'Nes i adael coleg i helpu mam efo costau byw'

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Beca adael coleg i helpu ei mam gyda chostau byw

Er ei bod yn gweithio鈥檔 llawn amser mae Beca Williams o Ddeiniolen yn meddwl y bydd angen ail swydd arni i allu fforddio gwersi gyrru.

Fe wnaeth y fenyw ifanc 18 oed adael y coleg dwy flynedd yn 么l i helpu ei mam gyda chostau byw, ac ar un pwynt roedd hi'n gweithio "12 awr y diwrnod - saith diwrnod yr wythnos".

Yn fuan wedyn fe brynodd gar iddi鈥檌 hun, sy'n eistedd tu allan i d欧 ei mam heb ei ddefnyddio.

Dywedodd Beca ei bod hi bron 芒 rhoi鈥檙 gorau i鈥檙 syniad o yrru erbyn hyn, gyda gwersi鈥檔 costio 鈥溌70 yr wythnos鈥 鈥 a鈥檙 rhan fwyaf o鈥檌 chyflog eisoes yn mynd tuag at filiau.

"Nes i gadw'r car fel motivation rili, ond mae 'na ond gymaint ti'n gallu neud tan ti'n deud i dy hun 'does 'na'm point, dwi methu fforddio fo'," meddai.

"Dio ddim just y gwersi, ti efo'r insurance, y tax, petrol, a bob dim arall sy'n dod efo fo."

Disgrifiad o'r llun, Mae Beca'n dweud ei bod hi methu fforddio gwersi gyrru

Mae gan Beca swydd llawn amser yn gweithio ar y peiriannau gwn茂o mewn ffatri gyfagos ond mae鈥檔 teimlo bod pobl ifanc o deuluoedd incwm is yn cael eu 鈥渉anwybyddu鈥 gan wleidyddion.

Yr etholiad cyffredinol fis nesaf fydd y tro cyntaf iddi allu pleidleisio, ond dyw Beca ddim yn si诺r a fydd hi'n gwneud hynny.

"Mae 'na lot o bobl yn stryglo. Mae'r argyfwng costau byw dal i fynd. Dydi prisiau pethau heb ddod lawr o gwbl eto," meddai.

鈥淢ae teuluoedd yn trio cael eu clywed a'n trio dweud wrth wleidyddion, ond does dim byd yn cael ei wneud.

"Ti'n teimlo fel ti'n sownd mewn loop ti methu cael allan o, a mae o am fod yr un peth am weddill dy fywyd, achos dyna be' ydy bod yn oedolyn.

"Dwi 'di cael lot o bobl yn gofyn os dwi am bleidleisio blwyddyn yma achos dwi newydd droi'n 18. Ar y funud, dwi'm yn teimlo fel bod nhw'n gwrando."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd mam Beca ei bod hi wedi gwneud yn glir i鈥檞 phlant na allen nhw "ddibynnu ar fanc mam" i'w hachub

Dywedodd Beca ei bod yn ddiolchgar bod ei swydd yn talu mwy na鈥檙 isafswm cyflog ar gyfer ei hoedran, ond nad yw'r 拢1,400 mae鈥檔 ei ennill bob mis yn ddigon i fforddio gwersi gyrru 鈥 a pharhau i dalu tuag at filiau鈥檙 cartref, bwyd a chostau tr锚n a bws.

Dywedodd ei bod yn teimlo bod llawer o bobl o'i hoedran hi wedi blino'n l芒n gan gostau byw.

"Dwi di sylwi fod lot o bobl oed fi yn mynd i hospitality, a lot o nhw'n gadael coleg fel nes i," meddai.

"Mae rhent yn 拢700 y mis - 'di hynna just ddim yn bosib ar gyflog rhywun sy'n 18 oed.

"Does genna ni ddim y pres i fynd i unrhyw le.

"Fedran ni ddim bod allan yn hwyr achos rhan fwyaf o'r amser mae gennym ni gyfrifoldebau dylia ni ddim cael yn 18."

Disgrifiad o'r llun, "Dwi methu cofio'r tro ola' aethon ni allan fel teulu," meddai mam Beca, Delyth

Mae mam Beca, Delyth, yn cytuno fod pethau鈥檔 mynd yn anoddach i鈥檞 phlant.

Dywedodd y rheolwr elusen, 46, sy鈥檔 fam sengl i dri, y bu鈥檔 rhaid iddi wneud yn glir i鈥檞 phlant na allen nhw "ddibynnu ar fanc mam" i'w hachub.

"Mae'r genhedlaeth yma wedi mynd trwy gymaint efo lockdown ac wedi methu allan ar gymaint," meddai.

"Pan o'n i'n ifancach, os o'n i isio mynd allan yn y nos o'n i'n gallu - ac o'n i ddim o deulu cyfoethog.

"R诺an maen nhw'n gorfod edrych ar 么l eu pres gymaint i bob dim."

'Di o ddim yn ddigon'

Dywedodd Delyth ei bod yn eistedd i lawr gyda Beca bob wythnos i edrych dros ei chyllideb a鈥檌 harian, ac mai鈥檙 unig bethau roedd hi'n ei wario ar ei hun oedd ei gwallt a'i hewinedd.

Dywedodd Delyth fod y teulu cyfan wedi cael trafferth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Dwi'n gweithio, dwi'n gwneud pres, ond 'di o ddim yn ddigon.

"O'n i'n arfer gallu gwneud y weekly shop am 拢45 - mae o'n ddwbl hynna wan.

"O'n ni'n arfer gallu mynd am ddiwrnodau allan bach, dim byd mawr.

"Ond dwi methu cofio'r tro ola' aethon ni allan fel teulu, 'di o ddim yn rhywbeth allwn ni fforddio gwneud ddim mwy."