鶹Լ

Cefnu ar gwotâu rhywedd y Senedd yn 'warthus'

Aelodau'r Senedd yn y siambrFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Byddai pleidiau wedi gorfod dewis o leiaf 50% o fenywod fel ymgeiswyr dan y cynlluniau

  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau'r Senedd wedi pleidleisio o blaid cefnu ar gynlluniau i orfodi pleidiau i sicrhau bod o leiaf 50% o ymgeiswyr yn fenywod ar gyfer etholiadau'r Senedd.

Yn ystod y ddadl ar lawr y Senedd brynhawn Mawrth, fe fynegodd y gwrthbleidiau siom ynghylch y penderfyniad.

Dywedodd yr AS Plaid Cymru Sioned Williams bod y tro pedol yn "gywilyddus".

Yn ôl y Ceidwadwr Darren Millar mae dilyn y polisi sydd bellach wedi ei dynnu'n ôl wedi bod yn "wastraff arian trethdalwyr".

Dywedodd y gweinidog Llafur Jane Hutt bod hwn nawr yn gyfle nawr i bleidiau gydweithredu ar greu canllawiau gwirfoddol i sicrhau Senedd fwy cynrychioladol yn 2026.

Ym mis Gorffennaf fe gafodd y syniad ei ohirio tan o leiaf 2030, ond mae gweinidogion bellach wedi pleidleisio i dynnu'r cynllun yn ôl yn llwyr.

Mae gweinidogion yn mynnu eu bod wedi ymrwymo i gael Senedd fwy hafal o ran rhywedd, a chael mwy o fenywod i fod yn rhan o wleidyddiaeth.

Roedd y cynlluniau eisoes wedi profi'n ddadleuol, gyda chwestiynau a oedden nhw'n gyfreithlon, ac a oedd gan y Senedd y pŵer i wneud y newid.

Roedd Plaid Cymru o blaid y ddeddfwriaeth, gan ddweud y byddai'n "gam mawr ymlaen i gryfhau democratiaeth".

Ond roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu, gan ddweud y dylai'r ymgeiswyr gorau gael eu dewis, beth bynnag eu rhywedd.

Ffynhonnell y llun, Senedd TV
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan a Jane Hutt yn ystod trafodaeth ddydd Mawrth yn siambr y Senedd

Wrth ymateb i'r bleidlais, dywedodd Sioned Williams ei bod hi'n "siomedig iawn ar y diffyg arweinyddiaeth a'r newid cyfeiriad" gan y Llywodraeth.

Aeth ymlaen i feirniadu’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, am "ddathlu” mai hi yw merch gyntaf Cymru i fod yn Brif Weinidog tra'n "rhwymo'r union fesur sydd er mwyn sicrhau bod gan fenywod lais cyfartal yn y Senedd hon".

Ychwanegodd Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol bod y penderfyniad yn “siomedig".

Yn ôl Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, mae modd "gweithio trwy’r penderfyniad siomedig hon".

Dywedodd bod y canlyniad yn bwysig o ran dangos yr hyn y gallwn ei wneud yn "ymarferol" yn y Senedd.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr ymuno gyda Llafur a chefnogi cefnu ar y cynllun.

Enillodd y llywodraeth y cynnig o 40 pleidlais i 12.