Â鶹ԼÅÄ

Diolch am derfyn 20mya ar ôl i ferch, 5, gael ei tharo yn Llŷn

Nanw a Ffion Jones yn eu cartref ym Mynytho
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nanw wedi dychwelyd i'r ysgol - ond mae ei mam, Ffion, wedi cychwyn deiseb yn galw am fesurau pellach

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i ferch bum mlwydd oed a gafodd ei tharo gan gerbyd yn galw am fesurau pellach i arafu traffig mewn pentref ym Mhen LlÅ·n.

Roedd merch Ffion Wyn Jones, Nanw, yn croesi'r lôn ar y brif ffordd ym Mynytho pan ddigwyddodd y ddamwain ddydd Mercher diwethaf.

Cafodd ei rhuthro i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ar ôl torri ei phenglog a chael cyfergyd (concussion).

Ond yn ffodus roedd yn ddigon holliach i fod yn ôl yr ysgol ddydd Mawrth.

Mae ei mam yn diolch fod y gyrrwr wedi cadw i'r uchafswm cyflymder o 20mya.

Ond dywedodd fod angen mesurau ychwanegol gan nad yw pob cerbyd yn cadw i'r terfyn hwnnw.

Mae hi wedi cychwyn deiseb yn galw am fesurau fel twmpathau a chroesfan sebra.

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddan nhw'n ystyried addasiadau pellach.

'Wedi gallu bod llawer gwaeth'

"Os fysa'r gyrrwr yna yn gwneud mwy na 20 [mya] mi fysa'n sefyllfa ni lot gwaeth," meddai Ffion Wyn Jones, sy'n byw ym Mynytho.

"Oedd yr heddlu yn dweud eu hunain os 'sa nhw'n gwneud 30 mi fasa'r impact yna wedi bod lot gwaeth."

Dywedodd nad oedd hi am weld teuluoedd eraill yn gorfod mynd drwy brofiad tebyg.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y teulu newydd ddychwelyd o wyliau yn Sbaen pan ddigwyddodd y ddamwain

"Mae'n bryder am fod hi'n un o'n prif ffyrdd ni yma ym Mhen LlÅ·n, mae 'na gymaint yn trafeilio arni yn ddyddiol," ychwanegodd.

"Mi oeddan ni wedi bod i ffwrdd ac newydd ddod yn ôl o Sbaen y diwrnod hwnnw - oedd Nanw wedi bod at nain a cerdded at y parc oeddan nhw ar y pryd.

"Dwi'n meddwl oedd Nanw wedi ecseitio cael gweld ei ffrindia' i ddweud hanes Sbaen ac mi ddigwyddodd y peth mor sydyn.

"Eiliadau mae'n gymyd i rwbath ddigwydd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nanw yn yr ysbyty tan ddydd Gwener

Ar ôl derbyn galwad yn dweud fod ei merch ar y ffordd i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr, dywedodd Ffion fod yr oriau nesaf yn "hunllef".

"Ti'n meddwl am bob math o bethau dwyt, a ddim yn gwybod beth i ddisgwyl tan ti'n cyrraedd ynde," meddai.

"Ond 'da ni yn lwcus ofnadwy ac mi fasa pethau wedi gallu bod lot, lot gwaeth.

"Fractured skull gafodd hi ac effaith concussion ar ôl y ddamwain.

"Amser mae hwnnw isio - ond diolch byth mae hi'n ôl yn hi ei hun ac yn ôl yn yr ysgol."

Ers mis Medi 2023, mae polisi newydd gan Lywodraeth Cymru yn golygu mai 20mya, yn hytrach na 30mya, yw'r terfyn cyflymder bellach mewn ardaloedd trefol, gyda chynghorau lleol yn gallu gwneud eithriadau.

Ar hyn o bryd mae'r polisi yn cael ei adolygu wedi i bron i hanner miliwn o bobl arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid ac mae nifer o arwyddion ffyrdd wedi'u difrodi.

Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng draean yn chwarter olaf y llynedd.

Cafodd ffigyrau newydd eu cyhoeddi gan Drafnidiaeth Cymru ddydd Iau, sy'n dangos fod ffyrdd 20mya yn rhoi dau funud yn ychwanegol ar siwrnai.

'Anodd cadw i'r 20mya arni'

Mae Ffion Wyn Jones wedi cychwyn deiseb i geisio rhoi pwysau ar Gyngor Gwynedd ac asiantaethau eraill i gyflwyno mesurau pellach i arafu traffig ar y B4413, sy'n mynd drwy'r pentref.

"'Swn i'n licio gweld speed bumps yn cael eu rhoi - mae'n lôn syth ac mor anodd cadw i'r 20 arni.

"[D]wi 'di gweld pobl yn gwneud lot mwy na 30mya yma a dwi'n gw'bod fod pobl yn y pentra' wedi bod wrthi ers blynyddoedd i drio gwneud rhywbeth am y peth ond bod 'na ddim wedi dod ohono.

"Y pryder oedd yr adeg hynny fod rhywbeth am ddigwydd, ond yn amlwg rŵan mae rhywbeth wedi digwydd ac mae angen cymryd gwers ohono cyn i rywbeth arall ddigwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl trigolion lleol mae'n ffordd brysur ac mae'n rhaid ei chroesi gan fod y palmant yn dod i ben yn y man yma

Mae'r cyngorydd sir lleol yn cefnogi'r galwadau am fesurau pellach.

"Mae eisiau sbio ar hwn a gwneud rhywbeth - mae o'n bryder ers peth amser cyn i mi fod yn gynghorydd," meddai'r Cynghorydd Angela Russell.

"Diolch bod y gyrrwr yn gwneud ond 20mya. Pe bae o wedi bod yn gwneud mwy na hynny mi fasa ganddon ni ddipyn mwy o broblem rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bywydau'n werth mwy na chost gosod twmpaethau ffordd, medd y Cynghorydd Angela Russell

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth. Dwi'n gwybod bod yr heddlu a'r cyngor yn cydweithio gyda'i gilydd ac am ddod allan i sbio yn fanwl iawn ar be fedrwn ni wneud.

"Mae'r cae chwarae a'r ysgol mor agos ac mae 'na deuluoedd bach ifanc newydd ddod i'r stad tu ôl i mi felly fydd mwy o blant.

"Dwi'n meddwl fod angen sbio arni yn ei gyfanrwydd.

"Y problem fwya' sydd gynnon ni ydi'r gyllideb, ond mae bywyd yn costio llawer mwy na unrhyw dwmpathau 'da ni'n mynd i'w gwneud."

'Dymuniadau gorau i'r teulu'

Mewn ymateb dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn gofyn i yrwyr barchu'r uchafswm cyflymder o 20mya er mwyn sicrhau diogelwch.

"Rydym yn ymwybodol o'r digwyddiad penodol yma ac yn anfon ein dymuniadau gorau i’r teulu sydd wedi eu heffeithio," meddai llefarydd.

"Byddwn yn ystyried os oes yna addasiadau pellach y byddai modd eu cyflwyno i gefnogi’r cyfyngiad cyflymder 20mya ac o hynny os byddai'n fuddiol gwneud cais am gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru."

Pynciau cysylltiedig