Â鶹ԼÅÄ

Chwaraewr Fiji yn pledio'n euog i ymosodiadau rhyw

Api RatuniyarawaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Api Ratuniyarawa wedi bod yn ymarfer fel rhan o garfan y Barbariaid ar ddiwrnod yr ymosodiadau ar 31 Hydref

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol Fiji wedi pledio'n euog i ymosodiadau rhyw, yn dilyn digwyddiadau'n ymwneud â thair menyw yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth Api Ratuniyarawa, 37, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun wedi ei gyhuddo o ymosod drwy dreiddiad, ac o ymosodiad rhyw.

Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud ag ymosodiadau yn erbyn tair dynes ym mar Revolution yng nghanol y ddinas rhwng 31 Hydref a 1 Tachwedd.

Roedd Ratuniyarawa wedi ei enwi yng ngharfan y Barbariaid i herio Cymru ar 4 Tachwedd yng Nghaerdydd.

Clywodd y llys y bu Ratuniyarawa yn chwarae i Wyddelod Llundain cyn i'r clwb fynd i'r wal, ac nad oes ganddo glwb ar y funud.

Fe dderbyniodd y barnwr Tracey Lloyd Clarke ei gais am fechnïaeth, gan osod sawl amod.

Bydd gan Ratuniyarawa gyrffyw rhwng 19:00 a 07:00 pob dydd, ac mae'n rhaid iddo fynychu gorsaf heddlu Northampton yn ddyddiol.

Nid yw chwaith yn cael dod i Gymru oni bai am ar gyfer ei ddedfrydu ar 9 Ionawr.