麻豆约拍

Gwyliau haf 'yn teimlo'n hir' i ofalwyr ifanc

Nyfain a'i thadFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nyfain, 10, yn ofalwr ifanc i'w thad, Ger, sy'n byw 芒 chyflwr prin Friedreich's Ataxia

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 gwyliau haf yn gyfnod hir ac unig, yn 么l gofalwyr ifanc ac elusennau sy鈥檔 eu cefnogi.

Mae Isac, 13 o Fargoed ger Caerffili, yn gofalu am ei fam, sy鈥檔 defnyddio cadair olwyn, a鈥檌 ddwy chwaer.

鈥淒w i鈥檔 rhoi bwyd arno, glanhau a rhoi fy chwiorydd i鈥檙 gwely,鈥 meddai.

Er ei fod yn gwybod pa mor bwysig yw ei r么l, mae鈥檔 dweud ei fod yn poeni y bydd yr haf yn anodd ymhell o gefnogaeth yr ysgol.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru鈥檔 dweud bod "bwlch" wrth bontio rhwng tymor yr ysgol a'r gwyliau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi er mwyn sicrhau seibiannau byr a gweithgareddau i ofalwyr ifanc.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Isac, 13, yn gofalu am ei fam sy'n defnyddio cadair olwyn

Fe newidiodd bywyd Isac ddwy flynedd yn 么l pan gafodd ei fam lawdriniaeth ar ei chefn wnaeth arwain at ddifrod i鈥檞 nerfau.

Mae鈥檔 golygu ei bod yn gorfod defnyddio cadair olwyn ac mai ei mab sy鈥檔 gorfod gofalu amdani a鈥檌 merched, sy鈥檔 chwech a phedair oed.

鈥淢ae鈥檔 gallu bod yn anodd, mae鈥檔 gallu gwneud i ti deimlo鈥檔 unig,鈥 dywedodd Isac.

鈥淥nd hefyd, mae鈥檔 deimlad da bod ti鈥檔 gwbod bo鈥 ti鈥檔 gallu helpu.

鈥淲eithie' fi鈥檔 teimlo bod fi eisiau cael bywyd normal a mynd mas gyda ffrindiau.鈥

Mae鈥檔 poeni am y cyfnod o chwech wythnos o wyliau gan fod llawer o gefnogaeth iddo yn Ysgol Cwm Rhymni.

鈥淢ae鈥檔 rhoi cyfle i fi, os oes rhywbeth ar fy meddwl, i siarad a chael e bant o鈥檙 meddwl.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nyfain, 10, yn edrych ymlaen i beidio gorfod gwneud gwaith ysgol ond yn poeni am beidio gweld ei ffrindiau yn aml

Yn Hwlffordd, Sir Benfro, mae Nyfain, sy鈥檔 ddeg oed, yn cytuno bod cyfnod o wyliau鈥檔 gallu bod yn anodd.

Mae鈥檔 gofalu am ei thad sy鈥檔 byw 芒 chyflwr prin Fredreich鈥檚 Ataxia, sy鈥檔 gwaethygu dros amser, ac sy鈥檔 golygu ei fod yn defnyddio cadair olwyn.

鈥淒yw e ddim yn gallu symud coesau鈥檔 dda, a bad hand coordination,鈥 meddai.

鈥淵n y bore dwi鈥檔 rhoi tabledi i Dad, gwneud te, a wedyn weithiau dw i鈥檔 chwarae gyda fe.

鈥淒w i鈥檔 helpu fe i fwyta鈥 a helpu gyda鈥檙 ci lot.鈥

Dywedodd nad yw鈥檔 gallu mynd i chwarae gyda鈥檌 ffrindiau yn aml.

鈥淢ae鈥檔 teimlo鈥檔 hir [yr haf].鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pennaeth cynorthwyol Ysgol Caer Elen, Elen Griffiths, yn dweud bod cefnogaeth ar gael i ofalwyr ifanc yn yr ysgol

Mae gan yr ysgol mae Nyfain yn ei mynychu, Ysgol Caer Elen, ddeuddeg gofalwr ifanc yn ddisgyblion yno ar hyn o bryd.

Dywedodd y pennaeth cynorthwyol, Elen Griffiths, fod yr ysgol yn chwarae r么l bwysig yn eu cefnogi yn ystod y tymor.

鈥淢ae sefyllfaoedd cartref pawb yn wahanol, ond mae鈥檔 bwysig bo鈥 ni fel ysgol yn ymwybodol o鈥檙 hyn ma鈥 nhw鈥檔 delio gyda gartref,鈥 dywedodd.

鈥淢a鈥 hynny er mwyn bo鈥 ni鈥檔 gallu gweithio gyda nhw yn yr ysgol.鈥

Mae elusen Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru鈥檔 rhybuddio bod yn rhaid i ofalwyr ifanc gael cyfleoedd am seibiannau byr dros yr haf.

鈥淢ae e wastad yn bryder i ni bod 'na ddim digon o gefnogaeth i ofalwyr ifanc,鈥 dywedodd eu Pennaeth Materion Allanol, Catrin Edwards.

鈥淢aen nhw鈥檔 gwneud gymaint i bobl ma' nhw鈥檔 cefnogi yn eu teuluoedd. Yn yr ysgol, ma鈥 nhw鈥檔 cael cyfle i gymdeithasu, cyswllt gyda athrawon sy鈥檔 eu hadnabod.

鈥淥nd pan ddaw y gwyliau haf, ma na fwlch o bosib, ac mae鈥檔 bosib y bydd y gofalwyr ifanc hynny yn gwneud fwy o oriau o ofalu.鈥

Cyfleoedd chwaraeon, hamdden a chymdeithasol

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd seibiannau i ofalwyr ifanc.

"Mae ein cronfa seibiannau byr o 拢9m yn darparu 30,000 o gyfleoedd ychwanegol i ofalwyr o bob oed gymryd rhan mewn chwaraeon, hamdden neu weithgareddau cymdeithasol.

"Rydym hefyd wedi cefnogi tair g诺yl flynyddol ar gyfer gofalwyr ifanc a fydd yn cael ei chynnal ym mis Awst 鈥 cyfle i fwynhau eu hunain heb unrhyw bryderon ariannol.

"Gall gofalwyr ifanc hefyd gael mynediad i鈥檙 Gronfa Cymorth i Ofalwyr, sy鈥檔 rhoi grantiau i ofalwyr di-d芒l ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol.鈥