Planhigyn prin yn dychwelyd i fynyddoedd Eryri

  • Awdur, Megan Davies
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru

Yng nghornel gudd o Gwm Idwal yn Eryri mae hanes yn blaguro.

Ar 么l diflannu am ddegawdau, mae planhigyn brodorol wedi dychwelyd i鈥檙 ardal diolch i ymdrechion arbenigwyr sy鈥檔 benderfynol o adfer natur.

Mae pobl yno wedi croesawu鈥檙 newyddion 鈥渃adarnhaol鈥 bod y Tormaen Crymddail, neu鈥檙 Saxifraga rosacea, yn 么l ar y mynyddoedd.

鈥淢aen nhw'n berlau o Eryri a Chymru ac maen nhw鈥檔 berchen i ni gyd,鈥 meddai Rhys Wheldon-Roberts, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal.

'Uchafbwynt fy ngyrfa'

Robbie Blackhall-Miles ydy鈥檙 garddwr arbenigol o elusen Plantlife sydd wedi edrych ar 么l y planhigyn dros y blynyddoedd a gweithio ar y prosiect i鈥檞 ailgyflwyno i鈥檙 mynyddoedd.

鈥淢ae鈥檔 uchafbwynt go iawn o fy ngyrfa,鈥 meddai.

Mae o鈥檙 farn bod ailgyflwyno鈥檙 planhigyn yn gyfle i sicrhau y bydd y blodau yn blaguro ym myd natur am flynyddoedd i ddod.

鈥淥s ydych chi鈥檔 meddwl am fioamrywiaeth Brydeinig fel jig-so, yr hyn dwi eisiau gwneud yw sicrhau bod cymaint o鈥檙 darnau bach 鈥榥a ar gael ag sy鈥檔 bosib.鈥

Disgrifiad o'r llun, Robbie Blackhall-Miles sydd wedi edrych ar 么l y planhigyn dros y blynyddoedd

Mae nifer o blanhigion prin yn tyfu yng Nghwm Idwal, a hynny yn sgil yr ecosystem Arctig-Alpaidd sy鈥檔 golygu eu bod nhw鈥檔 ffynnu yn yr amodau.

Ond ers y 60au, mae鈥檙 Tormaen Crymddail wedi diflannu o鈥檙 tirwedd yn sgil ffactorau amrywiol megis ffermio, newid hinsawdd a phobl yn pigo planhigion yn ormodol.

鈥淢ae鈥檙 Deyrnas Unedig ymhlith y gwledydd sydd wedi colli鈥檙 mwyaf o ran natur,鈥 meddai鈥檙 Athro Julia Jones, sy鈥檔 wyddonydd gwarchodaeth ym Mhrifysgol Bangor.

鈥淩ydyn ni鈥檔 gweld rhywogaeth ar 么l rhywogaeth yn diflannu fel rhyw fath o seren yn cael ei diffodd.鈥

'Mor gyffrous'

Yn 么l Rhys Wheldon-Roberts mae hi 鈥渕or gyffrous鈥 i gael y Tormaen Crymddail yn 么l.

鈥淢ae o鈥檔 gam cyffrous nesa鈥 o ddegawdau o waith cadwraethol sydd wedi bod yn digwydd yn y warchodfa natur," meddai.

Ychwanegodd mai ei obaith yw gweld y planhigyn yn 鈥渓lwyddiannus鈥 unwaith yn rhagor ar y mynydd, wedi blynyddoedd o waith gan Robbie Blackhall-Miles a鈥檌 d卯m.

Disgrifiad o'r llun, De wnaeth y planhigyn ddiflannu o Eryri am ddegawdau

Twll Du yng Nghwm Idwal oedd cartref naturiol olaf y math yma o Dormaen, cyn iddi gael ei darganfod gan ddyn o'r enw Dick Roberts wrth iddo gerdded yn yr ardal yn 1962.

Roedd Mr Roberts wedi cadw鈥檙 planhigyn a phenderfynu ei blannu yn ei ardd.

Doedd e ddim yn sylweddoli ar y pryd ei fod e鈥檔 chwarae rhan allweddol o sicrhau dyfodol planhigyn oedd ar fin diflannu yn y gwyllt.

'Cydio yn y dychymyg'

鈥淢ewn gwirionedd mae gennym ddisgynyddion o'r deunydd Cymraeg gwreiddiol hwnnw i'w rhoi yn 么l i'r gwyllt," meddai Robbie Blackhall-Miles.

"Mae'r rhain yn doriadau o doriadau o doriadau o doriadau o'r planhigion hynny."

Mae鈥檙 gallu i ailgyflwyno鈥檙 rhywogaeth yn gyfle i 鈥測sbrydoli pobl鈥, meddai鈥檙 Athro Julia Jones.

鈥淢ae鈥檙 rhywogaethau bach yma gyda鈥檙 gallu i gydio yn y dychymyg.

鈥淢i fydd hi鈥檔 gwneud i bobl feddwl am yr hyn ry鈥檔 ni wedi colli a鈥檙 hyn gallwn ni gael yn 么l.鈥