Â鶹ԼÅÄ

Trawsnewid hen bencadlys Cyngor Conwy yn ganolfan fusnes

Bodlondeb, Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Bodlondeb yn cael ei drawsnewid a'i ailwampio fel canolfan busnes ac arloesi

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni o Gaerdydd wedi sicrhau prydles hen bencadlys Cyngor Sir Conwy.

Bydd y cwmni newydd, Ideas Forums, yn trawsnewid hen swyddfeydd Bodlondeb yng Nghonwy i fod yn ganolfan fusnes ac arloesi.

Mae'r cwmni yn gobeithio creu "cannoedd o swyddi newydd" a dod â "degau o filiynau o bunnoedd i’r economi leol dros y pum mlynedd nesaf".

Mae'r brydles ar gyfer yr adeilad hanesyddol yn unig - adeilad a fydd yn cael ei ailwampio fel rhan o'r cynlluniau.

Nid yw’r coetir, y gofeb rhyfel, y lawnt, y maes criced, y cyrtiau tennis na’r maes chwarae i blant wedi’u cynnwys yn y cynnig, a byddant yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio, meddai'r cyngor.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd y cyngor Charlie McCoubrey fod "dyfodol cynaliadwy a chyffrous i’r adeilad"

Mae'r cyngor yn cael gwared ar swyddfeydd Bodlondeb wedi iddyn nhw benderfynu defnyddio Coed Pella ym Mae Colwyn fel y brif swyddfa.

Ar ôl i aelodau’r Pwyllgor Craffu Cyllid ac Adnoddau a’r Cabinet gefnogi dyfarnu’r brydles i Ideas Forums Ltd, dywedodd arweinydd y cyngor Charlie McCoubrey fod y cwmni'n "cynnig dyfodol cynaliadwy a chyffrous i’r adeilad, ac yn darparu cyfleoedd datblygu economaidd i dref Conwy a’r ardal ehangach".

Mae Ideas Forums yn cael ei redeg gan Nick Pritchard, Francesca James, a'r Athro Dylan Jones-Evans.

Dywed y cwmni y byddan nhw'n cefnogi entrepreneuriaid drwy gynnal digwyddiadau fel Gwobrau Mawreddog Entrepreneuriaid Prydain, Mynegai Fast Growth 50 y DU, Gwobrau Busnesau Newydd y DU a’r Ŵyl Syniadau.

'Cyfleoedd i bobl ifanc'

Dywedodd Nick Pritchard: “Fel gŵr angerddol o ogledd Cymru sydd eisoes wedi creu llawer o swyddi i weithwyr Cymraeg trwy fy musnesau eraill, hoffwn ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc sydd â syniadau gwych i aros a ffynnu yn yr ardal.

"O ganlyniad, byddwn yn cynnig lle a chymorth am ddim i’r rheiny sy’n dymuno bod yn entrepreneuriaid a chreu busnesau newydd cyffrous a fydd yn tyfu ac yn cael effaith ar eu sectorau.

"Trwy drawsnewid Bodlondeb yn ganolfan entrepreneuriaeth o safon fyd-eang, ein nod yw creu cannoedd o swyddi newydd a degau o filiynau o bunnau i’r economi leol dros y pum mlynedd nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Dylan Jones-Evans yn un o gyfarwyddwyr cwmni Ideas Forums

Dywedodd yr Athro Jones-Evans: “Rwy'n falch iawn o allu dod yn ôl i ogledd Cymru i wneud Bodlondeb yn ffynhonnell o fentergarwch ac arloesedd yng nghanol Conwy ac yn lleoliad ar gyfer syniadau arloesol a mentrau trawsnewidiol.

"Trwy feithrin ecosystem ddeinamig o arloesedd a buddsoddiad mewn lleoliad pensaernïol syfrdanol, ein nod yw llywio datblygiad economaidd, creu swyddi gwerth uchel, a gwneud Conwy’n ganolbwynt byd-eang ar gyfer entrepreneuriaeth â photensial uchel."

Pynciau cysylltiedig