Â鶹ԼÅÄ

Cŵn defaid Cymru'n cystadlu am le yn y tîm cenedlaethol

Ci defaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae treialon cŵn defaid wedi bod yn cael eu cynnal yng Nghymru ers 1873

  • Cyhoeddwyd

Bydd cŵn defaid gorau Cymru yn dangos eu sgiliau dros y tridiau nesaf ar fferm yng Ngheredigion.

Mae treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal ar fferm Dolyrychain ger Pontrhydfendigaid.

Bydd y gystadleuaeth yn penderfynu pa gŵn a pha fugeiliaid fydd yn cynrychioli Cymru yn y treialon rhyngwladol yn Yr Alban ym mis Medi.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan y Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol (ISDS), a ffurfiwyd ym 1906 i gofrestru cŵn defaid mewn llyfryn blynyddol.

Mae dros 6,000 o gŵn bach yn cael eu cofrestru bob blwyddyn.

Mae cŵn o bob gwlad yn cael eu cynnwys yn y llyfr, sy'n caniatáu i fridwyr nodi rhieni a manylion llinach cŵn cofrestredig, gan eu helpu i wneud penderfyniadau bridio.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Davies mai 15 o gŵn fydd yn cael eu dewis i gynrychioli Cymru

Cadeirydd treialon Cymru yw John Davies.

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher dywedodd: "Mae cŵn gore Cymru'n dod yma am dridiau - 50 bob dydd - ac mae'r 15 gore dros y tridie'n cynrychioli Cymru yn Yr Alban ym mis Medi.

"Ci o Gymru sy'n dal record y byd am werthu ci defaid - £28,000 - ac mae llwyddo mewn treialon yn neud gwahaniaeth i werthu ci.

"Mae pobl ar draws y byd yn chwilio am linach dda sy'n mynd i roi ci da iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal ar fferm Dolyrychain ger Pontrhydfendigaid

Dros 150 o flynyddoedd yn ôl, cyn i’r ISDS gael ei ffurfio, cynhaliwyd treialon cŵn defaid cyntaf a gofnodwyd ym Mhrydain yng Nghymru.

Ym mis Hydref 1873, trefnwyd treialon yn Y Bala gan R J Price o Ystad Rhiwlas.

Roedd tua 300 o bobl yn gwylio’r treialon, ac er bod y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn dod o Gymru, James Thompson a’i gi, Tweed, o’r Alban, enillodd y wobr gyntaf.

Mae Cymdeithas Cŵn Defaid Y Bala yn credu bod hyn wedi arwain at y gystadleuaeth ryngwladol gyntaf, ar ôl i Mr Thompson frolio bod cŵn Yr Alban yn well.

Yn ymateb, dywedodd bugeiliaid Cymru eu bod yn barod i gwrdd ag unrhyw un arall i weld pwy oedd â'r cŵn gorau.

Ym 1876 cynhaliwyd digwyddiad rhyngwladol yn Llundain, ac yn ôl Cymdeithas Cŵn Defaid Y Bala, "adferwyd balchder y bugeiliaid lleol" oherwydd "yn y dosbarth cyntaf, enillwyd y wobr gan John Thomas, Cwm yr Aethnen, Hirnant, gyda Modi, gast pedair oed".

Disgwyl cefnogwyr o dramor

Mae treialon cŵn defaid modern yn dilyn rheolau’r ISDS, sy’n anelu at fesur gallu’r cŵn i weithio gyda’u bugeiliaid.

Mae llwyddo yn gofyn am arddangosiad ymarferol o'r sgiliau y mae'r ci yn eu defnyddio wrth ei waith bob dydd.

Mae’r ISDS yn disgwyl gweld cefnogwyr o dramor yn nhreialon Cenedlaethol Cymru yr wythnos hon, gyda llawer o fugeiliaid Cymru’n cael eu dilyn gan gynulleidfaoedd brwd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-bencampwr byd Aled Owen eisoes wedi cystadlu yn y treialon

Un sydd eisoes wedi cystadlu eleni yw'r cyn-bencampwr byd Aled Owen o Gorwen.

"O'n i'n rhedeg yn gyntaf bore 'ma ac mi 'naeth Jim [ei gi] yn reit dda d'eud y gwir," meddai.

"Mae'n gwrs digon anodd... mae o'n wastad ond mae ambell le 'di'r ci ddim cweit yn clywed achos ma' isho gyrru'r defaid 175 o lathenni i'r dde.

"Ond mi ges i'r gatiau i gyd so mi aeth yn o lew."

Bydd rhaid i Aled ddisgwyl tan ddiwedd y tridiau cyn gwybod a fydd yn llwyddo i gyrraedd tîm Cymru.

Pynciau cysylltiedig