Menyw fu farw ym mreichiau ei mab wedi 'ei methu' gan y GIG

Disgrifiad o'r llun, Sandra Bartlett (chwith) gyda'i hwyres, Deanna Ellis
  • Awdur, Meleri Williams
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Mae teulu menyw fu farw yn dweud ei bod 鈥渨edi ei methu鈥 ar 么l cael ei hanfon adref o鈥檙 ysbyty gyda phoenau yn ei brest.

Cafodd Jade Ellis, 36 o Gwmafan yng Nghastell-nedd Port Talbot, ei hanfon i'r ysbyty ar 么l ffonio 111 ym mis Mawrth 2020.

Dywed ei theulu iddi gael ei rhyddhau o Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr o fewn hanner awr.

Ar 么l cyrraedd adref, cafodd drawiad ar y galon oherwydd ceulad gwaed, a bu farw ym mreichiau ei mab 18 oed.

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Jade Ellis, 36 wedi iddi gael trawiad ar y galon oherwydd ceulad gwaed

Mae'r GIG wedi talu 拢160,000 i'r teulu ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymddiheuro.

Dywedodd Deanna Ellis, 20, na fydd hi byth yn anghofio鈥檙 鈥渟ioc鈥 o weld ei mam yn gorwedd yn farw ar lawr yr ystafell wely.

鈥淩hedais i fyny'r grisiau i'w gweld, a chwympo i鈥檙 llawr,鈥 meddai.

鈥淔e gymerodd ddau neu dri o bobl i fy nhynnu oddi arni oherwydd doedd hi ddim yn dihuno.鈥

Roedd Jade Ellis wedi teithio adref o'r ysbyty mewn tacsi ar 么l cael ei rhyddhau yn ystod oriau m芒n 28 Mawrth 2020.

Yn fuan ar 么l cyrraedd adref, gwaethygodd y poenau yn ei brest, a chafodd drawiad ar y galon.

鈥淩oeddwn i鈥檔 meddwl fy mod i鈥檔 edrych ar fywyd rhywun arall,鈥 meddai ei mam, Sandra Bartlett, 61.

Dechreuodd mab Jade roi CPR iddi wrth iddo siarad 芒 pharafeddyg ar y ff么n ac aros am ambiwlans, ond roedd yn rhy hwyr.

'Fe wnaethon nhw fethu fy merch'

鈥淧an aeth hi i mewn i鈥檙 ysbyty, fe ddylai hi fod wedi cael prawf gwaed,鈥 ychwanegodd Ms Bartlett.

鈥淔e allai hi fod wedi cael rhywbeth i deneuo鈥檙 gwaed, gallen nhw fod wedi rhoi stentiau i mewn, ond yn fwy na hynny, fe allen nhw fod wedi ei chadw yn yr ysbyty.鈥

Dywedodd Ms Bartlett fod dau feddyg annibynnol o Lundain wedi asesu achos Jade yn drylwyr.

Ychwanegodd: 鈥淢ae鈥檙 GIG yn wasanaeth anhygoel, ond fe wnaethon nhw fethu fy merch. Fe wnaethon nhw ei methu trwy rywbeth mor syml 芒 phrawf gwaed.鈥

Disgrifiad o'r llun, Deanna a Sandra o flaen murlun o Jade, gafodd ei baentio gan yr artist graffiti lleol, Steve Jenks

Mae plant Jade wedi cael 拢130,000 o arian iawndal gan y GIG. Mae 拢30,000 wedi mynd tuag at ffioedd cyfreithiol.

Dywed Ms Bartlett fod y boen y mae'r teulu wedi'i dioddef yn ddi-droi'n-么l.

鈥淐es i gyfarfod gyda鈥檙 ysbyty ac fe ddywedon nhw鈥檙 frawddeg na wna鈥 i fyth anghofio: 鈥榤ae camgymeriadau鈥檔 digwydd鈥.

鈥淔e gostiodd y camgymeriad hwn fywyd menyw ifanc.鈥

Bwrdd iechyd 'wedi dysgu' o'r achos hwn

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod eu 鈥渃ydymdeimlad diffuant鈥 gyda theulu Jade.

鈥淔el bwrdd iechyd, rydym wedi ymddiheuro i deulu Jade am yr achosion lle na chyrhaeddodd ei gofal y safonau uchel yr ydym yn eu disgwyl ar gyfer ein holl gleifion, ac wedi sicrhau bod dysgu o鈥檙 achos hwn wedi llywio gwelliannau mewn gofal ar gyfer y dyfodol.鈥

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw.