver, 34 o Blackpool, wedi targedu鈥檙 henoed a phobl fregus yng ngogledd Cymru ac yn Sir Gaerhirfryn

Mae dyn fu鈥檔 twyllo pobl fregus i dalu am waith 鈥渆chrydus鈥 i'w tai wedi ei ddedfrydu i bron i bum mlynedd o dan glo.

Collodd y dioddefwyr fwy na 拢500,000 rhyngddynt.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Joseph Oliver, 34 o Blackpool, wedi targedu鈥檙 henoed a phobl fregus yng ngogledd Cymru ac yn Sir Gaerhirfryn.

Roedd naw o鈥檙 39 o ddioddefwyr yn byw ar Ynys M么n, medd y cyngor sir.

Dywedodd un dyn ei fod yn teimlo fel 鈥渉en ddyn ff么l鈥 wedi iddo dalu dros 拢132,000 am waith a gafodd ei alw鈥檔 鈥渆rchyll鈥 gan arbenigwr.

Plediodd Oliver yn euog o redeg dau fusnes twyllodrus dros gyfnod o chwe blynedd.

Byddai鈥檙 cwmn茂au, LJ Property Solutions a Windowseal Limited, yn dechrau drwy gynnig gwarantau ar ffenestri, drysau ac ystafelloedd gwydr i gwsmeriaid.

Ond twyll oedd y rhain, meddai鈥檙 erlynydd Lee Reynolds, a'r cwsmeriaid i bob pwrpas yn talu miloedd i gael eu ffenestri wedi'u glanhau.

Roedd y gwarantau yn esgus i gael mynediad at gartrefi鈥檙 cwsmeriaid, medd Mr Reynolds, ble fyddai Oliver yn dychwelyd a pherswadio鈥檙 dioddefwyr bod angen mwy o waith ar eu tai.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Joseph Oliver ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun

鈥淢egis dechrau oedd yr anonestrwydd,鈥 medd Mr Reynolds.

Byddai Oliver yn dweud bod peryg o dd诺r yn mynd i mewn i'r tai, neu fod yna risg o d芒n, a bod angen gwaith ar unwaith i ddatrys y problemau.

鈥淩oedden nhw鈥檔 cael eu dal yn wystl. Byddai Oliver yn rhoi pwysau arnyn nhw i dalu am fwy o waith," medd yr erlynydd.

鈥淩oedd y dioddefwyr yn cael eu trin fel cash cows, gyda Mr Oliver yn mynd yn 么l atynt dro ar 么l tro.鈥

Clywodd y llys fod Oliver yn targedu pobl h欧n oedd yn berchen ar eu tai ac a oedd yn 鈥渇regus iawn鈥.

Oed cyfartalog ei ddioddefwyr oedd 82, gyda sawl un llawer yn h欧n.

Dywedodd yr erlyniad bod cyfanswm o 拢5m wedi mynd trwy gwmn茂au Oliver, a'r dioddefwyr wedi colli 拢544,300 rhyngddynt.

鈥淩oedd yr effaith ar y dioddefwyr yn sylweddol. Roedden nhw鈥檔 teimlo dan fygythiad ac wedi cael ofn. Roedden nhw鈥檔 teimlo cywilydd, embaras ac yn fregus,鈥 medd Mr Reynolds.

Dywedodd yr amddiffyniad fod Oliver wedi dangos 鈥渆difeirwch go iawn,鈥 a鈥檌 fod wedi ysgrifennu llythyr at y barnwr yn disgrifio ei droseddau fel rhai 鈥渇fiaidd鈥 oedd yn ei wneud i 鈥渄eimlo鈥檔 s芒l鈥.

'Stori boenus y tu 么l i bob punt'

Wrth ei ddedfrydu i bedair blynedd a naw mis dan glo, dywedodd y Barnwr Timothy Petts fod Oliver wedi 鈥渄efnyddio鈥檌 ddioddefwyr am gymaint o arian a phosib".

鈥淵 tu 么l i bob punt mae stori bersonol boenus,鈥 meddai.

鈥淢i wyt ti wedi difetha bywyd pobl mewn oed ar ddiwedd eu hoes.

鈥淭rodd cartrefi dy ddioddefwyr yn ffynhonnell straen a phroblemau ariannol, yn hytrach na harbwr diogel."

Cafodd Oliver ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr busnes am 10 mlynedd.

Bydd Oliver hefyd yn wynebu gwrandawiad enillion troseddau er mwyn ceisio adfer ychydig o arian ei ddioddefwyr.

Dywedodd Cyngor Sir Ynys M么n eu bod yn croesawu'r euogfarn ddydd Llun, "ac yn canmol y dioddefwyr am eu dewrder wrth helpu鈥檙 swyddogion Safonau Masnach i erlyn y dyn yma".

"Mae cymryd mantais o bobl agored i niwed yn gwbl annerbyniol ac ni fyddwn yn gadael i hyn ddigwydd.鈥