'Cynlluniau hamdden yn helpu gwella iechyd y genedl'

  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd Newyddion S4C

Mae angen i wleidyddion wario mwy ar gynlluniau hir dymor i wella iechyd y genedl os ydyn nhw am fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfwng o fewn y gwasanaeth iechyd.

Yn 么l pennaeth cwmni hamdden Byw鈥檔 Iach yng Ngwynedd, mae pryder y gallai toriadau i wasanaethau hamdden arwain at fwy o bwysau ar restrau aros heb ymyrraeth.

Yn 么l Amanda Davies dydy鈥檙 cyllid sy鈥檔 cael ei roi i wasanaethau ataliol, sef pobl sy鈥檔 cael eu cyfeirio at hamdden gan eu meddyg, heb gynyddu ers 2013.

Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 dweud eu bod wedi "ymrwymo i wella iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru鈥.

Mae鈥檙 Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi dweud yn gyson bod angen i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb dros iechyd eu hunain drwy gadw'n heini a bwyta鈥檔 iach.

Ar draws Cymru, drwy gyllid gan y Llywodraeth a Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cynghorau'n darparu gwasanaethau ataliol sy鈥檔 ceisio cadw cleifion yn heini ac osgoi'r angen i ddibynnu ar y gwasanaeth iechyd.

Mae cleifion yn gallu cael eu cyfeirio at y gwasanaeth gan eu meddyg teulu ac yn derbyn cymorth gan hyfforddwr personol fel rhan o gr诺p.

Disgrifiad o'r llun, Mae Mariann Roberts wedi elwa o gael ei chyfeirio at y cynllun hamdden lleol

Ar 么l dioddef poenau yn ei chefn fe gafodd Mariann Roberts o ardal Porthmadog ei chyfeirio at y gwasanaeth gan ei meddyg, ac mae hi'n dweud bod y gwasanaeth wedi bod yn hynod ddefnyddiol.

鈥淒oeddwn i ddim yn sylweddoli bod 'na le i bobl fel fi ddod yma a dilyn cynllun ond mae o ar gael ac mae o werth popeth,鈥 meddai.

鈥淵 diwrnod cyntaf... wel. mi a'th yr awr ac yna awr a hanner a sgwrsio efo pobl eraill."

Drwy ei haelodaeth mae hi鈥檔 cael defnyddio鈥檙 cyfarpar yn y canolfannau hamdden ac yn dweud y bydd hi yn 鈥渂endant鈥 yn parhau heibio cyfnod y cwrs mae hi鈥檔 ei ddilyn.

'Mae help ar gael'

I nifer sydd wedi dioddef trawma meddygol neu salwch mae鈥檙 profiad o fynd i ganolfannau ffitrwydd a hamdden yn gallu bod anodd, ond yn 么l yr hyfforddwr Graham Pierce mae help ar gael.

鈥淸Hyder] ydi un o鈥檙 problemau mwyaf y mae angen i bobl ddod dros i ddod mewn i鈥檙 sefyllfa yma,鈥 meddai.

鈥淢ae pawb yn gwybod erbyn hyn bod ymarfer yn beth da iddyn nhw ond sut i neud, faint ohono a sut i neud o鈥檔 saff... mae hynny am roi bobl off ddod yma鈥.

Disgrifiad o'r llun, Mae angen codi hyder pobl er mwyn iddyn nhw wneud mwy o ymarfer corff, medd Graham Pierce

Yn 么l y ganolfan, dyma'n union y math o wasanaethau sydd eu hangen ledled Cymru er mwyn cadw鈥檙 genedl yn ffit a iach, a cheisio osgoi mwy o bobl yn dibynnu ar y gwasanaeth iechyd.

Ond gyda chyllid y gwasanaeth yn segur ers 2013 mae 鈥榥a boeni y gallai pwysau cyllidebau cynghorau sir Cymru arwain at lai o wasanaethau tebyg.

鈥'Swn i'n d'eud wrth wleidyddion 'mae rhaid i chi wneud penderfyniadau r诺an sydd am gael effaith ella mewn 10 mlynedd',鈥 meddai Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw鈥檔 Iach.

鈥淒wi鈥檓 yn meddwl, yn gyffredinol, fod hynny wedi digwydd yn y gorffennol.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Amanda Davies yn galw am benderfyniadau 'dewr' i gyllido gwasanaethau ataliol yn well

'Rhaid troi pob carreg'

鈥淢ae angen i rhywun fod yn ddewr ac edrych i'r tymor canolig, a buddsoddi r诺an i wella iechyd y genedl.

鈥'Swn i鈥檔 dadlau mai gwasanaeth salwch sydd ganddon ni, nid gwasanaeth iechyd sydd ganddon ni.

"Oll mae鈥檔 neud ydi ymdrin 芒 salwch... mae鈥檙 gwasanaeth iechyd yn fan hyn.鈥

Mae鈥檔 bwnc sydd wedi ysgogi arweinwyr Cyngor Gwynedd i ysgrifennu'n uniongyrchol at Lywodraeth Cymru.

Yn 么l Dirprwy Arweinydd y sir, Nia Jeffreys, mae 'na boeni y gallai rhagor o doriadau arwain at lai o ddarpariaeth - yn groes i鈥檙 hyn sydd ei angen.

Dywedodd: 鈥淢i fydd yn rhaid inni droi bob carreg i neud yn si诺r bod ni鈥檔 gallu cael cyllideb cytbwys felly yn anffodus dwi鈥檓 yn meddwl bod dim byd oddi ar y cardiau.鈥

Disgrifiad o'r llun, Ceisio cael 'cyllideb cytbwys' yw'r nod, ond mae'r Cynghorydd Nia Jeffreys yn cydnabod y bydd hynny'n her dan yr amgylchiadau ariannol presennol

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i wella iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru鈥.

"Mae ein cynllun presgripsiwn cymdeithasol eisoes yn helpu unigolion i gysylltu gydag adnoddau o fewn eu cymunedau,鈥 dywedodd llefarydd.

鈥淓r pwysau eithriadol ar ein cyllideb rydym wedi parhau i wario yn y meysydd hyn ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

鈥淩ydym hefyd 芒 mesurau ar waith i wella mynediad at swyddi, cynyddu brechiadau a mynd i鈥檙 afael ag ysmygu a fepio.鈥